Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 432. MEDI, 1851. Cyf. XXXIV. ANIANEG G0RFF0R0L A MEDDtLIOL. LLYTHYR I. Anianeg Gorfforol a Meddyliol ? Beth yw hyny ? Yr egwyddorion,—y deddfau,—yr amodau hyny, ar y rhai y mae awdwr natur yn gweinyddu cysuron a dedwyddwch i gre- aduriaid ein byd ni; y drefn wrth yr hon y mae dyn i weithredu, er cyrhaedd iechyd, a'r holl fehdithion ereill dybynol arno; y rheol, drwy gydymffurfio â'r hon, y mwyn- heir y radd uchaf o ddedwyddwch sydd gyrhaeddadwy i ddyn yn ei gyflwr presenol. Yn y llythyrau hyn yr ydym am wneyd ym- drech i egluro yr egwyddorion hyny, ac ym- ofyn paham, a pha fodd, y mae y dyn gwynebllwyd acw mor ddarostyngedig i walldreuliad,—y llall i ymosodion yr anwyd yn ei wahanol agweddau,— a'r eneth bryd- weddol acw, sydd bron ynfydu gan gur yn y pen, &c, &c.—sut y mae ein John Wil- liams a'n Ieuan Gwynedd, &c, yn äml yn bruddglwyfus, a phob amser bron yn ymgil- dynu ag angeu, mewn rhyw agweddiad an- nymunol neu gilydd ; pa ddeddfau y maent hwy yn eu troseddu, fel ag i ddirwasgu eu hunain i'r cyflwr enbydus hwn. Mae eu pechod a'u hafiechyd hwy, fodd bynag, yn rhai nad oes ond nifer anaml, mewn cym- hariaeth, yn euog o'r naill, nac o ganlyniad yn ddarostyngedig i ymosodiad creulon y llall. Nid ydym heb deimlo yr anhawsder sydd ar ein ffordd i drafod y pwnc mewn modd dyddorol i'r darllenydd cyffredin. Yn un peth oblegid ei newydd-deb, gan nad oes, hyd y gwyddis, ddim yn Gymraeg wedi ei ysgrifenu arno. Mae y meddwl Cymroaidd, gan hyny, heb ei ogwyddo at hwnj a phync- iau cyffelyb» Mae, oblegid hyn, anhawsder arall yn tarddu, sef, caeltermau pwrpasol a d'ealladwy am beth nad* ydym, fel cenedl, wedi arfer siarad yn ei gylch. Yn hyn, gan nas gallwn wneyd fel y dymunem, rhaid boddloni ar wneyd goraf ag y gellir. An- hawsder arall sydd yn ymgodi fel y bànawg Idris, ydyw y mympwyon ffol y mae rhai wedi eu mabwysiadu a'u dysgu, gyda gormod o Iwyddiant, am Ragluniaeth Ddwyfol. Yn oi eu syniad hwy, mae ymddygiad y Jehofah 49 tuag at ein byd ni, a'r trigohon sydd ynddo, os nid yn hollol ddidrefn, yn sicr yri anneall- adwy i ddyn. Mae son wrth y rhai hyn am weinyddu iechyd a dedwyddwch, wrth reol neu ddeddf, yn sawrio dipyn yn frwmstan- aidd yn eu ffroenau canonaidd, gan eu bod yn siwr,—canys dywedasai eu nain, a hi eto yn ei phwyll, wrthynt,—ei fod yn cael ei roddi i ddyn fesur y dydd, ac nad òes un dewin all ddyfalu, nac un moddion cyrhaedd- adwy i ddyn, drwy yrhwn y gall wybodbeth fydd cyflwr ei iechyd y fory. Mewn gair, nad oes un cysylltiad rhwng iechyd ag ym- ddygiadau dyn tuag at ddeddfau ei fodol- iaeth. Nid oes genym hamdden i ddadleu y pwnc hwn yn awr, a phrin y gallwn Teddwl fod enill y dosparth yna o'u camsyniad, yn werth, i achos gwirionedd, yr ymdrech ang- enrheidiol i'w hargyhoeddi. Y maent, gan hyny, yn cael eu gadael, o ran yr ysgrifen- ydd, mewn tragywyddol fwynhad o'u syn- iadau goruchel. Gwell crybwyll yn y fan hon, fod yr ys» grifenydd yn bwyll-wyddorydd, (fel y gŵyr rhai o ddarllenwyr y Seren), ac y bydd iddo, wrth drafod y pwnc mewn llaw, ddef- nyddio gwirioneddau a thennau y wyddeg hòno at ei wasanaëth, a thrwy hyny efallai y llwydda i dynü àtynt y sylw a deilyngant. Dedwyddwch ýdyw y nod uchaf y gall dyn ymgeisio ato, ac nid ydyw un amserheb ymdrechu ei gyrhaeddyd; ond y mae mil- oedd yn ymofýn am dano lle nad yw idd ei gael; yn hytrach ceisir ef lle nas gall, yn ol natur pethau, ddim fodoü Ond elfenau tru- enusrwydd, â pha rai y mae dyn yn ynfyd boenydu ei hun. Maë hyn yn dygwydd, fodd bynag, nid oblegid prinder elfenau sydd yn cyfansoddi dedwyddẅch, nac un anhaws- der i'w canfod a'u defnyddio yn llwydd- ianus. Y maent mewn dirfawr gyflawnder yn ei amgylchyntt, fel nad oes ond y gwall- gofrwydd, i'r hwn y mae ẁedi ymddarost- wng, yn ataîfa iddo eu mwynhau. Ded- ẅyddwch ydyw cynyrch pob ermig sydd yn y corff, pobcyneddf sydd yn y meddwl, a