Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SfiBEI O- O M E R. Rhif. 2/7.] IÌYDREF, 1838. [Cyf.XXI. SYLWADAU BEIRNIADOL AR GEN. I. CYNNWYSA y bennod hon fyn- egiad am enedigaelh y byd, yr hyn yw ystyr yr enw Groegaidd i'r Llyfr,—Genesis,—am ddosparthiad yr elfenau, a gosodiad holl droellau nat- uriaeth i droi yn eu cylchoedd priod- awl, &c. &c. Cymmera Moses yn gan- iatâol fodoliaeth Duw, yr hyn wna ys- grifenwyr y Bibl, acamrai arwireddau ereill. Adn. 1. — " Yn y dechreuad"—Hyny yw, Ynddechreuol. Llefarodd y Gallu mawr ddefnydd y byd i fodoliaeth ; yn ganlynol i hyny, gosododd y def- nydd hwnw raewn trefn. Golyga dde- chreuad mewn trefn ac mewn amser. " Y creodd."—Y ferf $02 a arwydda bodoli peth o ddim. Diddymu peth, a bodoli dim, a ystyrient yr athronwyr paganaidd tu allan i gyrhaedd ungallu ; o ganlyniad credent yn nhragywydd- olrwydd defnydd. Syniadau cywirach o natur y Perydd mawr, a orfyddant y Cristion i gredu y gall ef,—" Duw,"— yn Hebraeg D*n 7ft—Galluogion.— Enwedigaethydd, yn y trydydd person yn y rhif liosog, i'r ferf flaenorol bara yn y trydydd person yn y rhif unigol. Ceir y gair Elohim weithiau yn gys- sylltiedig ag ansoddau, rhagenwau, a berfau yn y rhif liosog.—(Gen. 1 26; 2 Sam. 7, 23 ; Eccles. 12, 1.) Trosgl- wydda hyn y meddylddrych nad oedd- ent ysgrifenwyr yr Hen Destament yn ystyried lliosogrwydd sylweddau (su6- stances) yn y Meddwl tragywyddol ac un-dduwiaeth yn anghysson,—y gellai Duw fodi fel hyny yn gystal 'â rhyw fel arall. Ni haerir y dengys hyn Drindodiaeth; ond credir y rhydd y meddylddrych oliosogaeth, mewn rhy w ystyr, yn y Duwdod. Mae ereill o Wrindodwyr o farn wahanol. Gwel Ur. Lee's Gram. 264. Tardda y gair Elohim oddiwrth îl'jtt—" Efe a gyf- ryngodd," neu, " Efe a dyngodd ;" am mai drwy dwng neu lw yr oeddynt vn 37 ymgyfammodi à Duw.—Deut. 29, 12— 19. Nid yw yr enu Duw, mwy nà'r enwau ereill a roddir i'r Un anfeidrol, ond enw ar, neu ddarluuiad o, briodol- iaeth neu nodweddiad a berthyna iddo. Mae ei Hun. niawr yn anenwol; a c!»an mai soniaw am eíF;iith nerth ydoedd yr ysgrifenydd, nis gallai ddethol nod- weddiad briodolach o'r rhai a berthyn- ant i'r Achosydd, nà galluogaeth. " Y nefoedd"—(Hebr. cyflen.)—sef yr aw (fluid) a gylchyna ein byd ni.—Ad- nod 8. Adn. 2.—" A'r ddaear oedd aflun- iaidd a gwag."—Hyny yw, yr oedd yr hyn a gyfansodda y bellen ddaearawl yn bentwr cymmysgedig, anghyfan- neddawl, didref, a diaddurn. " Y ddae'r a'r môr, a holl elfenau'r byd, Oent aflun dryblith, hell gymmysgfa flwng; Gwyllt bentwr didrefn, cruglwyth diwahan O heid dyfodiaid."—Ovid. Pa fodd yr aeth ein byd i'r fath gyflwr anelwig à'r hyn anodir,—pa un a oedd felly pan y deilliodd o law y Creydd, neu ynte a fodolai oesoedd fyrdd yn flaenorol,—a oedd wedi bod yn drigle rhesymolion o radd wahanol i ni, ac yna wedi cael ei ddychwelyd i'r an- sawdd a ddarlunir, trwy ryw foddion, ac i ry w ddybenion cudd, ni fynega yr hanesydd. Gallai hyna fod, a gallai beidio bcd, o ran dim a ddywedir yma. Yn yr adn. laf,—" Yn y dechreuad" &c.—y cyfeiria yr hanesydd at y cyf- nod pryd y bodolodd y Creawdwr y bydyssawd* Yn yr ail adnod rhydd ddarluniad o'i ansawdd yn y cyfnod pryd y dyddia ef ei hanesyddiaeth. Gwadu na fodolai y ddaear yn flaenor- ol i hanesyddiaethMoses fyddai gwn- eyd athronyddiaeth a dadguddiad yn anghysson ; ac i'r graddau y cynpydda gwyddoriaeth seryddawl a mŵnawl, mwyha yr anghyssonder. Gan mai yr un yw Awdwr natur a dadguddiad, rhaid nad ynt groes i'w gilydd. Ni raid i'r Gair ddychrynu rhag un gelf