Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. «!------- Rhif. 434. TACHWEDD, 1851. Cyf. XXXIV. AA^AAAAAAMAAAAAAA/ ; 1EITHEG.-Y GYMRAEG. CANY PARCH. DAFYDD LLWYD ISAAC. LLYTHYR II. Cydweddiad iBiTHOEDD.-^Ar ol olrhain y gwahanol lwythau abohlogant Ewrop i'w tadog- iad, yr ydys yn fwy parod i wneyd ymchwil i'r ieithoedd a siaredir ganddynt. Yn ol Dr. Web- ster, mae cyfrif holl ieithoedd y byd, hen a diweddar, yn dair mil. Efe hefyd, yn gystal a ieithyddion eréîll, a ddengys y gellid profi fod yr holl ieithoedd hyn yn hanu o bump neu chwech o wreiddieithoedd; bydd cymaint o gydweddiad rhwng yr ieithoedd hyn, o ran ffurfiad geiriau,—treigliad berfau,—ag a brawf berthynas ac unrhywiaeth gwraidd. 1. Ydosparth Semaidd,—Hil Sem,—Asia. Y cyff, yr Hebraeg,—y Phaenigaeg, y Gald- aeg, yr Armanaeg, y Syriaeg a'r Arabaeg yn hanu o'r unrhyw gyff, yn y torllwyth cyntaf. Y disgynyddion yn yr ail radd ydynt y Bersiaeg, y Chinaeg, y Sanscrit. Nodweddiad gwa- hanredol y dosparth hwn yw symledd, eu rhediad o'r de i'r aswy ; eu geiriàu, gan amlaî, yn un a dwy silliawg—dim ond tair llythyren ; y rhagenwau yn gorfforedig yn y perwyddion; trawsffurfiad geiriau, drwy gysylltu olddodiaid a blaenddodiaid. Bydd yr ail dorÜwýth uchod yn nodedig am gyfansodd-eiriau; bydd y geiriau cyfansawdd hyn yn ddësgrifiad o'r peth neu y meddylrith a fwriedir ddangos, h. y., yn ansoddol. Ymddengys fod y dawn hyn ynTätod- weddu pob cyniaith,—mwy o natur nac o gelfyddyd ynddynt,—megys yn y Gytíusaëg, gwlaw-len, rhwyf-long, pell-eb-yr, Aber-go-ban-wy. Ni chynwys y Chineg, er engraifft, ond ychydig o wreiddolion, tua 380, ond trwy gymhlethiad y cyntefigion, &c, gwneir hi yn un o'r ieithoedd mwyaf cyflawn yn y byd. Dywed Syr Wiltíam Jones am y Sanscrit,—-Ei bod yn un o'r ieithoedd perffeìthiaf yn yr holl fyd, ei bod yn heleithach na'r Lladin, yn. ystwythach na'r Groeg, ac ei bod yn tebygu i'r Geltaeg mewn rhai pethau, megys yn a negidyddon, a'i grymusion. Mae y disgynyddion olaf a enwasom, yn dyfod, o honynt hwythau, yn eu tro, yn famieithoedd i dorllwythau ereill, sef ieithoedd amryfal ^presenol Asia ac Ynysoedd Môr y De, megys y Bengaleg, yr Indostaneg, y Malayeg, (yr hon mewn am- ryfal adieithoedd a siaredir drwy Ynysoedd Môr y De,) yn nghyd agieithoedd ereillbron ỳa annifeirol. 2. Y dosparth 4fricamddd,—Hil Pam,—AflSica yn benaf. Gwneir ieithoedd presenol Affrica fyny o falurion yr hen Libyaeg, y Coptaeg, a'r Ethiopaeg. Mab Ham sydd wedi aros hwyaf yr un man, yna gellir dysgwyl fod ei ieithoedd yn llai diwylliedig nag eiddo Asia ac Ewrop. Prif ieithoedd presenoi y dosparth hwn, ydynt yr Hottentoteg, yr Ashenfeg, y Gaffraeg, a'r Soosooeg. Erys ieithoedd y dosparth hwn gan amlaf heb eu darostwng i ddeddfau gramadeg. -' * 3. Y Japhetaidd—neu Ewropaidd. Ewrop sydd wẅî bod yn weithdy mawr y celfau a'r gwyddonau ; gellir0dysgwyl yma fwy o gaboliad a ÿherffeithrwydd ieithyddol. Dangoswyd, eisoes taw y llwythaü Celtaidd oeddent a wladychasant gỳntaf yn Ewrop, yna yr iaith Gelt- aidd, wrth gwrs, sydd iaith henaf Ewrop,—ià».,mfíf deilliaw yr iaifh hon oddiwrth unrhyw iaith arall, yna ymddengys ei bod hi yn beth à G$mr, iaith wreiddiol. Mae yr hanesydd a'r ieithydd dysgedig, Peiron, yn honi fod y GeÄçg yn faniiaith i holl ieithoedd presenol Ewrop: ond bernir ei fod yn hyn yn myned yaÄíy bell, byddai hawddach profl fod i ieith- oedd Ewrop dair ffynonell :—y Geltaeg^ yr Ysgythaeg neu y Gothaeg, a'r Sclavoneg; oddi- wrth un o'r tri gwraidd hyn yr hanasant ieitìtoedd hen a diweddar Ewrop; un torllwyth yn cyuyrchu ac eggor ar dorllwyŵ arall, neft yn owrw allan golfenau; y colfenau hyny eilchweith yn hanu ynsgangenau;—prydiau ereiB byddai icithoedd, mewn rhyw chwyldroad, yn myned yn ganddryll, megys yn nymchweliad amerodraeth Rhufain; o'r malurion hyn gwuehú y dymchwelwyr glytio iaith newydd. Rhçddir yma y tri chyff gwreiddiol, gan nodi j cangenau a hanasant oddiwrthynt. 61 ' ; '