Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 407.] AWST, 1849. [Cyf. XXXII. BYWGRAFFIAD ELLIS EVANS, IEUENGAF, O'R CEFNMAWR. "Gwell hwyr nâ hwyrach." Y mae dros bedair blynedd er pan fu farw ein cyf- aill anwyl Ellis Evans. Hynod na fuasai rhywun yn cymmeryd y gwaith mewn llaw o ysgrifenu ychydig o'i hanes •; ond y mae yn debyg fod pawb wedi ei anghofio, tra y mae ei babell bridd yn malurio yn llwch y dyffryn oer. Rhag i anghof oesawl amdoi ei fedd, wele fi yn ceisio dangos tuag ato ryw ychydig o'r parch neillduol a ddylai gael. Buaswn wedi ysgrifenu er ys llawer dydd, pe buasai genyf ychydig o'i hanes b'oreuol; a chan nad oedd hyny yn fy medd- iant, tröais y peth o'r neilldu. Yn ddiw- eddár, daethym i wybod fod tad parchus gwrthddrych yr ysgrif hon wedi rhoddi lianes bywyd ei fab idd ein cyfaill John Jones, Esgob y Bedyddwyr yn y Goitre, yr amser y bu ef i fyny yn y Gogledd ; ond gan nad oedd ef yn gyfarwydd a'n cyfaill E. E. yn bersonol, darfu iddo oedi gwneyd dim ; etto bu mor garedig â rhoddi i mi y defnyddiau a gafodd pan yn y Cefnmawr. Yn gym- maint, gan hyny, ag fy mod yn awr yn gallu ysgrifenu ychydig lincllau am fy an- wyl frawd ymadawedig, gobeithio y rhodd- ant foddlonrwydd i'w dad galarus, ei hen gyfeilhon hoff, ac yr ieuenctyd crefyddol liyny, pa rai a gant y cyfle i ddarllen hanes ei fywyd býr. "Ellis Evans oedd yr ail fab, a'r pedwer- ydd plentyn, i Ellis a Mary Evans. Gan- wyd ef yn y Cefnmawr, plwyf Ruabon, yn sir Ddinbych, ar y 23ain o Chwefror, 1822. Nodweddid ef, o'i febyd, gan wresogrwydd ei serchiadau, a pharodrwydd ei ufydd-dod ; uid yn unig i'w rieni, ond hefyd i'r holl blant ereill; yr oedd hefyd yn hynod am ei ddifrifoldeb. Er hyny, yr oedd yn chwar- ẅs, fel plant ereill yn gyítredin ; ac os dyg- gwyddai iddo chwareu yn hŵy nag y bydd- ai ei fam yn caniatuu, efe a redai adref ar yr alwad gyntaf, ac ymostyngai i'r ccrydd megys o'i fodd. "Byddai llawer îawn o ymddyddanion rhyfedd yn cymmeryd lle rhyngddo ef a'i fani, pan nad oedd ond icuanc iawn,—yn fighylch y Creawdwr,—am bechu yn ei erbyn,—am ddiafol, " tad gwaethaf y plant drwg,"—ac hefyd am uffern, a'r gosp ddy- fodol. Nis boddlonid ef â'r atebion cyff- redin i'r pethau hyny ; ond byddai megys yn 29 methu a chael seiliau cligonol i'w feddwl ymorphwys arnynt yn eu cylch. Bu ei fara yn foddion i argraffu ar ei feddwl y grediniaeth am bob un oedd yn pechu yn erbyn Duw, o'i fodd, mai o ddiafol, y " tad gwaethaf," fel y galwai Ellis ef, yr oedd ; a byddai ef yn sicr o gyhuddo eì hun os buasai wedi gwneỳd rhyw ddrwrg. Yr oedd yn arswydo yn fawr wrth glywed ei gyd- chwareuyddion yn rhegu. Byddai yn well ganddo iddyrÄ ei guro yn drwm, nâ'i rcgu ; a phan oedd uuwaàth wedi creuloìii yn fawr wrth un o honynt, wylai yn chwerw^ am na allai yntau ei regu ef; ond ni feiddiai wn- eyd hyny, ac o ganlyniad edrychai arno fel un heb gael ei gospi i'r graddau y dylasai gael, ar y pryd hwnẃ. " Fel ag yr oedd yn aflonydd yn y Capel ar rai troion, byddai ei dad yn ei'g}'mmeryd gydag ef i'r pwlpid. Teimlai Èllis y Ile hwn yn rhy gaeth, a gwnaeth apeliad at ei fam yn ei erbyn, gan ddywedyd " nad elai ef ddim i'r pwdpid, os na chai fyned yno i bregethu." Y meddwl oedd ganddo èf am bregetbu, y pryd hyny, oedd, cael sefyll ar ei draed, edrych ar y bobl, a siarad. " Yr oedd ganddo feddwì mawr am lwyddiant gweddi, fel y cafwyd arwyddion arno yn fynych. ünwaith gyrodd ei fam ef, yn gerydd am ryw fai, i'w wely ar ffrwst; ond yn fuan hi a glywai Ellis wedi dyfod o'i wely ; yna hi a aeth ato, ac erbyn hyny yr oedd yn swjn/n wrth ochr y gwely ar ei liniau. Gofynodd iddo pa beth oedd yn wneyd ? paham nad oedd yn aros yn y gwely, fel y rhoddwyd ef ? Dywedodd yn- tau mai gweddio yr oedd, am ei fod wedi anghofio wrth fyned i'w wely. Gofynodd drachcfn, am ba beth yr oedd yn gweddio ? Atebodd mai dioleh yr oedd i'r " Tad goreu" am gadw ei dad a'i fam yn fyw, ac am iddo ef a'r plaijt ereill gael digon o fwyd. Ar dro arall, yr oedd ef a rhai plant ereill, ag oedd- ynt yn hynach, wedi myned i bren crabws o eiddo cymmydoges, a phan oedd ef wedi myned yn llccl uchel i'r pren, clywai y gwas yn galw ar y ci mawr, ac yn nesâu tuagato. Ar hyn, ffôdd y plant ereill ymaith, gan ei adael ef yn agored, yn ol ei feddwl ei hun, i gael ei larpio; ac os cai fyw, yr oedd yn gwybod yr achwynid arno wrth ei dad, ac y cafei geryddu yn dost, Nid oedd ganddo,