Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 437. CHWEFROR, 1852. Cyf. XXXV. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. D. JONES, FELINGANOL. CAN Y PARCH. JOHN JONES- Dylai cofiantwr fod yn adnabyddus iawn â'r person ag y byddo yn ysgrifenu ei hanes, ac yn darlunio ei deithi meddyliol a'i nodwedd- au moesol; bn ditFyg o adnabyddiaeth fanwl felly â Mr. Jones, ynghyd ag ystyriaethau ereill, yn agos a fy narbwyilo i beidio cymeryd mewn llaw y gorchwyl a dciechreuwyf yn bresenol. Er hyny, mae rhai rhesymau wedi troi y fantol i'r ochr arall. Yn gyntaf, yr oedd Mr. Jones yn werth ysgrifenu ei hanes ; melidithiwyd y ddaear filoedd o weithiau â chreaduriaid, ag y byddai yn fendith i'r byd pe gellid claddu eu coffadwriaethau gyda eu hesgyrn yn nhiriogaeth angeu : nid yw ein diweddar frawd i'w restru yn mysg y dos- barth ofnadwy hyny. Yr wyf wedi cael ar ddeall hefyd, nad oes neb arall yn debyg o gofnodi amgylchiadau ei fywyd; ymddiriedwyd y gorchwyl i Mr. Price o Lynlleifiad, ond nid oedd yn gyfleus iddoef ymaflyd ynddo ; am hyny, dymunodd Mr. Price, a Robert Jones, brawd y cofiant- edig, arnaf i wneud fy ngoreu i osod yr hanes canlynol gerbron y cyffredin, ac anfonasant i mi yr ychydig ddefnyddiau ag oedd gan- ddynt, fel y gallaswn gyrhaedd yr amcan hwnw. Yn mhellach, meithrinwn y teiml- adau mwyaf mynwesol tuag ato pan yr oedd yn fyw, o ganlyniad, parchwyf ei goffadwr- laeth ar ol iddo farw. Yr ystyriaethau uchod, mewn cysylltiad ag ychydig ereill ag nad yw o un pwys i'w nodi, sydd wedi gogwyddo fy meddwl i gydsynio â chais Mr. Price a Mr. Jones. Gan fod yr hanesion ag sydd at fy «gwasanaeth, i raddau yn brin, bydd i mi dalu mwy o sylw i'w gymeriad fel dyn ac fel pregethwr, nag i'w hanes yn annibynol ar amgylchiadau. Meddwl a mawredd moesol yw y pethau pwysicaf mewn cysylltiad â phawb. Perchir coffadwriaethau enwogion «fwy gadw arluniau o'u cyrff; gwaith y lüwiedydd yw arluniŵcorff, a gorchwyl yr ysgrifenydd yw darlunio talent a desgrifio cymeriad. Dyn yw y gwrthddrych hawddafac ^rùdasolafa greodd D.uw, enaid yw gogoniant dyn, a mawredd moesol yw addurn hwnw, yf ayn * ddengysftti gorchwyl yr ysgiifen- ydd yn bwysicach yn ei berthynas â'r byd moesol na gwaith yr arluniwr; dylid talu llawer o warogaeth i gymeriadau meddyliol a moesol dynion cyhoeddus. Gelwir sylw y darllenydd yn mlaenaf, at hanes boreuol Mr. Jones. Dywedir iddo gael ei eni ar yr 31ain o Fawrth, yn y flwyddyn 1813, mewn Fferm o'r enw Llandanwy, yn swydd Feir- ionydd. Nid ydym yn cael ar ddeall fod un enwogrwydd neillduol yn perthyn i'r lle hwnw; efallai fod genedigaeth Mr. Jones wedi ei godi i fwy o sylw nag un amgylchiad arall. Mae llawer o enwogion yr oesau wedi eu geni a'u magu mewn lleoedd felly ; mewn lle anenwog y ganed Luther; ac nid oedd Bethlehem yn uchel ar drostan hanesydd- iaetíi yn fiaenorol i enedigaeth Crist. Yn fynj^ch iawn bydd rhagluniaeth yn codi enw- ogion o leoedd ag na fyddo wedi henill sylw y cyfl'redin : ccdodd Joscph o'r pydew i fod yn Llywydd yn yr Aipht, a Moses o'r cawell brwyn i fod yn arweinydd i'r had etholedig; galwodd Dafydd oddiwrth y praidd i'r or- sedd, a'r apostolion oddiwrth eu rhwydau i bregethu yr efengyl; cloddir perlau o leoedd anial ac o grombil y ddaear, a chodir dynion o'r lleoedd mwyaf anenwogi droi yn y cylch- oedd pwysicaf, ac i gyflawnu y gorchestion penaf. Ricliard a Chatherine Jones oedd yr enwau wrth ba rai yr adweinid ei rieni. Mae yn debyg fod ei fam yn fyw yn awr, ac adweínir hi yn a\vr wrth yr enw uchod. Ymddengys eu bod yn ddynion call a gofalus am eu plant, o herwydd gwnaethant anfon Dafydd eu mab i'r ysgol pan yr oedd yn ieuanc iawn, at un Mr. Evans, gweinidog yr Annibynwj^r. Musgrell iawn yw llawer o rieni gydagolwg ar y pwnc hwn. Dywed- odd rhyw berson wrth yr ysgrifenydd fod Catherine Jones yn hen wraig gall; nid yn gyffredin y darllenir hanes enwogion, beb ganfod fod eu mamau yn fenywod synwyrol; yr hyn a ddcngy.s fod dylanwad y fam yn helaeth ar gvmeriad dyfodol ei phlentyn. Y geiriau, " ac enw eifamef oedd" &c, a lef- arant gyfrolauar y pwnc. Gofidus meddwlfod cynifer yn esgeulus iawn o addysg fenywaidd.