Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhip.287.] AWST, 1839. [Cyf.XXII. DYSCYBLAETH EGLWYSIG. I. "X7"N ei natur. Wrth ddyscyblaeth X eglwysig, yn ei ystyr gyfyngaf, deallir, " Ei hymdriniaetb â'r aelodau a ymddygant yn annheilwng o'u proff- es. Uyscyblaeth deuhiaidd yvv gwein- yddiad cynghor, cerydd, neu gosp i'r rhai a droseddant reolau y teulu ; dys- cyblaeth wladol yw gweinyddiad cyng- bor, cerydd, neu gosp i'r dyn a faidd droseddu cyfreithiau ei wlad; felly dyscyblaeth eglwysig yw gweinyddiad cyngnor, cerydd, neu gosp i'r dyn a droseddo gyfreithiau neu reolau tŷ Dduw. Ystyriwyf ddyscyblaeth mewn eglwys yr un gwasanaeth ag ysguòell mewn tŷ,—ei gadw yn lân ; neu halen ar ei wrthddrychau,—eu cadw mewn pereidd-dra. II. Dyscyblaeth eglwysig yn ei phwysigrwydd. Credu yr wyf fod lianfodiaeth cymdeithas yn ymddibynu ar unionder ei chyfreithiau a'u rheol- au, ynghyd à chadwraeth y cyfreith- iau a'r rheolau hyny. Nis gall cym- deithas fodoli heb reolau, ac nis gall barhau y fodoliaeth hnno heb weith- redu yn tryfatebol iddynt. Teulu heb reol na dyscyblaeth a fyddai yn nyth truenusrwydd, yn noddfa penrhyddid, ac yn fagwriaeth anfoesoldeb. Clwb beb barchedigaeth i ddyscyblaeth sydd glwb yn y ddarfodedigaeth, ac a gaiíf brofiad yn fuan beih yw trengu. Gwlad He y byddo rhyddid ynddi i bawb wneyd fel y myno, y byddo ynddi yr un chwareu teg i'r llofrudd à'r diniw- ed, a fyddai yn alltndiaeth pob rhin- wedd a moes, yn noddfa barbareidd- dra, yn rhy ddychrynadwy i ddyn da anadlu ynddi ; felly yr eglwys na oyddo ganddi nn parch i egwyddorion, fheolau, a phnrdeb dyscyblaeth, gellid yssrifenu ar barwydydd ei thŷ cyfar- fod, » Dyma winllan annhrefn a gwrth- gristionogrwydd, dyma fynwent moes- oldeb ; ac uẃch capan y drws, y gair Ichabod, (y gogoniant wedi yraadael.) 29 Dengys pwysigrwydd dyscyblaeth, ara mai yn nglŷn à hyny y mae dedwydd- wch cymdeithas. 2. Ei llwydd. Nid anfynych y clywir rhyw fath o grefyddwyr yn ebychu, " Os bydd i ni weinyddu dys- cybheth yn ei phurdeb, gorfydd i ni esgymuno y rhan liosocaf, a'r rhau gyfoethocaf o'n haelodau." I'm tyb i, byddni hyny yn fil anrhydeddusach i grefydd yr Oen. Gwell gan Gristion- ogaeth gymdeithas pe na chynnwysai ond dau neu dri, os bydd y ddau neu dri hyny yn pereiddio eu cylchoedd, yn prcgethu egwyddorion purion yr efengyl efo'u geiriau, eu hymdrafod- iaethau â'r byd, yn eu holl weithred- oedd yn halen y ddaear, yn oleuadau y byd, nâ chymdeithas a gynnwysai ddau neu dri chant, y rhai y hyddai eu hymddygiadau yh anghristionogol, ac yn tneddu i anghymmeradwyaw cref- ydd i'r rhai nas gẁyr ei gwerth. Os na all cymdeithas eglwysig fodoli ond ar draul gwneyd rheolau dyscyblaeth yn sarn, syrthied ei bodoliaeth i To- phet, a bydded ei choffadwriaeth yu felldith ac yn rheg. Llawer eglwys a welwyd unwaith yn flodeugar.ond trwy wyro oddiwrth burdeb dyscyblaeth, syrlhiodd i syrthni, i drymgwsg, ac i dranc; pan y mae " y fechan," drwy gadw yr ysgubell yn y tý, «* wedi myn- ed yn fil;" '-' a'r wael," drwy sefyll at egwyddorion, gan nad beth fyddai y canlyniadau, '* wedi myned yu genedl gref." 3. Bendith cymdeithas. Y mae fod Achan yn y gwersyll yn rhoddi tyfiant i'r hesg, yn troi Hennon yn Gilboa, yn pentyru y cymyiau, yn bolltio pyrth y nef, ac yn ffurfio gwrthglawdd er cadw yn ol ffrydiau y bendithion rhag ymdaenu trwy wersyll Seion. Dar- llener y seithfed bennod yn llyfr Jo- sua, lle y canfyddir helaethach ara- lygrwydd.