Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEBËI «ŴOMER. Rhif. 278.] TACHWEDD, 1838. [Cyf.XXI. TRAETHAWD FYWYD Y CADFRIDAWG SYR THOMAS PICTON. Y"N mhlifh gwahanol enwogion yr oesoedd diweddar, y rhai addyr- ebafasanteu henwau iharch acanrhyd- edd mewn dewrder ar faes y gwaed, diau fod yr arwr dewr hwnw, sef y Cadfridog Syr Thomas Picton, yn un o'r gwrolaf, a thanbeidiaf mewn eidd- igedd a brwdfrydigrwydd yn achos rhyddid ei wlad a'i genedl- Ganwyd yr hyglod ryfelwr hwnw yn mis Awst, 1758, mewn annedd a elwir Poyston, yn swydd Benfro. Enw ei dad oedd Thomas Picton, Yswain, i'r hwn yr oedd yn ail fab, ac felly heb un hawl uniongyrchol i dreftadaeth ei hynaf- iaid; etto, dangoswyd yn eglur fod gwaith ganddo iddei gyflawni, ynghyd à'i fod wedi ei addurno â chymhwys- derau addas i'w swydd. Yn ei ddydd- iau boreuol teimlai duedd gref i fyned yn filwr, i'r hyn yn ddiau yr oedd wedi ei neillduo gan Ragluniaeth ddoeth ; a chyda golwg ar gyrhaedçl ei amcan, parotöai ei hun yn mhob dysg anghen- rheidiol i'r fath alwedigaeth; a phan tua thair ar ddeg oed, cafodd y swydd o fod yn Fanerwr yn y 12fed gatrawd o wyr traed, dan lywyddiaeth ei ew- ythr, Mr. William Picton, yr hwn a'i gwrolodd mewn gobaith o gael derch- afiad i uwch swydd. Gwedi hyn bu mewn athrofa, yr hon a gedwid gan Ffrancwr o'r enw Lachu, er cymmeryd addysg milwraidd yn mhellach, cyn ifiyned at ei gatrawd, yr hon oedd y pryd hwnw yn gwarchod amddiíFynfa Gibraltar. Y pryd hyn y daeth yn dra chyfarwydd â gwahanol ddyfeis-gamp- au milwriaethol, yn mha rai y dangos- odd ddeheurwydd a gwroldeb digyfíel- yb wedi hyny ; ac er ei fod yn meddu ar deimladau caruaidd a ehyfeillgar, etto yr oedd yn dra thanllyd ei dym- «erau pan aflonyddid ef. Er enghraifft 0 hyn, nodwn un amgylchiad a gym- "ìerodd le pan oedd o bymtheg i 41 ddeunaw oed, pryd y bu ymrafael rhyngddo ag un boneddwr o Wyddel o'r enw Charles Hasael, yr hwn oedd arolygyddy prif-flỳrdd yn swydd Ben- fro yr amser hwnw; ac i derfynu yr amryson, pendeífynwyd hyny trwyhor- nest; a phan ddaeth y dydd penodedig oddiamgylch, cyfarfuasant â'u'gilydd, ac wedi dewis eu hail-bleidwyr, cỳtn- merasant bob un ei lawddryll a'i gle- ddyf, aethant i'r maes, mesurasant y pellder arferol, taniasant y naill at y llall, a phelen Picton a darawodd Has- ael ar ochr ei ben, nes iddo gwympo ar y ddaear mewn ílewyg, pan ar yr un pryd y tarawwyd Picton gan. belen Hasael, ar y gadwyn ag oedd o am- gylch ei wddf, nes tòri archoll ddofn, a pheri iddo gwympo; etto, Picton, yn hytrach nâ llwfrhau, a ymlusgai at ei gleddyf, abuasai wedi trywanueiwrth- wynebwr, oni buasai i'r ail-bleidwyr ei rwystro. Amry w bethau ereill ydyht brofion o'i wroldeb pan yn ieuanc. Ÿn Maẃrth, 1777, dyrchafwyd ef i'r radd o is-gadben yn y gatrawd y perthynai iddi o'r blaen; ac wedi cyflawni ei swydd mewn modd anrhydeddus am bum mlynedd, deisyfodd am gael ym- adael, o herwyddchwennychai yn fawr gael ymuno â rhyw fyddin arall, a fyddai yn fwy tebyg i gael ei galw yu fuan i faes y gwaed, yr hyn a ganiata- wyd iddo, a phenodwyd ef yn gadben ar y ?5fed gatrawd, yr hon a arosai yn Lloegr yr amser hwnw ; ond bu hyn yn siomedigaeth i Picton, oblegid cym- merodd heddwch cyflfredinol le yn holl Ewrop, a digorffolwyd y gatrawd i ba un y perthynai. Treuliodd Picton ddeuddeg mlynedd yn nghyfeillacb ei gyfeillion a'i berthynasau yn swydd lîenfro ; ond yn ystod yr holl amser hwnw yr oedd yn gwbl allan o'i el- fen, cànys yr oedd ei sjched arn fywyd milwraiiìd yn boddi yr holl bleserau a