Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 430. GORPHENAF, 1851. Cyf. XXXIV. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. ROBERT EDWARDS, Gweinỳdog yr Efengyl yn mhlìth y Bedyddwyr yn Soar, Dinas, Morganwg. 6AN Y PARCH. JAMES RICHARDS, PONTYPRiDD. Mae amrai o flynyddoedd wedi myned heibio, er y boreu tywyll yr ymadawodd fy anwyl Frawd Robert Edwards â'r fuchedd hon; a dylasai rhyw beth mewn agwedd goffadwriaethol fod wedi ymdtìangos cyn hyn. Er mwyn gwneyd y peth yn fyr, yr wyf yn foddlawn cymeryd arnaf fy hun holl fai y dystawrwydd a'r oediad, dim ondi'r darllen- ydd beidio gosod yn y bai hwnw un gradd o ddiffyg parch ueu gynhesrwydd teimlad tuag at fy anwyl frawd. Safed yr oediad fel yna. Mae hanes foreuol Mr. Edwards yn lled ddiffygiol o ran llawnder a manylrwydd, er, efallai, nad oes dim eisieu cwyno llawer ob- legid hyn, p herwydd nidei foreu, ei achydd- iaeth, man ei enedigaeth, na'i deithi pan yn blentyn, mae'r meddwl yn fwyaf awyddus am wybodaeth arnynt, eithr ei ganolddydd a'i brydnawn; y tymor pan mae egwyddorion yn symud y meddwl, y meddwl yn tòri allan i fuchedd, a'r fuchedd hòno yn uniawn neu yn«gam, yn ol rheol gwirionedd. Mae'hanesyddiaeth yn rhoddi pedwar o wahanol lefydd fel man genedigol yr anfarw- ol Howard, aphedwaro amserau gwahanol fel amser ei ymddangosia<L,.gyntaf yn faban gwywllyd ar liniau mammaeth. Nid yw hyn nac yma nac acw : y dyn yw y cwbl, a dyn heb ei ail eto oedd efe. Y man y mae bywyd neu fuchedd y dyn yn dechreu, dyna'r îan yn wirioneddol y mae y cofiant yn dechreu. Pob peth yn fiaenorol i hyn, gyda golwg arno ef, dygwyddiadau oeddynt. Eto, pan y byddo dyn, trwy ryw orchest- ion, aberthiadau, duwioldeb, neu egnîon meddyiiol, wedi cyfodi i fesur o gyfrifoldeb a sylw, y mae pob peth a bertìnynai iddo draw yn ei ddechreuad—y ddynes dlawd a roddodd iddo enedigaèth, yr aelwyd a'i groes- awodd, castiau ei blentyndod, &c.—yamynu sylw, ac yn peri ymofyniad. Pwy sy'n gwybod am Moses, y gwr fu'n ymddyddan â Duw ar y u mynydd teimladwy," ac ar- weinyd dwy filiwn o bobl trwy anialwch di- satfar, difara, a diddwfr, nad yw yn hoffi gwybod am y caweü a'rhesg arlàn yr afoa? 37 Pa deithiwr gorllewinol neu ddwyreiniol sy'n gallu myned heibio ffynonau yr Amason a'r Nilus heb sefyll i sylwi, ac oedi i deimlo ? Mae peth fel hyn yn ein nàiur ni, ac heb- ddo ni fyddam yn gwbl annghymhwys i sylwi a rhyfeddu gweifcuredoedd Duw; canys y mae " dydd y pethau bychain" yn perthyn i holl weithredoedd creadigol a rhagluniaeth- ol y Dwyfol Fôd. Ganwyd Mr. Robert Edwai'ds yn y flwydd- yn 1783, mewn lle o'r enw Ty'nycelyn, plwyf Llanuchan, ger Ruthin. Enw ei dad oedd John Edwards, ac enw eifam oedd Elizab.eth. Cefais hyna oddiwrth ei frawd, Mr. E. Edwards, yr hwn sydd yn fyw yn awr, ac yn trigianu gerllaw Caernàrfon.-' Yr wyf yn meddwl fod Mr. Edwards yn gosod amser ei enedigaeth yn y flwyddyn 1785, yr hyn oedd yn gwneuthur ei oedran, pan y bu farw yn 1843, yn ddeunaw a deugain, ac nid triugain, yn ol dyddiad ei frawd. Yr oedd Mr. Edwards yn un o un-ar-ddeg o blant, chwech o feibion, a phump o fercbed. Robert oedd y pumed plentyn, a'r trydydd mab. Mae yn bleser meddwl fod rhai o'r nifer liosog, fel Robert, wedi cael y fraint o feddu gwir dduwioldeb, a'u bod yn cael eu cyfrif yn ddynion synwyrol a defnyddiol; ond ni chyfododd neb o honynt i gyhoedd- usrwydd ond efe. Pan y byddo teulu lliosog o blant yn cyd-dyfu, peth naturiol, beth bynag yn y rhieni, ydyw edrych yn mlaen gyda theimladau awyddus; ond yn y cyff- redin, gyda golwg ar gyhoeddusrwydd a rhagoriaethau, ai no honynt y syrth y goelbren, a hwnw, efallai, yn ein golwg ni, yr un mwyaf annhebyg. Cafodd amryw o honynt ras, ond «» gafodd swydd. Cafodd amryw o honynt fara'r bywyd, ond un gaf- pdd dòri bara, a'i roddi yn ei bryd» Ffordd Duw yw hon. Wedi i Robert ddod yn fach- genyrif cafodd, yn ol arferiad rhai amaeth- wyr (nid pawb) yn y dyddiau hyny, rai blynyddau o ysgol, fel y daeth i wybod darilen, ysgrifenu, ac ychydig o rifyddiaeth. Dim amgen. Dyna holl fanteision ei fab-