Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Hhif. 425. CHWEFROR, 1851. Cyf. XXXIV BYWGRAÍTIAD Y PARCH. ¥. R. DAVIES, DOWLAIS. GAN J. ROBERTS, MERTHYR, J. PRICHARD, LLANGOLLEN, A MATHETES, Y mae ymadawiad enaid anfarwol o'r byd presenol i fyd ysbrydol a sylweddol, bob am- ser, yn bwysig ac argraffiadol. Eithr pan welo Duw yn dda derfynu gyrfa, llafur, a thystiolaeth ei weision ffyddlawn—eu symud i ogoniant, y mae gweledfa yr ymadawiad, amgylchiadau y symudiad, yn bwysig iawn. Y mae gwaith mawr a phwysig gweinidog yr efengyl santaidd yn cael ei ddibriso gan lawer, ei wawdio gan ereill, eithr anrhydeddir ef gan Dduw. Mae y swydd yn bwysig, a symudiad un o honi yn ddyddorawl. Bu y flwyddyn 1849 yn sobr i deuluoedd, ardal- oedd, ac eglwys Dduw; bu farw aelodau defnyddiol, a gweinidogion llafurus, yn nghanol eu defnyddioldeb. Nid annghofìr yn yr oes hon effeithiau angeuol angel dinystr, sef y geri marwol; y prudd-der, y dychryn, a'r galar a achosodd ! ! Yr hen, yr ieuanc, y baban, a"r canol-oed, oedd yn syrthio yn ys- glyfaeth i'w ymosodiadau dirdynol. Nid oedd nerth, iechyd, bywyd cymedrol, medr- usrwydd meddygol, defnyddioldeb gweinid- ogaethol, na serch cyfeiUÍon, yn ddigon i'w attal; onite buasai W. R. Davies yn fyw. Ond y newydd a ddaeth i'n clustiau y boreu oedd, " Mae Dayies o Ddowlais yn glaf;" yn yr hwyr, " Mae wedi marw !" dranoeth, " Mae wedi ei gladdu ! ! " Ai breuddwyd yw hyn ? Nage, medd ei gylchoedd gwag, ei deulu galarus, ei eglwys bruddaidd, a'i gyfeillion hiraethlawn,—-ffaith yic. " Ewyll- ys yr Arglwydd a wneler." Ganwyd W. R. Davies yn Ynysgain-fawr, plwyf Criccieth, swydd Gaernarfon, Mai 1, 1798. Mae swydd Gaernarfon yn enwog md yn unig o ran uchder ei mynyddau al- Pamd, ond hefyd o ran ei beirdd, a'i phre- gethwyr; ac er fod y Bedyddwyr yn ychydig mewn cymhariaeth, cyfododd yno gymaint pregethwyr, os nad mwy nag un sir yn Jghymru. Enwau ei rieni oedd Robert ac &lizabeth Davies, a chan fod nodweddau y tam yn ffurfio eiddo y plentyn, yr oedd hithau î-n wraig o gyneddfau cedyrn, a diysgog dros ei hegwyddorion, fel y cafodd Uawero ddad- leuwyr Criccieth wybod. Yr oedd W. R. Davies yr henaf o chwech o blant, sef tri mab, a thair merch, o ba rai y mae ,tri yn fyw, sef mab a dwy ferch. Bu W. R. Da- vies yn aros yn Ynysgain-fawr hyd onid oedd yn bedair blwydd a haner oed, a dangosai y pryd hyny y parodrwydd meddyliol a'i hy- nodai drwy ei oes. Pan oedd WiUiam o bedair i bum mlwydd oed, symudodd oddi- wrth ei dad a'i fam at ei daid a'i nain, sef rhiaint ei dad, i dyddyn o'r enw y Gaerddu- bach. Pan oedd o wyth i naw mlwydd oed, dygwyddodd i ddau gymydog ymrafaeho, ac ymladd, a darfu y naül erlyn y llall â chyfraith, ac aethant o flaen Counsellor j' Nauney, o'r Gwynfryn. Yr unig dyst a'u gwelodd oedd WiUiam bach; yno wele y tyst bychan, gwridgoch, yn sefyll gerbron y boneddwr enwog. Gofynodd y boneddwr, " Wel, fy machgen i, a ellwch chwi ddy- wedyd pa fodd y bu ?" Ateb, " GaUaf." Gofynodd, " A eUwch chwi gymeryd eich lhv?" GaUaf." " A wyddoch chwi beth ywUŵ?" "Gwn." " Beth yw e ?" " Dy- wedyd y gwir ?" " Da machgen i," meddai y boneddwr. Gofalodd ei berthynasau am ysgol iddo pan yn dra ieuanc ; bu mewn ys- gol yn amrywfanau, megys Capel Fonhadog, Bryneinion, a Llangybi, ac yr oedd ynddo lawer o barodrwydd i ddysgu. Pan o ddei - ddeg i dair-ar-ddeg oed, dechreuodd fyncd i'r Garn i wrandaw ar y Bedyddwyr yn prc- gethu. Yr oedd yn hynod ei weled yn teithio tua chwech milldir, ar hyd ffordd mor an- nymunol ag oedd o'r Gaerddu i'r Garn, heb un cyfaill; canys Anymddibynwyr a Thref- nyddion Calfinaidd oedd yn ei gymydogaeth ef, a'r Bedyddwjrr yn wrthddrychau rhagfarn a gwawd. Er hyny, parhau i wrando yr oedd ef, hyd oni ddechreuodd y gwirionedd wrei- ddio yn ei feddwl, ac yna ymwasgodd â'r dysgybUon, ac ymunodd â'r brodyr yn y Garn, ac efe a fedyddiwydyno Mai 12, 1817, gan yr hen bererin duwiol Evan Evans, ac y mae y ddau yn awr, sef yr hen ŵr syml, a'r bachgen \ ea-felyn, yn cyd-goroni yr Oen a