Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HANBSION. 95 gohirio y dreth am ddeuddeg mis, ac ymran- odd y presennolion, pryd y cafwyd foa 3 dros y dreth, a 18 yn ei herbyn; a phan welodd yr Eglwyswyr fod eu plaid mor wan, boddlonas- ant gymmeryd 3c. y bunt; eithr y plwyfogion gwrthwynebol a'u hatebasant, nad ymrwym- ent hwy i ddim. Yr oedd maendöwr yn clytio pen yr hen fam ar yr ainser, a rhedodd rhyw- un aílan, gan waeddi nerth ei geg, " Morgan! Morgan! deuwch i lawr yn fuan; ni chewch chwi ddim am eich gwaith." Yna i lawr y daeth Morean gyda'r fath frys fel y torodd amryw o 6711 yr ysgol, ac i mewn i'r eglwys yr aeth, gan ofyn yn orwyllt, "Beth yw y mater?" Atebodd yr Eglwyswyr, "Maent am dynu yr eglwys i lawr." Dywedodd gwrth- wynebwyr y dreth, ag un llais, "Byw fyddo yr hen fam byth!" a chynnygiasant rodd wir- foddol at adgyweirio yr eglwys ; eithr atebodd \r Eglwyswyr na dderbynient hwy y cyfryw beth, ond y gosodent y plwyfogion yn gryn- swth yn Llys yr Esgob. Yua ymadawodd pawb ond y tri Eglwyswr, gan'ysgwyd eu penau, a dywedyd, "Ffarwel, ffarwel, yr hen fam, am 12 mis,"os nad am byth; a Duw a fo gyda thi, ac a'th lanwo â duwiolion, a fydd- ont yn foddjawn i'th wisgo di, a golchi crys gwyn dy weinido» ; yna caiff yr Ỳmneilldu- wyr lonydd i addoli yn eu tai eu hunain, heb eu gorthrymu fel yn bresennol." Ymneilldu- wyr, cymmerwch" galon, a pheidiwch gadael i'r Eglwyswyr Tonaidd eich dwlian yn hŵy. Ond 1 ni gydvmdrechu, nia ddeuwn yn rhydd o'n caethiwed cyn bo hir. Felly y bo. Nantycherdin. Isa ac Thom as. SIRYDDION AM 1838. Wele yn canlyn enwau y boneddigion a benodwyd gan y Frenines mewn Cynghor, i wasanaethu y swydd o Siryddion dros amrywiol swyddi Cymru, am y fiwyddyn Caerfyrddin,—Howell Gwyn, Blaensawdde. Brycheiniog,—James Duncan Thomson, Sunny- bank. Ceredigion,—Wm. Tilsley Jones, Gwynfryn. Morgaìiwg,—N. V. E. Vanghan, Llanelay. Penfro,—John Colby, Ffynnonau. Maesyfed,—Syr John Dutton Colt, Llanyne. Môn,—Wiliiam Barton Panton, Garreglwyd. Caernarfon,—Syr R. B. W. Bulkeley, Plasynant. Uinbych,—Samuel Sandbach, Hafodunos, Abergele. Fflint,—Edward Morgan, Gellianr, Tiefl'ynnon. Meirionydd,—John Manners Kerr, Plas-Isa. Trefaldwyn,—Martin Williams, Brongwyn. Jlynwy,—John Jenkins, Caerlleon. Caernarfon,—Caernarfon, lau y 15fed. Mòn,—Beanmaris, Mawrth yr 20fed. Dinbych,—Ruthin, Sadwrn y 24ain. Fflint,—Wyddgrug, Mercher yr 28ain. Caerlleon Gawr,—Castell Caerlleon, Sadwrn yr 31ain. BRAWLYSOEDD CYMRU. DEHEUBARTH. Gerbron yr Ynad Coltman. Morganwg,—Iau, Mawrth l,yn Abertawy. Penfro,—Iau, Mawrth 8, yn Hwlffordd. Ceredigion,—Mawrth, Mawrth 13, yn Aberteifi. Caerfyrddin,—Gwener, Mawrth 16, yn Nhaerfyr- ddin. Brycheiniog,-----Gwener, Mawrth 23, yn Aber- hondda. Maesyfed,—Mercher, Mawrth 28, yn Llan-An- dreas. Mynwy,—Mercher, Mawrth 28, yn Nhrefyuwy. GOGLEDDBARTH. Gerbron yr Ynad Williams. Trefaldwyn,—Trallwm, Mawrth, Mawrth 6fed. «eirionydd,—Bala, Sadwrn y lOfed. ESGORODD,— ARddydd Iau, y 18fed o Ionawrdiweddaf, y Fon- eddiges Charlotte Guest, arfab. Ar yr 16eg o'r un mis, yn Mheriglordy Bryn- gwyn, swydd Fynwy, boneddiges y Parch. Wm. Crawley, ar ferch. Yn ddiweddar, yn Gogerddan,swydd Geredigion, boneddiges Pryse Pryse, yr ieuengaf, Yswain, ar fab ac etifedd. Ar ddydd Llun, y 12fed o'r mis diweddaf, Mrs. Bowen, gwraig Mr. John Bowen, Argraffydd, o'r dref hon, ar ferch. Ar y 19ego Ionawr diweddaf, Mrs. Price.gwraig Mr. T. Price, argraflydd, Merthyr Tydfil, ar ferch. PRIODODD,— Ar yr 31ain o Ionawr, 1838, yn Aberduar, gan y Parch. J. Williams, yn mhresennoldeb y Cofrestr- ydd, fMr. J. W. Davies,) Mr. David Erans, o'r Llew Coch, Glanduar, â Miss Anne Lewis, o dref Llanbedr. Darllenodd y gweinidog ran gyfaddas o'r Gair dwyfol, a gweddiodd am fendith; yna dangosodd yn hyfedr natar a phwysigrwydd priod- as. Yn ganlynol y pleidiau a aethaut drwy y cytnn- deb priodasol, ac eglurwyd iddyut drachefn ỳ dyl- edswyddau sydd yn nglyn â'r sefyllfa hono, a chyf- Iwynwyd hwy i ofal yr Arglwydd. Difyr fo bywyd Dafydd—a'i asen, I oesi yn ddedwydd ; Cryfion o ochor crefydd Fo'r ddau dan effeithiau ffydd. Ha wyr Prydain I yn awr ceir priodi, Cu yw pob haelwaith, yn y Capeli, Heb offeiriad wan druthiad, na'i drethi, A byw diwair heb ddweyd rhyw baderi, Hyn wyddom, na hen weddi—babyddawl Yn olynawl;—daeth rhyddid eleni. Yr offeiriadwr, mawr wr am arian, Yn daeog daerai, digyw e druaní Nad all priodas wneir o'r tu allan I welydd santaidd yr eglwys wiwlan, Fod gystal;—mae rhyw feddal fan—ar benglog Yr haerwr taeog, gorbigog bagan. I. *B Iban. Yn ddiweddar, yn Merthyr-Tydfil, Mr. Joseph Jones, Argraffydd, â Mary, merch henaf Mr. Wat- kin Jones, o Westdy y Vulcan,yn y dref hono. Ar y 27ain o Ionawr, 1838, yn y Tabernacl, 'yn y dref hon, gan y Parch. H. W. Jones, Jobn Leigh, ag Anne Bostock, y ddau o'r dref hon. Dyma y briodas gyntaf a weinyddwyd yn Nghaerfyrddin dan y gyfraith newydd. Ar yr 20fed o'r mis diweddaf, yn yr nn Eglwys, a chan yr un Gweiniiog, William Roberts â Mary Rees, ill dau o'r dref hon. Ar y 22ain o Ionawr, gan y Parch. John James, yn Addoldy y Bedyddwyr, Penybont, Morganwg, Mr. Abraham Lewis, ag Eleanor Jones, ill dau o bentief Llangrallo. Gan maì hon oedd y briodas gyntaf yn y parth hwn o'r wlad, mewn addoldy Ymneillduedig, ymgynnullodd tyrfa fawrynghydar yr achlysur. Ar ddydd Sadwrn, y 27ain o Ionawr diweddaf, yn Addoldy y Bedyddwyr, Llanwenarth, gerllaw y Fenni, gan y Parch. F. Hiley, gweinidog yr eglwys hono, a cherbron y Cofrestrydd, Mr. James Price, à Mary Lewis, ill dan o Lanwenarth; BU FARW,— Ar foreu y Sabboth, y 14eg o Ionawr, 1838, yn ei wely, yu dra disymmwth, Mr. Thomas Jones, ar- wydd y Llew Coch, Llangollen, yn 65 oed. Yr oedd yn gymmydog parchns, yn perchenogi helaeth- rwydd o fendithion tymmorol; ond heb fynyd o ryb- ydd, canodd yn iach i'r oll o honynt; ac ar y 19eg,