Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 429. MEHEFIN, 1851. Cyf. XXXIV. BYR-GOFIANT Y DIWEDDAR BÁRCH. DAMEL JONES, CAERFFILI, Yr hwn afufarw Mehefin 11, 18é0, yn 35 mlwydd oed, CAN Y PARCH. N. THOMAS, CAERFYRDDIN. Nid yw yr ysgrifenydd yn golygu fod llawer o ddefnyddioldeb, adeiladaeth, a lles cyfFred- inol, yn cael eu gweinyddu wrth gofiantu i bob chwaer sydd yn marw; ond am ddyn- ion sydd wedi bod yn ddiwyd yn eu hoes yn gwasanaethu y cyhoedd, ymddengys yn beth doeth, buddiol, a chyfiawn, fbd sylw cy- hoeddus yn cael ei wneuthur o'u coffadwr- iaefeh pan wedi canu yn iach i'r ddaear hon. Yn y cyffredin, dynion o sefyllfaoedd isel ac annghyhoedd ydynt y rhai y mae Duw yn eu codi i fòd yn ddefnyddiol yn ei achos,—dyma un o deithi gweinidogion Cristionogaeth (gydag ychydig eithriadau) o oes yr apostol- ion, hyd yn bresenol. Felly hefyd wrth- ddrych y cofiant hwn. Enwau ei rieni oeddynt John ac Elizabeth Jones. Daniel oedd yr ieuengaf o bump o blant; y mae y teulu oll, rhieni a phlant, wedi maiw, oddi- gerth un, seí Mary,—hithau yn myd y Gor- Uewin er ys blynyddau lawer. Ganwyd gwrthddrych yr ysgrif hou Ionawr 6, 1816, mewn tŷ fferm, a adnabyddid wrth yr enw Gwaen-Gwdwin, neu enw mwy adnabyddus ynyr oes ddiweddafhon, "Hen dy Solomon," yn agos i Dal-y-garn, plwyf Aberystruth, Swydd Fynwy. Y Solomon Jones hwn, wrth enw pa un y gelwid y tŷ, ydoedd dadcu, neu daid, Daniel Jones, ar ochr ei fam. Nid yw yr ysgrifenydd yn gwybod ond ych- ydig am dano ef; ond ymddengys ei fod yn feddianol ar ddwy ferch, Mary ac Elizabeth, a gadawwyd iddynt gryn feddianau ar ol eu tad. - Y maent hwy yn galw am air o sylw oddiwrthym wrth fyned heibio, am eu cysyllt- iad ag achos y Bedyddwyr. Bu Mary yn aelod hardd yn Llanwenarth; bedyddlwyd hi gan y diweddar Barch. J. Lewis, ac yr oedd yn un o'r rhai a fu yn dechreu achos y Bedyddwyr yn Nantyglo, ac yn yr ardal hono y gorphenodd ei gyrfa ddaearol, â phwys ei henaid ar angeu Calfaria. Bu tad a mam Mr. D. Jones yn aelodau yn Mheny- garn, ger Pontypwl; bedyddiwyd hwy ill 3i dau yr un amser, gan y diweddar Barch. J. Evans. Parhaodd y fam yn fiyddlawn hyd ei bedd, harddodd y grefydd a broffesodd; ond nid felly y tad—gadawodd ef yr achos, a bu farw heb grefydd: Ebrill 21, 1823, bu mam Daniel Jones farw, ac efe tua saith oed. O, golled fawr! colü mam dirion, ofalus, a duwiol, mor ieu- anc. Priododd John Jones, tadgwrthddrych ein cofiant, yr ail waith, yn llèd fuan ar ol hyn ; ond ni chafodd ein brawd y tiriondeb mwyaf ar law ei lysfam. Cymerwyd ef yn glaf iawn yr"amser hwn, mewn twymyn, ac i ymddangosiad allanol, bu yn agos iawn i angeu ; ond yr oedd gan Dduw waith nad oedd neb ond ei hun yn gwybod am dano yr amser hwnw, wedi ei fwriadu i'r bachgen i'w gyflawni cyn galw am dano. Effeithiodd y cystudd hwnw, pa fodd bynag, yn fawr er gwanychu ei gyfansoddiad am hir amser, fel nad oedd neb yn meddwl y byddai byw yn hir; ond oddeutu yr amser yr aeth i'r Ath- rofa, cryfhaodd lawer. Mae fiyrdd ein Duw ni yn y môr, a'i lwybrau yn y dyfroedd cryf- ion ; y mae yn goruwch-lywodraethu pethau er ateb ei ddybenion bendigedig ei hun; felly yma, atebodd clefyd a gwendid cyfan- soddiad ein brawd pan yn ieuanc y dyben o balmantu y ffordd iddo gael myned i'r ysgol am rai blynyddau, fel lle i'w gymhwyso yn well i'r cylch oedd i droi ynddo mewn cym- deithas, a'r weinidogaeth bwysig oedd i'w chyflawni gyda chrefydd, nâ phe buasai yn cael ei osod yn y pwll glo, neu y leoel fẁn, yn dra ieuanc. Pa mor foreu y dechreuwyd gwneuthur argraflìadau crefyddol ar feddwl ein brawd, nis gwyddom, a pha beth fu yn foddion neill- duol i hyny, nid oes genyf gof ei glywed erioed yn adrodd; ond amlwg yw, fod*ar- graffiadau boreuol iawn wedi eú'gwneuthur. Yr oedd pan yn ieuanc yn arfer myned i'r Ysgol Sabothol yn Hermon, ac yr oedd ei ymddygiad yno yn wahanoí i eiddo plant y