Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 440. MAI, 1852. Cyf. XXXV Y BYW A'R MARW YN EU PERTHYNAS A'U GILYDD. GAN V PARCH. D. EVANS, YORK PLACE, ABERTAWY. " Na thristaoch, megis ereill, y rhai nid oes ganddynt obaith."—1 Thes. iv. 13. MrD. GOLYÍiYDDION,— Traddodwyd y bregeth ganlynol gan y Parch. D. Evans, yn addoldy York /'lace, Abertawy, y Saboth cyntaf ar ol iddo glnddu ei f'atn anwyl. Dywedir fbd ei fam yn ddynes dduwiol iawn. Gwelir fod cyfatebiad rhwrg cyineriad y bregeth, a'r cyflwr ag yr oedd Mr. Evans ynddo yn amser ei thraddodiad. Mae tuedd (tendency) y bregeth yn dda iawn ; gwna cWlleniad y nodiadau tarawiadoî, naturiol, ac efengyîaidd sydd ynddi, ddylanwadu yn ddy- raunol ar feddyliau y canoedd a'u darllenant ; yn neillduol y rhai hyny ag sydd wedi claddu cyfeillion crefyddol. Diau jt teimla darllenwyr y Serem yn ddiolchgar i weinidog parchus Yorlc Place am y bregeth, ac efallai na ddigiant wrthyf inau am fod yn offerynol i'w chael i Seren Gomer. Mewn gobaith y caiff y Cyniry gymaint o fwynhad wrth ei darllen ag a gafodd y Saeson wrth ei gwrandaw, cyflwynwyf hi yn awr i sylw y cyhoedd. Mathetes. Amgylchiadau a wnant yn aml ddwyn gwerthfawrogrwydd gwrthddrycb.au idd ein golwg, pa rai a ystyriem o'r blaen yn ddi- werth a diddefnydd. Ni welir gwerth cysgod hyd nes teimlir gwres yr haul—cael ein goddiweddid gan ystorm a wna loches yn ddymunol. Trallodion a phrofedigaethau a ddangosant ddymunoldeb ffynonellau cysur. Un o brif ragoriaethau y Gyfrol ysbrydol- edig yw ei chyfaddasrwydd i bob amgylch- iad ; yn mba sefyllfa bynag ein gosodir gan ragluniaethau Duw, mae yma ryw beth ar ein cyfer, er ein gwellhau, ein cysuro, a'n lloni. Mae yma oleuni mewn tywyllwch, a nerth mewn gwendid. Ond pa mor werth- fawr a lluosog bynag fyddo y darpariadau hyn, nis gallwn eu gwir brisio hyd nes ein gosodir mewn amgylchiadau yn mha rai y teimlwn eu hangen. Nid pan mewn nerth a gwroldeb, ond pan mewn gwendid ameth- ìant y profwn ni felysder yr addewid, " Ifr Arglwydd a rydd nerth i'r diffÿgiol, ac a amlhâ gryfder i'r dirym." Nid mewn iechyd a gwynfyd, ond pan mewn cystudd a thrallod y clywwn ni bereidd.dra y datganiad, "Canys 25 ein bỳr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol, yn gweithredu tragywyddol bwys gogoniant i ni." Nid pan yn ymgymysgu yn nghyfeiilachau ein hanwyliaid a'n teiml- adau yn ysgafn a dedwydd, ond pan yn wylo uwch eu beddau, a'n calonau yn ddrylliog a phrudd, y canfyddwn ni werth geiriau ein testun, " Na thristewch, megis ereill, y rhai nid oes ganddynt obaith." Gwnawn ychydig 0 sylwadau arnynt. 1. Gwna y geiriau arwyddo ei bod yn beth naturiol i dristâu ar ol ein cyfeillion a'n perthynasau ymadawedig. Ni ddywedir, "Na thristewch," ond " na thristewch fel rhai heb obaith." Peidio galaru sydd an- nichonadwy—anifail yw dyn heb deimlad. Anwar-ddyn yw y person heb ddagrau. Mae Duw wedi bwriadu i ni wylo, ac i'r dyben hyny, wedi agor ffynonau o ddagrau yn ein natur ; y dyn a geisia genyf beidio galaru ar 01 un ag oedd anwyl i mi, a ddirmyga ac a sarhâ fy nynoliaeth, a anmharcha fy^natur, ac a wrthwyneba amcanion fy Nghrëwr. Pan y dattodir y cylymau agosaf, ac y dryllir y rhwymau tirionaf a'n huna â'n caredigion, nis gallwn lai na theimlo. Rhwygir y fyn- wes ag aeth pan y dadwreiddir gwrth- ddrychau ein serchiadau, pa rai oeddynt wedi cael eu magu au meithrin o'i mewn. Pan y cyfrana Duw ei roddion, derbyniwn hwynt gyda gweniadau o ddiolchgarwch, pan y dyga efe hwynt ymaith, rhoddwn hwynt i fyny gyda defnynau o ddagrau. Mae y ffolled a gawn ar ol perthynasau duwiol yn galw arnom i alaru; weithiau, cawn golled- ion tymorol, ond nid yw y rhai hyny yn haeddu cael eu cyffelybuâ'r colledion moesol ac ysbrydol a gawn. Yn marwolaeth per- thynas duwiol, diffoddir llusern, yn ngoleuni pa un y dymunem rodio—symudir ymaith siampl, a ymdrechem efelychu—terfynir dy- lanwadau, ag oeddynt bob amser yn effeitn- iol er ein cymhell i rinwedd a'n hattal rhag drwg—dystewir gweddiau ag oeddynt ddyda a nos yn esgyn i'r nef ar ein rhan. Pwy wrth feddwl am hyn na ofidiai ? Nid oea