Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 410.] TACHWEDD, 1849. [Cyf. XXXIÎ_ CROMWEL A'R WERIN LYWODRAETH. LLYTHYR \\ " Each of the parliamentary factions had it3 fundamental point, of which it would not bate a jot; the Presb}'teriáns, the privileged establishment of their church ; the Politicians, the command of the Melitia; the Independents, liberty of conscicnee"—Güj2ÖT. Yr oedd y Senedd, y pryd hwn, yn cael ei gwneyd i fyny o amry w bleidiau, a phob dosparth yn gyndyn am eu pwnc. Y mae yn debygol mai yr Annibynwyr oedd y blaid íeiaf, o ran nifer, ond y fwyaf o ran dylan- wad, o herwydd rhagoroìdeb talentau ac ymroddiad, Yr oedd pwysigrwydd Crom- wel wedi dyfod i gael ei deimlo gan bawb. Crybwyllasom am ei brif fuddugoliaethau yn barod, heb-íàuylu i'w ddilyn yn ei oruch- afiaeth, trwy Islip Budge, Whitney, Bamp- ton Bush, a Bletchington, a nifer o leoedd ereill, yn mha rai yr enwogodd ei hun. Y mae yr hyn a nodwyd yn ddigonol er dangos mor effeithìol oedd ei wasanaeth milwrol er angwanegu ei awdurdod. Y fyddin oedd tŵr cadarn Cromwel, dan nawdd Rhaglun- iaeth, fel ỳ dywedai. Etto nid ydym i dybied, wrth hyn, fod y fyddin at ei alwad, fel math o offeryn, pan y mynai, bodd neu anfodd, fel yr oedd y Èhufeiniaid gan yr Amherawdwyr, neu y Ffrancod gan Buona- parte ; ond oblegid mai golygiadau gwerin- yddol oedd yn rhedeg trwy ysbryd yr holl filwyr. Nid oeddynt yn cyflwyno eu gwas.- anaeth iddo dan fath o anghenrhaid, ond p oeddynt yn barod i'w gefnogi,,oddiar ýr un ysbrÿd ac egwyddor ag y gweitbredai ef ei hun. Yr oedd lliaws o honynt yn bobl grefyddol, ac wedi eu hyfforddi i ddeall nad oeddynt yn gwneyd aberth o gyssondcb eu hegwyddorion, wrth gymmeryd arfau i sefyll dros eu hiawnderau gwladol a'u breintiau crefyddol. Ac nid oedd gan y Presbyteriaid le i rwgnach dan eu hawdurdod, oblegid eu bod yn cael mwynhau eu breintiau crefyddol, | raddau helaethach o lawer nag a ddarfu iddynt hwý eu hunain ganiatâu i ereill, pan yr oeddynt mewn awdurdod. Drwy gefnog- aeth y fyddin, felly, y galluogwyd Cromwel i gyflawni un o'r prif orchwylion a hynod- °dd ei oes, sef dattodiad a gollyngiad y Senedd Hir. Efalläi mai hon oèdd yr olygfa f^yaf hynod. a .welwyd o-fewn muriau Sant 41 Stephan erioed; oblegid yr oedd fel maen clo i'r nifer o osodiadau a ddygodd o am^ gylch y chwyldroad mwyaf pwysig a gyfar- fyddodd â chenedl erioed. Ár yr 20fed dydd o EbrilL 1653, cylchynid Tŷ y Cýff* redin gan^y milwyr, dan reolaeth ỳ Milwriad Pride. Y* mae Whitelock yn dywedyd fod cynghorau pwysig wedi cael eu cynnal gan lìaws o aelodau Tỳ y Cyffredin yn llya Cromwel, y dydd blaenorol, yn nghylch y modd mwyaf priodol i ddwyn yn mlaen reolaeth y deyrnas ar egwyddor Gweriniaeth, ac o ganlyniad i chwalu yr eisteddfod bre* sennol. Yr oedd rhai yn cynnj'g am gael ei dattod yn ddioed, ac ereill yn dadleu dros ohiriad. Aeth Mr. Whitelocìc a'i gyfeillion allan o'r llys, gan dybio, neu o leiaf gym- meryd arnynt feddwl, fod pob peth yn cael eu hoedi,—ond yr oedd Oromwel yn ei gy^ huddo o ddybenion anghywir yn hyny. Ar ddygiad y pwnc i sylw y Tŷ, cymmerai dadl frwd le, yn yr hon y cymmerodd Syr Harri Vane ran boethlyd iawn. Yr oedd Cromwel yn preswylio yn Whitehall y pryd hwn, ond yr oedd nifer o'i bleidwyr yn y Senedd, ac yn craffu ar y modd y dygid yr holl orchwylion yn mlaen yno, a chan- fyddwyd Harries ac Ingoldsby yn cyflymtt allan o'r Tŷ, i fyned i fynegi i Cromwel am sefyllfa y ddadl. Daeth y diweddaf yn brysur i'r llys, a dywedoda wrtho, " Os ydych am wneyd rhywbeth yn benderfymol, yn awr yw yr adeg, ac nid oes dim amseí ì'w gollí." ; Cyfododd Cromwel ar ffrwst, a chyfeiripdd ei gamrau tua'r Senedd, a Lambert ac ychydig o'r prif filwyr ereill gydag ef. Gwedi dyfod at y fynedfa i'r Tŷ, gosododd restr o'r milwyr, yn gwisgo eu dryllìau, gyferbyn â*r lle yr eisteddai yr aelodau. Yr oedd yr olwg arno yn berffaith bwyllus ar y pryd, ac mewn cyflawn feddiant ar ei deimíadau; ac yr oedd ei wisg yn hynod o ddysyml. Yr.oedd Vane yn llawA brwdfrydedd yn nghanol poethder y ddadl,;