Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 42/. EBRILL, 1851. Cyf. XXXIV. TEAETHAWD WRTHUNI RHYFEL I BENDERFYNÜ DADLEÜON GWLADOL. TESTUN EISTEDDFOD Y GELLIGBOES, NADOLIG, 1850. Fod rhyfel yn ddrwg mawr, ac yn un o'r mwyaf y gwybu y byd am dano, nid oes ond ychydig iawn o ddynion doeth erioed wedi ameu ; a'i fod, yn ei achosion cyíFredinol, a'i ganlyniadau, yn annghristionogoì, sydd gwbl mor wir. Pa dyb bynag a fabwysiado pobl am hawliau dynolryw yn gynredinol, nis gellir gwadu, nad oes gan ddyn hawl i wrthod pob cais, 'ie, pob gorchymyn, hyd y nod y mwyaf pendant, ac oddiwrth y Uyw- odraethwr uchaf ar y ddaear, i wneuthur drwg. Mae hyn yn cael ei ddàl yn gyffred- inol gan y gyfraith wladol, oblegid nid esgus- odir gwasanaethwr am ledrata ar orchymyn ei feistr; 'ie, nî byddai archiad brenin, braádd, yn ddigon i'w esgusodi. Nid alì yr hyn sydd annghyfreithlawn mewn un dyn, fod yn oddefol mewn llawer o ddynion ; efelly nis gall yr arferiad o ìadd, lledrata, a dystryw o bob math, fod yn oddefol drwy unrhyw orch- ymyn dynol; a phan y delo hyn i gael ei gredu yn gyffredinol, ni bydd mwyach yn ngallu tywysogion uchelgais, marsiandwyr trachwantus, nac ysbryd amrysougar rhai mewn awdurdod, i annghyfaneddu y byd fel y buont yn arfer. Yr ydym yn twyllo ein hunain, trwy lyfn- hau a chuddio y gweithredoedd drwg hyn â'r enw "dewrder," a than yr enw " an- rhydedd," a phethau gwag o'r fath; ond, eofier hyn, fod lladd dyn ag na wnaeth ddim yn ein herbyn, ac na fu amryson rhyngom ag ef, yn rhwym o fod yn loýruddiaeth, ac fod dwyn ymaith feddianau nad oes genym un hawl iddynt yn ledrad, bydded eiu gwrth- ddadleuon ni yn erbyn hyny beth bynag a fyddont. Ceir ìlaweroedd yn aw^r, a ddar- .llenant hanesyddiaeth yr oesau a aethant heibio, pa rai a elwid yn " oesoedd tywyll," yn rhyfeddu yn aruthr wrth y tywyllwch a fbdolai yr amser hwnw ; ond na feddylier fod y rhai hyny wedi myned heibio, neu yr ánt 19 ychwaith, tra y byddo y twyll penaf, a mwyaf erchyll o'r cwbl, yn cadw ei orsedd yn ngwledydd Cred. Tra y byddo y dylanwad cryfafyn y wladwriaeth o blaid rhyfel, ty- wyllwch a döa y ddaear, a'r caddug y bobl- oedd. önd rhag myned i ormod meithder mewn rhagj-madroddi, amcanwn at y testun yn ddioed. Er dangos gwrthuni rhyfel i benderfynu dadleuon gwladol, cawn, yn gyntaf, nodi y difrod a wna àrwy dywalltiad gwaed dynol. Wrth olrhain hanesiaeth, cawn fod o fyw- ydau wedi eu colli mewn rhyfeioedd, o frwydr Irsus, yn y flwyddyn 333 cyn Çrist, hyd frwydrau Waterloo, a tìuatre Bras, yn y flwyddyn 1815 o'r cyfrif Cristionogol, y nifer fawr o 7,869,000 ! Dî^-ed y Dr. Prideaulc, fod C3S?ar, m«wn 50 o frwydrau, wedi lladd 1,192,000 o'i elynionî "Os ychwanegwn at hyn (medd efe) nifer y ìladdedigion yn ei fyddm ei hun, ynghyd a'r gwragedd a'r }>lant o bob tu, cawn y nrfer fawr o 2,000,000 o fywydau dynol wedi eu haberthn i uchelgais un dyn ! !" Os bydd i ni gyfrif yr un nifer eto i Alecsander, a dau cymaint i Napoleon, yr hyn a allwn yn ddiau ei wneyd gyda chyf» iawndcr, yna gallwn gyfrif o golled bywjrdau drwy y tri chigydd rhyfelgar hyn, farwolaeth anamserol 8,000,000 o'r teulu dynol! ! Os cyfrifwn at hyn eto laddedigion Genghis- Rghan, Tonnerlane, a lladdedigion y rhyfeU oedd Iuddewig, diau y cydsyniwn â Dr. Dick, y byddai y gwaed dynol a dywalltwyd o ddechreuad rhyfeloedd yr Iuddewon hyd yn awr, yn ddigonol i lanw llyn o 17 o filî- tiroedd • oddiamgylch, ac yn ddeg troedfedd o ddyfnder ! ! ac y byddai hyd y cyríF oll yn ddigon i amgjdchu y gronen ddaearol 442 o weithiau ! ! ! Wrth edrych i mewn i achos* ion yr holl ddifrod hyn, cawn y cwbl braid'd yn cyfodi oddiar drachwant, ucheîgais, ac ysbryd tra-arglwyddaidd penaethiaid a thy-