Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'/%Jl XS~G^l, 6/ iû^UH^J SEREN GOMER Rhif. 424. IONAWR, 1851. Cyf. xxxiv. SEREN GOMER AT EI DARLLENWYR. Omeriaid mau.—Poed i chwi oll ddoeth- ineb, pwyll, llwyddiant, a dedwydd-fyd. Na fyddarwcb. eich clustiau, eithr caniatewch i fi eich asgre a'ch sylw, tra unwaith eto yn beiddio cynyg i chwi gyíärchiad. Er man- tais i fi i ìefaru, ac i chwithau ystyried, dos- parthir y cyfarchiad i oldremiad ac ardrem- iad. Wele ni, ynte, ar gyffiniau blwyddyn newydd, a hi yn ddechreuad haner canrif newydd yn oes y byd, a chyfnod newydd yn fy oes inau, yn oldremu ar yr hyn sydd weithian i'w ganfod drwy gyfrwng hanes a chof yn unig. Ganwyd fi yn Abertawy, Ionawr 1, 1814; felly henach ydwyf nâ lliaws o'm gohebwyr a'm darllenwyr pre- senol. Yn y cymeriad o Newyddiadur Wyth- nosol yr ymddangosais gyntaf:—cyhoeddodd fy nhad am danaf, dydd fy ngenedigaeth, y byddai i fi "wynebu yn ddiofn ar derfynau anwybodaeth, a gwahodd y preswylwyr yn gariadlawn i fwynhau pleserau gwybodaeth." Yr wyf, gan hyny, o'm mebyd, wedi fy nhyngedu i frwydro yn erbyn gwyll a rhag- farn preswylwyr y Dywysogaeth. Diwedd Gorphenaf, 1815, a myfi ond ieuanc, ym- daenodd cwmwl dû o anffyddlondeb a difater- wch drosof; cuddiodd fy llewyrch, ac attal- iodd fy ngwôn, hyd Ionawr 1, 1818. Yra- ddengys i fi, yn fy mebyd, gostio yn ddrud i'm rhiaint a'm hymgeleddwyr ! Er cywilydd i chwaeth yr oes, a syched y werin am wy- bodaeth, y dywedir hyn. Oddiar 1818, ffynais tu hwnt i ddysgwyliad llênorion goreu Cymru—y mwyrif o ba rai ydynt, o ran eu cyrff, cyn hyn, wedi eu claddu, ond sydd a'u henwau yn goroesi eu hanadl—fuont i fi yn amddiffynwyr selog. Ac er i'm tad farw, rhagluniaeth y nef a drefnodd i fi gael byw—nid myfi ychwaith, ond cyfansodd- iadau gorgampus fy ngohebwyr galluog sydd yn byw ynof—nid byw yn unig ydwyf, ond hoenus, gwrol, a dysclaer. Gwelais gyfod- iad a chwymp gynifer o oleuadau ereill, fel y mae fy modoliaeth yn syndod i mi fy hun. Nid plaid a'm cadwodd, nid dobrwy a'm diogelodd ; eithr llafur fy ngohebwyr, ffydd- londeb fy nosparthwyr, a chwaeth cynyddol fy narllenwyr, fuont i fi yn fywyd a nerth. Ni cherddais ar faglau, ni ddygwyd fi ar elorau, ni phrynais ohebiaethau, ac ni wisg- ais amguddiadau; eithr llefarais heb dynu fy het, yn ol y ddiareb Gymreig,—" Y gwir yn erbyn y byd." Dyoddefais oblegid fy annibyniaeth; collais gyfeilhon a chefnog- wyr; buodd Pali yn puchio, Shôn yn cosi ei gern, Tomos yn beio yn aruthr, a Mr. Archun yn bygwth fy mhen;—cablwyd ò. o'r pulpidau, dirmygwyd fi mewn cynad- leddau, derbyniais lawer sèn ! Wrth arolygu y llwybrau a deithiais, a chofio y rhwystrau a gyfarfyddais, dywedaf eto fod fy mo<lol- iaeth bresenol yn syndod i mi fy hun ! Pell oddiwrthyf fyddo cyfiawnhau pob gair a lef- arais, a phob cam a gymerais: hòni per- ffeithrwydd nis beiddiaf; ond er cymaint fy ffaeleddau, ni pheidiais a llafurio yn galed, ac, i raddau helaeth, yn llwyddianus : dichon fod dyben fy modoliaeth wedi ei gyrhaedd genyf cyn helaethed, os nid helaethach, nag un o'm cyd-oesolion ; sef diwyllio meddyl- iau, a pherffeithio chwaeth cenedl y Cymry. Fy ngolygyddion—un o honynt sydd wedi marw, eithr y lleill, er fy llawenydd, ydynt yn fyw—a deilyngant ddiolchgarwch a chan- moliaeth. Ow! y golled colli Harris ac " Ieuan Ddu!" Harris oedd fy nhad ; ac ni pherthyn i'r un Cylchgrawn arall ar faes y Dywysogaeth dad o'r fath fri. Yr oedd efe fal wedi ei eni i fod yn Olygydd. Pe cawsai " Ieuan " fyw, ni theimlid cymaint colled ar ol Harris ; ond a hwy eu dau yn gwywo ac yn oeri, fygythiodd dafiu niwl erwyll, fal tywyllwch yr Aifft, dros lênor- iaeth y genedl wèn! Harris, gyda theim- ladau tadol, cyn ei ymddattodiad, a'm cyf- lwynodd i ofal y Parch. D. D. Evans, y pryd hyny o Gaerfyrddin, lle y derbyniais nawdd a charedigrwydd. O'i ddwylaw ef fe'm gos- odwyd dan ofal Mr. Samuel Evans, yr hwn, fel Cymro ac ysgrifenydd ystwyth, sydd a'i glod lle bynag y mae ei enw. Llaf- uriodd droswyf yn wyneb digalondid, ac