Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iEBEH <; O ìl ■: II Rhif. 276.] MEDI, 1838. [Cyf.XXI. Y CYFAMMOD NEWYDD. W^RTH chwilio yr ysgrythyrau, ac ▼ ▼ yn enwedigol y Testament New- ydd, cyfarfyddwn ya fynych â'r gair cyfammod, i'r hwn y perthyn rhyw ystyr neillduol, fel y defnyddir ef gan yrysgrifenwyr ysbrydoledig i drosgl- wyddo i ni feddylddrych am un o drefniadau y Goruchaf. Hawdd yw camsynied am y gair hwn, fel geiriau ac ymadroddion ereill, gan hyny yn ein hymchwil, dylem fwrw oddiwrth- ym bob rhagfarn a rhagdyb a ddysg- wyd i ni yn moreu ein hoes, a chwilio yn ofalus ac anmhleidiol am ei wir ystyr yn y gwahanol gyssylltiadau ag • y defnyddir y gair, rhag i ni briodoli iddo ystyr na fwriadwyd. Camsynied geiriau ac ymadroddion ysgrythyrawl sydd niweidiol apheryglus,o herwydd drwy hyny y gwneir cam â'r Bibl ; gwesgir ef i lefaru yr hyn ni amcan- odd, a gwyrdröir gair Duw. Amryw- iol yw barnau duwinyddion dysgedig am y cyfammod, ac am flynyddau yr oeddwn i yn derbyn eùldo rhai o hon- ynt fel cywir a Biblaidd, heb ymgyng- hori dim à gair Duw ; a thybiaswn fod yr ymadroddion,—" Y cyfammod a wnaed rhwng Tri yn Un," " Cyfam- niod boreu," &o. yu swnio yn byfryd yn nghlybod pechaduriaid ; ond erbyn edrych i lyfr Duw, canfyddais ei i'od ef a'm credo yn gwrthdaro, ac yn holl- ol wrthwyneool i'w gilydd. Pe ym- gynghorid mwy â llyfr anftaeledig Ior, plygu mw'y i'w awdurdod, a chymmer- yd ein tywys gau ei ddysgeidiaeth oleuwych, byddai i'r tywyllwch gael ei ymlid, i'r dyryswch ddarfojd, a chyfeiliornadau yn anamlach yn ein credoau. Mae gwahanol ystyr i'r gair cyfam- mod yn yr ysgrythyrau. Weithiau, gosodiad ac appwyntiad Duwyn llyw- odraethiad natur. Dywedir fod Duw wedi gwneuthur cyfammod ä'r dydd » r nos, Jer. 33, 20 ; ond ein gwaitli yn "resennol yw ymofyn " pa beth a ddy- wed yr ysgrythyr" am v cyfammod 33 newydd. " At y gyfraith, ac at y dystiolaeth : oni ddywedant yn ol y gair hwn, hyny sydd am nad oes oleu- ni ynddyrnt."—Esa. 8, 20. Dengys y gair santaidd i ni mai goruchwyliaeth yr efengyl a feddylir, a dim arall. Yn Heb. 8, cyferbynir gweinidogaeth Mo- ses a gweinidogaeth Crist â'u gilydd ; a phan y mae un yn terfynu, y mae y lla.ll yn cael ei sefydlu yn ei lle. " Wele, y mae y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, ac mi a wnaf â thŷ Israel ac à thý Juda gyfammod newydd : nid fel y cyfamniod a wnae- thym â'u tadau hwynt, yn y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i'w dwyn hwy o dir yr Aifft; oblegid ni thrigas- ant hwy yn fy nghyfammod i, minnau a'u hesgeulusais hwythau, medd yr Arglwydd. Oblegid hwn yw y cyfam- mod a ammodaf fi â thŷ Israel ar ol y dyddiau hyny, medd yr Arglwydd," &c.—Heb. 8, 8—10. Er mor amìwg y dysgir ni yn y geiriau a ddyfynwyd uchod, haera athrawon efengylaidd enwog a phoblogaidd mai yn nhragy- wryddoldeb y gwnaed y cyfammod newydd rhwng Tri yn Un. Dyma farn Dr. Crisp, Dr. Colquhoun, Witsius, Erskines, Brown, Boston, Dr. Gill, &c, a dyma farn llawer yn Nghymru yn yr oes oleu hon, pan y mae cym- maint o fanteision i gynnyddu mewn gwybodaeth, yr hon farn sydd berffaith groes i dystiolaethau y Bibl, ac yn llawn o wrthuui. Nid ydwyf wedi canfod un rheswm dros eu golygiadau yn werth ei grybwyll, gan hyny ni amcanwyf yma i symud ymaith wrth- ddadleuon, ond gosodwyf ger gvvydd y darllenydd diragfarn rai rhesymau a ddangosant ar un llaw, mai nid rhwng y Drindod y gwnaed y cyfammod new- ydd ; ac ar y llaw arall, mai yr oruch- wyliaeth efengylaidd yw, yr hon a sefydlwyd yn ngwaed y Cyfryngwr. Y'mddengys hyn os ystyriwn, 1. Nad yw y Bibl byth yn galw yr hyn oedd yu arfaethol yn gyfammod. Nid wyf