Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 405.] MEHEFIN, 1849. [Cyp. XXXII. YSGARIAETH YR EGLWYS ODDIWRTH Y LLYWODRAETH. LLYTHYR IV. Peth o" bwys niawr ydyw cael drych- feddyliau eglur a phenodol am bob peth, ac ifod yn ofalus, yn neillduol pan fyddo'r pwnc dan sylw yn un dadleuol, i ddarlunio ystyron geiriau fel y galler deall yn ddi- betrus y peth y dadleuer yn ei gylch. Y mae y geiriau a wnant i fyny y darn brawddeg hyn, "Ysgariaeth yr Eglwys oddiwrth y Llywodraetb," yn hyblyg ac ammheüus i amryw; o ba herwydd, cynnygiwn ymofyn, ya y papyryn hwn, i'w harwyddocâd, ac egìuro yn fyr natur yr hyn a feddylir wrth- ynt. Y gair gwreiddiol a ddull-newidiwyd gan gyfieithwyr y Testament Cymraeg i eglwys yw ecclesia, yr hwn, yn Uythyrenoî, a arwyddocâ Jgynnuìleidfa, neu gymtnanfa, wedi ei galw allan neu ei gwysio ynghyd. Defnyddiwyd fy gair ar y cyntaf, mae yn debyg, i ddynodi cynnulleidfa o ddinasydd- ion yn ymgyfarfod yn Athens i ystyrisd materion eu ìlywodraeth. Pan y gwysid y gynnulleidfa ddeddfwroi ynghyd gan .y cangheliwr, gelwid hi ecclesia. Daeth y gair, yn raddol, i gael ystyr eangach, ac i'w arferyd am gynuulleidfa yn gyfFredinol, heb uurhyw gyfeiriad at ei chymmeriad na dyben ei chynnulliad. Cawn eughraifft o hyn yn Hyfryr Actau, (pen. 19,) lle ein hysbysir gan yr Hanesydd ysbrydoledig, fod lliaws wedi ymgyfarfod yn y gampfa (theatre) yn Ephesus, i amddiffyn y dduwies Diana, yn erbyn athrawiaeth yr Apostol Paul ain yr unig wir Dduw. Yr oedd y gynnulleidfa (ecclesia) yn gymmysg, a'r rhan fwyaf o honi heb wybod o herwydd pa beth y daeth- ent ynghyd ; annogwyd hwynt gan ysgolâìg y ddinas i ymlonyddu, a bod yn drefnus, ar yr ammod y cawsai pob peth a alwai am ymchwiliad, ei drefnu mewn cyunulleidfa {ecclesia) gyfreithlawn ; ac yna gollyngodd y gynnulleidfa (ecclesia) ymaith. Gwel y rhau ddiwçddaf o'r bennod. Yn gys«on îl â'r arwyddocâd hyn, mabwysiadodd yr Apostolion y gair i ddynodi cynnulleidfa o Gristionogion, ac yn y cymhwysiad hyn y mae iddo ystyr eangach ac un gyfyngach yn y Testament Newydd. Yn ei ystyr eang- ach cynnwysa holl bobl brynedig a santeidd- iedig Dduw, yn mhob oes, ac yn mhob gwlad, ac o dan bob goruchwyliaeth ; yr holl rai hyn, pa un bynag ai yn y nefoedd ai ar y ddaear y preswyliant, a gyfansoddant un Eglwys. Am hon y dywedir, " Ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth uffern nis gorchfygant hi."—Mat. 16, 18. "Eglwys Dduw, vr hon a bwrcasodd efe â'ibriodwaed."—Act. 20, 28. " Y carodd Crist ei eglwys, ae a'i rhoddes ei hun drosti, —fel y gosodai efe hi yn ogoneddus iddo ei huu, yn eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o'r cyfryw."—Eph. 5, 25, 27. Yn ei ystyr gyfyngach, golyga gymdeithas o gredinwyr yn Mab Duw, yn arfer ymgynnulí ynghyd yn yr un lle. Dar- Uenwn am yr cglwys yn Jeiusalem, Act. 8, l ; am yr eglwys yn Antiochia, Act. 11, 26 ; am yr eglwys yn Coriuth, l Cor. 1, 1 ; ac am yr eglwys yu Thessalonica, 1 Thes. 1,1,. Mewn dinas neu drei, nid oedd y Cristion- ogiou yn ffurfio ond un eglwys, ac am hyny y cawn pan yr arferir y gair yn ei berth^ias â hwy, ei fod yn y rhif unigol^ond ýn ỳ wlad, lle yr oedd Cristiouogion yn wásgar- edig, ffurfient, er bod yn fwy cyfleus, amrai eglwysi, y rhai a ddynodir yn y rhif H'osog. Er enghraifft,—eglwysi Judea, Gal. 1, 22; Eglwysi Galatia, Gal. 1,;2 ; Eglwysi Macé- donia, 2 Cor. 8, 1 ; saith Eglwys Asia, Dad. 2 a'r 3. Fel hyn y mae y gair ejluy\ yn yr ystyron y defnyddid ef gau ysgriféc'- wyr yTestament Newydd, yn golygu nailì ai lioll bobì brynedig Dduw yn tnhob oes a gwlad, yn j «efoedd ac aj* y ddaear, neu gynnulleidía o grediuẃyr ýn addo|i ptŷfe