Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 426. MAWRTH, 1851. Cyf. XXXIV. IOLO MORGANWG. RHIF II. <£an ©afgîJîi ap lRf)»s Stcpften. Gadawsom Iolo Morganwg yn ddiogel yn Llundain, yn trin cèryg ar làn y Tain, i wneuthur un o'r pontydd lliosog a groesant yr afon fawr hòno, er cyfleusdra trigolion prif ddinas yr holl ddaear.* Nid oedd fawr tebygrwydd y cyrhaeddasai unrhyw enwog- rwydd dan y fath amgylchiadau, ac yn y fath le, lieb iddo eniil, a chadw ag enill llawer o arian. Dygasai hyny y dyhiryn cythreulicaf a aeth i Lundain erioed i sylw a bri. Rhy- feddol yw yr addoliad a rydd dynolion i'r duw melyn ! Bydded genych arían idd eu rhoddi, eu benthycio, neu eu gwario; ie, bydded eu bod genych,—er eich bod yn gy- byddlyd yn y defnyddiad o naddynt, eto, y mae eu bod genych yn cynhyrfu llawer o barch ac ystyriaeth. " " Dyn cas yw e'." " Tewch sôn, y mae ganto arian ar use." " Dyna dric gwaela wnaeth M. A." " Ymswynwch ! 'does neb yn cario ei ben yn uwch yn y banc nag efe." " Shiwd mae hyny'n bod ?" "Rhyfedd eich bod mor benwan; on'd yw hyny'n dangos ei fod yn gefnog yn y byd, odych chi'n deall?" " Os gwedwn ni air yn ei erbyn e', wy'n deall yn awr, byddwn, wrth hyny, yn ymladd û'n bara a chaws." Dyma resymeg druenus y byd bach hwn, ysgwaetheroedd anwyl, hyd y nod yn y rhan- au hyny o hono, lle y dywedir, ac yr ym- leddir dros air Duw, ac holl air Duw : tra y mae y gair Duw hwnw, a thàn dyscleirdeb gogoniant y Goruchaf, yn dweyd yn ddiam- wys o ran ystyr, yn gystal ag yn ddibrvder mewn penderfyniad, " Gwreiddÿn "pob DRWG YW ARIANGARWCH." Am Iolo, dirmygai efe gyfoeth y byd hwn, ac m ddymunai ond a fyddai angen arno i 'yw yn onest. Nid trwy gybydd-dod o un math y cytodes y triniwr cèryg yn Llundain, * Nid yW trigolion holl Gymru benbaladr ond ych- ei fim WD cymhariaeth > rifedi trigolion Llundain 13 ac eto daeth yn enwog yno. Ymgydnabydd- odd ac ymgyfeillachodd â phrif ddynion Ewrop yn yr oesoedd diweddaraf. Dyma rai o honynt:—Wm. Pitt, Prif Weinidog y Deyrnas ; William Wilberforce, Dinys- trydd y Gaethwasanaeth ; Dr. Priestley, Fteryllydd penaf ei oes; Twm Paine, yr Annghredwr a'r Athronydd Gwladyddol en- wogddawn ; Talleyrand, y Ftrancwr—Es- gob, Crwydryn, Cyflafareddwr, Cyfaill, a Bradychwr Buonaparte, a Thywysog Ffrengig yn niwedd ei fywyd hirfaith, amryddull, a thrybylog; Miss Leward, y Brydyddes Saesonig, yr hon a wnaed yn Ofyddes wrth Fraint a Defawd, ar Fryn y Br'iallu, ger Richmond, gan Iolo, a Chymry Gorseddawg ereül, &c, a Thywysog Cymru, wedi hyny, George y Pedwerydd. Heb nag arian, na gwerth arian, nac un dim, ond ei ddawn cyn- henid, a'i gyrhaeddiadau llênyddol dyfnion, ymgyfododd yn foreu mewn bywyd i'r orsaf uchel hon; ac efe o hyd, a phob dydd fel y tywynai arno, yn enill bara onest trwy drin cèryg. Dygwyddasai y Chwyldröad Ffrengig yph- ydig amser cyn ei fyned i'r brif-ddinas, a rhedwys yntef, fel rhai o athrouyddion jjenaf y byd gwareiddiedig, i lawn fwynhad o'r hyfrydnwyf lesmeiriol a gynhyrfwyd gan y rhyferthwy ofnadwy hwnw. Gwelent godiad gwawr dydd rhyddid, a dymchweìiad ac ym- lìdiad gormes ac ofergoeledd dros holl der- fynau Cred. Yn hyn, nid oedd Iolo ond yn cydymdeimlaw â'r fath ddynion â Phriest- ley, Macîdntosh, Robert Hall, Morgan John Rhys,* Charles James Fox, a'u cyffelyb. Siomedigaeth arswydus ac aruthrol a fu idd- ynt, pan fachludodd y dydd hwnw cyn naw o'r gloch yn y boreu ar y dorfynyglen waed- lyd, ac yn yr angeu blwng ! Coelcerth o ddynion a aberthwyd yn y modd mwyaf * Y Cymro cnwog hwn y sydd wedi ei esgeuluso o ran ei goffadwriaeth yn ein mysg, mewn modd cy- wilyddus i ni fel ccnedî, a gwarth dyfaach byth i'r Dcdvddwvr fel corff.