Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

lEBËl €* O Wt E ». ilniF. 271.] EBRILL, 1838. [Cyf.XXI. BYR-GOFIANT JOHN JONES, LL.D. CYNGHORWR CYFREITHIAWL. GWRTHDDRYCH y Cofiant byr hwn a gafodd ei eni yn y Derw- ydd, plwyf Llandebie, ynswydd Gaer- fyrddin,ar y 17egofis Awst, yny flwy- ddyn 1772. Pan yn blentyn, dangosai gymmaint o synwyroldeb achyflymder dealldwriaeth, fel y penderfynwyd gan- iatâu iddoy faulais o gael dysgeidiaeth ieithyddol, er mai braidd y goddefai amgylchiadau bydol ei rieni iddynt fyned i'r draul aughenrheidiol i gyf- lawni eu dymuniadau. Pan yn ddyn ieuanc iawn, efe a dderbyniodd y sef- yllfa o atliraw mewn athrofa yn agos i Lundain ; a chyda golwg i wellhau ei sefyllfa dymmorol, efe a dderbyniodd yr unrhyw swydd mewn amryw ysgol- ion ereilJ. Yn Wimbledon, gwnaed dewisiad o Mr. Jones i addysgu am- ryw ysgolheigion, y rhai wedi hyny a enwogasaut eu hunain; ac yn mhlith ereill, cawsom ein hysbysu i Syr Ro- bert Peel, pan yn ieuanc, fod dan ei ofal athrawol. Trwy ddiwydrwydd a chynnildeb tra chanmoladwy, daeth yn berchenog ar swm bychan o arian, inewn ychwanegiad at £20 y flwyddyn a fwynhai fel etifedd cyfreithiol y ddi- weddar Mrs. Bevan, o Lacharn ; yna efe a benderfynodd ymweled â gwled- ydd tramor, er mwyn perfFeithio ei ddysgeidiaeth. Yn Austria, bu mor ffodus A. chael ei gyflwyno i sylw rhai athrawiaethwyr ; a'r boneddigioh hyny a ymddygasant tuag ato gyda dyngar- wch a charedigrwydd a fydd yn an- rhydedd tragywyddol i'w henwau, can- ys trwy eu cymmeradwyaeth efe a dderbyniodd raddaumewn pump o wa- hanol golegau, a'u henghraifft hwy a 13 efelychwyd gan ddwy, os uid rhagor, o Brif-Athrofâu yr Almaen. Ar ei ddycliweliad i Loegr, Dr. Jones a aeth yn Fyfyriwr yn Lincolns Inn, Llundain ; ond, fel ei gydwladwr Rich- ard Wilson, y gwlad-ddarìuniedydd, er fod ganddo bob rhagolwg am fyw- ioliaetli anrhydeddus, yí oedd wcdi ei ddiofrydu i oddef csgeulusdod oeraidd a gwywedig y byd. Y ddau a boenwyd nid yn unig wrth weled gwrthddrychau eu gobeithion yn cael eu hoedi, ond o'r diwedd eu holl obaiíh a ddiflbddwyd yn gyfau-gwbl. Gwedi ei alw at y bàr, neu ei wneyd yn Gynghorwro'r Gyfraith WJadol, ar y lOfed o Chwefror, 1803, efe a aeth ar Gylchdeithiau Rhydychain a Deheu- barth Cymru ; ond dygwyddiad tra an- ffodus, ac yn ddiau annoetli o'i dn ef, a gymmerodd le, a dinystriodd bob rhagolwg ag oedd ganddo am Iwydd- iant yn ei alwedigaeth gyfreithiawl. Dygwyddodd i'r Dr. Jones gymmeryd arno amddiffyniad rhyw bleidiau llwm, yn rhad, yn erbyn pa rai y dygesid cŵyn ; ond yn ystod y prawf, efe a ddefnyddiodd y wawdiaith lemaf yn erbyn y gyfraith a'r cyfreithwyr, gan haeru fod cwynion cyfreithiol yn rhy fynych yn effeitliio dinystr y pleid- iau a'u dygent yn mlaen, ac nad oedd- ynt o elw i neb ond y cyfreithwyr. Tramgwyddodd hyn yr alwad ddysge- dig i'r fath raddau, fel y gwrthodaì am- ryw o'i gyd-gynghorwyr ymddyddan na gwneyd un gyfrinach ag ef; ac o'r dydd hwnw allan, ni dderljyniodd un achos i'w ddadleu oddiwrtli neb o'rcyf- reitliwyr, y rhai oeddynt oll weili cyd-