Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Riiif. 281.] CHWEFROR, 1839. [Cyf. XXII. COFIANT MRS. DINAH DAVIES, RUMNEY, SWYDD FYNWY. GWRTHDDRYCH y Cofiant hwn a anwyd Ionawr yr 28ain, 1/74. Merch ydoedd ì Josiah a Dinah Lewis. Buonl yn trigfanu am fiynyddau meith- ion niewn amaethdy o'r enw Morfil, gerllaw Abergwaen, Dyfed. Ei rhieni oeddynt bobl barchus mewn gwlad ac eglwys ; a thrwy ei bod yti dal per- thynas â'r fath rieni rhinweddol a duwiol, cafodd y fantais fawr o'i magu a'i meithrin yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd ; ond fel ag y clybuwyd hi yn achwyn arni ei hun lawer gwaith, nid ymddengys iddi wneuthur y def- nydd goreu o'r manleision a gafodd. Aeth yn mlaen yn ol ei thuedd a'i chwantau pechadurus, gan ddiystyrti rhybyddion a chynghorion perthynasau a chyfeillion o bob malh ; 'ie, hi a aeth [ î gymmaint caledwch ac anystyriaeth meddwl, fel y teimlai ei hun yn mýned. J gyda'r cenllif o bechodau, pa rai yr' oedd ei chydgyfoedion yn myned gyda '• hwynt, tua'r môr marw, sel' dinystr tragywyddcl ; ond eíto. nid ymddeng- ys i'r Arglwydd ei gadael i gyflawni pechodau cyhoeddus a gwarthus, ac hefyd nid oedd ond ienanc. Nid blynyddoedd lawer y gwelodd i yr Hwn sydd yn trugarhau wrth y neb ■ y myno, yn dda ei gadael i ganlyn ei chwantau anianol, cyn iddo ddweyd wrthi, " Hyd yma yr ài, ac nid yn | mhellach." Pan oedd tuag un ar bymthegoed, teimlodd ryw anesmwyth- j der gwanaidd am ei sefyllfa gerbron Duw, a hyný yn benaí'trwy weinidog- aeth y gwr duwio! ac enwog liwnw, y Parch. Mr. Davies, Cynwil. Nis gwy- ddom nemawr am agwedd ei meddwl yr amser hwn,—pa un a gafodd gryn sicrwydd am ei derbyniad gerbron Duw fel pechadur, a hyny ar gyfrif aberth iawnol Crist ar y groes, neu ynte a fu yn ymdrybaeddu yn y tyw- yllwch â'r niwl am dro ; pa fodd byn- ag ani hyny, ymnnodd à'r Trefnyddión Calíinaidd yn Abergwaen. Friododd á George Davies, yr hwn oedd forwr ; ond nid oedd efe yn gref- yddol y pryd hyny.* Aeth yn anfodd- lawn i'w hanwyl briod nofio y tònau geirwon, ac felly daeth i'w meddwl i symud eu trigfan i fynyddau Mynwy; a'r lle y gwelodd Rhagluniaeth ddoeth y nefyn dda iddynt osod eu pabell i lawr oedd Iiu'niney. Y ile dyeithr hun a gafodd hi yn hynod anfanteisiol i betliau crefyddol, gan nad oedd ynddo yr nn a berthynai i'w henwad hi. Caf- odd tua hanner dwsin yn Nliredegar, dair milltir oddiyno ; ond ni chai fawr foddion cyhoeddus yn nes nâ Merthyr- Tydfil, yr hon oedd bum mültir o'i chartref. Er g irwed a phelled y ffordd, ni wnai hyny ei digaloni, na'i ilwfrhau ychwaith ; ond ymdrechodd yn wrol, fe! un " yn gweled yr anweiedig." Nid aniser mnith y iui y chwaer hon yn R'umney dywyll, heb oleuo fel can- wyll. Ceisiodd bregethu i'w thý, ac er ei mawr lr.wenydd, }rn ftian wedi hyny ennülwyd ei phriod i'r ífycid ; a dyma ddechreuad y Trefnyddion Calfinaidd yn y l!e pobìogaidd hwn,—dim ond un wr'aig dlawd ; yn bresennol y mae gan- ddynt ddau addoldy mawr a gwych, ynghyd â dwy eglwys reolaidd yn cynnwys o gylch wyth deg o aelodau bob un. Ond i ddychwelyd yn ol at wrth- ddryeh ein hanes, parhaodd hi a'i gwr mewn cydweithrediad bellach i gynnal pregethu yn eu tŷ, a hyny yn gwbl ar eu traul eu hunain, am gryn amser, nes i ereill ddyfod atynt, ac adeiladu addoldy bychan. Bu yr aehos amryw weithiau wedi hyný yn wauaidd iawn ; * Nid oedii y Trefuyddion Calfinaidd wedi peiulcrf\ iiu v pwnc o uriodi à rhai digred, yr atriser hẃnw, iol y gwhaethant wedi hyny.