Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 388.] MEDI, 1839. [Cyf.XXII. DYSGEIDIAETH GENEDLAETHOL. " For is it fitting that one soul should pine For want of culture in this favour'd land, That spirits of capacity divine Perish like seeds upon the desert sand, That Education in this age of light Should not by birth be every Briton's right ?" CYFLWYNO rhesymau dros reid- ioldeb dysgeidiaeth genedlaethol sydd waith afreidiol yn yr oes hon, canys addefir yn gyffredin ei buddiol- deb, ie, hyd y nod gan y rhai a ystyr- ient gynt " mai anwybodaeth oedd mammaeth duwioldeh;" ond pa gyn- llun yw y mwyaf cymmesur ac effeith- iol, sydd yn parhau yn destun dadl ac amrafael. Gweinidogion ei Mawrhydi yn ddiweddar a fwriadasant ddwyn mesur drwy y Senedd i roddi dysgeid- iaeth gyffredinol i hlant tlodion y deyrnas, heb orfodi ar gydwybodau neb, drwy beri iddynt ddysgu ertnygl- au crefyddol gwrthwynebol i egwy- ddorion eu rhieni ; ac ar yr un pryd yn darparu fod addysgiadau crefyddol i gael eu rhoddi yn yr ysgolion, ar ddyddiau penodedig, gan weinidogion y gwahanol bleidiau. Ereill a feddyl- iant nad yw yn ddiogel i roddi dysg- eidiaeth i'r genedl ieuanc heb ddef- nyddio Catecism Eglwys Loegr, a bod holl drefniadau yr ysgolion i gael eu bymddiried yn hollol i ofal Offeiriaid yr Eglwys Sefydledig. Yr holl Doriaid ydynt dros y cynllun olaf, a'r Eglwys- wyr diwygiadol a'r holl Ymneillduwyr drwy y wlad ydynt yn ddiysgog dros y cyntaf. Pob dyn rhesymol a diragfarn a genfydd maiy cynllun blaenaf ydyw y goreu. Gan fod yr arian i gynnal yr ysgolion hyn yn cael eu casglu oddiar wahanol bleidiau crefyddol y deyrnas, paham y rhwystrirhwy j gael llaw yn eu trefniad? Pa reswm ydyw cyfyngu llywodraeth yr ysgolion i'r 33 Offeiriaid ? Onid oes yma amcan i daflu diystyrwch ar yr Ymneillduwyr yn y modd mwyaf diachos? Yr Ym- neiilduwyr a ddechreuasant ymdrechu dros ddysgu y werin ; rhoddasant cyn cof genym eu tai cyfarfodydd at was- anaeth dysgeidiaeth. Wrth fyned heib- io i'w capeli, canfyddem ynddynt yr athraw a'r plant yn ddiwyd yn eu gwaith ; ond ni welsom Eglwys erioed â'i drws yn agored, yn wyneb unrhyw anghyfleusdra mewn cymmydogaethau, ond yn wastad yn gauedig. Celai y llygod chwareu ar eu lloriau, a'r adar nythu o'u mewn; ond wrth ddysgeid- iaeth y dywedid,—No admittance here. Yr Ymneillduwyr a fuont ddiwyd yn yr ysgolion Sabbothol am flynyddau, pan yr edrychai yr Eglwyswyr ar hyny yn halogiad y dydd santaidd, ac yn beiriant i ddadynichwelyd yr Eglwys ; ac ar eu hol hwynt y mae yr Eglwys- wyr yn canlyn, a'r rhan Doriaidd o honynt a ymdrechant gael y maes idd- ynt eu hu'nain. Gweithwyr diweddaraf y dydd yw y mwyaf eu hystwr; y gwyr a ddaethant i'r maes yn y prydnawn a fflangellant weithwyr y boreuymaith. Rbyfedd eu haerllugrwydd ! Buasai yn harddach a mwy clodadwy i'w cal- onau pe buasent yn ostyngedig yn cymmeryd rhan o'r gwaith yn dawel, a cnydweithio ft'r rhai oedd yn y maes o'u blaen. Y mae y Toriaid am gyfyngu ein rhyddid, drwy wneyd i'n plant ddysgu Catecism Eglwys Loegr a'i herthyglau. Gosodant yn gyfraith y Mediaid a'r