Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhip. 285.] MYHEFIN, 1839. [Cyf.XXII. COFIANT JANE LLOYD, AE eífeithiau aniifydd-dod Eden yn parhau hyd heddyw; ac yn debyg o barhan hyd pan lyncir angeu mewn buddugoliaeth. Yr ydym yn clywed am, ac yn gweled cyflawniad o'r bygythiad arswydus hwnw, " Gan farw, y byddi farw," beunydd. Mae yr holl deulu dynol, o Adda hyd yn bresennol, (onid dau,) wedi syrthio yn ysglyfaeth i grafangau oerion y dded- fryd uchod ; ac er holl ymdrechion y byd i syniud y ddedfryd ymaith, ac i gadw yr ergyd angeuol draw,—er yr holl ymgyrchu i lFynnonau ac at fedd- ygon,—er holl gyfferi y cyffer'iwyr, ac er pob moddion a arferwyd, methodd gan neb ddianc. Mae angeu yn an- orchfygol, mae ei lywodraeth yn gyff- redinol, ac y mae enwau holl feibion a raerched Adda wedi eu rhoddi yn ei lyfrdû. Nid oes na pherthynas nac anwyldeb a geidw y gelyn hwu draw ; er mor anwyl pertliynasau a chyfeill- ion, dyfod yn mlaen a wna angeu ; èr cymmysgu y cyffyriau meddygol, a dysgwyliadau iddyut eft'eithio er gwell- had, chwa wenwynawl angeu a aneff- eithia y cyfan, ac a sioma bob dysgwyl- iant am gael ail gyfodi oddiar y gwely y gorweddir arno; er gwlycha y gruddiau à dagrau fyrdd, nesàu a wna y teyrn brawychus bob mynyd ; ac er esgyn o ocheneidiau fwy nà mwy o'r fynwes brudd, cyflawni ei orchwyl a wna angeu, gan dynu ei ellyn llym ar draWs y llinyn arian, tòri yr un- deb anwylaidd rhwng corff ac enaid, a dattod pob perthynas rhwng y treng- edig a'i gyfeillion anwylaf i gyd. " Ni thycia cyfoeth na meddiannau byd yn nydd blin marwolaeth; ac nid achub annuwioldeb ei pherchenog." Ac y mae yn rhaid i'r duwiol farw, o her- wydd pechod ; *' canys megys y mae yr annoeth yn marw, felly y bydd y duw- iol farw ;" ond gyda hyn o wahaniaeth, bod y duwiol yn raarw mewn cymmod a heddwch â Duw, a'r annuwiol dan ei felldith. Chwerw iawn i natur yw angeu, a brawychus i ddynoliaeth ; ac nid oes dim ond undeb ffyddiog à'r (íwaredwr a'n galluoga i wynebu glyn cysgod angeu yn ddiofn. Ýn yr undeb hwn y bu farw gwrthddrych y Cofiaut presennol, fel y tawn hysbysu etto yn mlaen. Mae y teyrn brawychus hwn (angeu) yu gweithio yn ddibaid, ac mor uerthoí agerioed; mae yn gyru rhywrai bob mynyd i'r " tỳ rhagderfynedig i bob dyn byw.'' Y gelyn mwyafdidderbyn wyneb ar y ddaear ydyw ; tỳn y bren- iu oddiar ei orsedd, ac a'i gesyd gyda'r cardotyn gsvaelaf, i orwedd yn nghol- ofn coffadwriaeth o lygredigaeth y natur ddynol. Nid eiriach y plentyn sugno, nid arbed yr ieuenctyd pryd- ferth, ni dderbyn wyneb yr henafgwr na'r canoloed; ond gwthia bawb yn ddiwahan i fro dystawrwydd. Dym- chwelodd adeiliau hôlloesauy ddaear, ac a'u gosododd yn y pentwr. Mae y patrieirch boreu yn llwch ac ynlludw ; mae gweddillion marwol yprophwydi, a'r holl hen dduwiolion, wedi ymgym- mysgu â'r pridd. Yr holl hen wrag- edd fu yn addurno adeilad Eglwys weledig Crist yma ar y ddaear, sydd wedi eu tynu allan, ac wedi eu hamgau rhwng muriau y bedd. Yma mae Sarah brydferth, yma mae Rahel hoff, ac yma y mae Hanuah dduwiolfryd ; ie, yma y mae Sian Llwyd, gwrth- ddrych y Cofianthwn, ac amryw ereill, y rhai fu yn dda genym eu cyfeillach lawer gwaith. Yn nihale? Yn ystafell ddigyfeillach y bedd. Am ddyddiau boreuaf Sian Llwyd, nid oes genyf ddim hysbysrwydd na gwybodaeth ; ac nid oeddwn yn ei had- nabod hyd o fewn ychydig yn ol. (Ychydig iawn o'r hen bobloeddwrn ac wyf fi j^n adnabod, i'el mae cywilydd i mi ddywedyd.) Y fi yn ieuanc, a