Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 428. MAJ, 1851. Cyf. XXXIV. Y RHEOL EURAIDD. GAN Y PARCH. EVAN THOMAS. Nid oes, fe ddichon, un rheol yn cael ei choffàu yn amlach; ond, er hyny, ei an- mharchu yn fwy, nâ'r nn " euraidd," sef, " Am hyny, pa bethau hynag oll a ewyllys- ioeh eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy : canys hyn yw'r gyfraith a'r prophwydi." Os ydym yn dysgwyl wrth ereiil; nid oes dim yn fwy rhesymol i ni, nâ bod yn barod i gyflawni i ereill; ac i wneyd iddynt fel yr ewyllysiwn iddynt hwy wneyd i ninau. Nid oes eisieu ond colfàu y rheol uchod i ddangos hyn; canys "pa bethau bynag oll yr ewyllysioch eu gwneuthur o ddyoion i chmfeìly gwnewch chwithau iddynt hwy." Mae yn gwbl anmhosibl i ni beidio ewyll- ysio gwneuthur o ddynion bethau i hi; ac, o ganlyniad, dylem ninau fod yn barod i wneu- thur yr un pethau iddynt hwy. Pe na bu- asem ni yn dysgwyl wrth ereill, buasai ein dyledswyddau atynt yn ysgafnach; ond gan ein bod yn dysgwyl wrth ereill, rhaid i ni gofio eu bod hwythau, yr un modd, yn dys- gwyl wrthym ninau. Yr ydym ni i ereill, y peth yw ereill i ninau, ac mae ein rhwymed- igaethau i ereill yr un a'u rhwymedigaethau hwy í ninau. Yr ydym oll yn gydradd, a'n dyiedswyddau at ein gilydd i barhau cyhyd, ac i fod yn gyfartal â'n dysgwyliad wrth ein güydd. Mae fod dynion yn dysgwyl wrth eu gil- ydd ; neu, ein bod ni yn ewyllysio gwneu- thur o ddynion bethau i ni, yn arwyddo un peth sydd yn hyfryd i ni feddwl am dano ; sef nad yw dynion wedi llwyr golli eu hynr- ddiried yn eu gilydd ; neu yn medru gwrth- sefyll y dylanwad sydd ganddynt ar eu gil- ydd. Mae dynoliaeth yn parhau, trwy bob siomedigaeth, i feddwl yn uchel am dani ei hun. Nis gallwn ewyllysio gwneuthur o ddynion ddim i ni ; oni bai fod genym ryw feddwl uchel am ddynion yn sylfaen i'r cyf- ryw ewyUys. . , Nid yw dynion yn dysgwyl dim da oddi- wrth gythreuliaid; ac nid ydynt hwy chwaith, feddyÜem, yn dysgwyl dim da oddiwrth eu güydd, Ond er nad yw dyn yn dysgwyl 25 oddiwrth gythraul, mae yn barhatis yn dys- gwyl oddiwrth ddyn; er fod yr olaf, fe ddich- on, lawer gwaith wedi gwneyd mwy o ddrwg iddo nag a allai y blaenaf wneyd. Pan fedd- yhom gymaint o ddrwg mae dynion wedi ei wneyd i'w gilydd—r-gyidfer gwaith maent wedi siomi, twyllo, a bradychu eu gilydd; a phan gofiom am y darluniad anffafriol a dynir o galon dyn yn ngair y gwiriönedd ; ac hefyd ein bod yn credu fod y dariuniad hwnw yn gywir; mae yn rhyfedd ein bod, wedi y cy- fan, yn parhau i ddysgwyl dim with, neu . ymddlried dim mewn, dynion. Ond er pwysiced y pethau a welsom, a grywsom, ac a deimiasom, pa mi sydd yn gosod dynol- iaeth dan farn condemniad, mae hi o hyd yn parhau i ddylanwadu yn nerthol arni ei. hun. Mae mor naturiol i ddynion ddyian- wadu ar eu gilydd, ag ydyw i aeiodau yr un corff gydymdeimlo ä'u gilydd. Mae hyn yn cyfodi oddiwrth y berthynas agos sydd rhwng dyn a dyn. Fei y mae yr hoìl ael- odau yn gwneyd i fyny un corff, felly y gwnaeth efe bob cenedl dan y nef ò un gwaed. Yr ydym bob amser, bodd neu anfodd, yn teimlo y berthynas hon; á hyn yw yr achos fod dynion mor fawr yn ein golwg; neu, mewn geiriau ereiü, fod dynoüaeth mor bwysig yn ei golwg ei hun. Nid oes dim yn ein lioni yn fwy nâ chymeradwyaeth dyn^ ac mae digio dyn y peth nesaf i ddigio Duw. Dyn yw yr unig dduw sydd gan rai. Nid ydym yn gofalu dim beth yw meddyliau cythreuliaid am danom, er y gwyddom eu bod uwchlaw i ni mewn natur;, ond mae dodrefn-ein tai, dull ein gwisgoedd, a chymer- iad cyffredin ein hymddygiadau, yn profi yn amlwg mai peth o bwygî yn ein golwg yw rhyngu bodd dyn. fijpe canmoüaeth dyn braidd mor felys â chànmoliaeth angel. Mae rhai yn ofni dyn yn fwy nag y maent yn ofni Duw; ond nid yw hyn önd troi tu- edd sydd ynddi ei hun yn dda, yn ei gweith- rediad i fod yn ddrwg, trwy ei dilyn yn rhy bell: yr un fath ag Israel, wedi caéi ìles wrth edrych ar y sarff, o'r diwedd yn myned i'w haddoli hi.