Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§£B£M OOOTER. Rhip. 269.] CHWEFROR, 1838. [Cyf. XXI. YSBRYDOLRWYDD Y BIBL. " Read and revere the sacred page, a page Where triumphs hnmortality, a page Which not the whole creation couid producc, Which not the conflagration shall destroy; In nature's ruins; not oneletter lost " Yocng. AYW y Bibì yn Air Duw, wedi ei gyfansoddi dan gynhyrfiadau a thy wysiad yr Ysbryd Glân ? sydd of- yniad o anfeidrol bwys a ehanlyniadau tragywyddol, yn ei gyssylltiad â dyn- olryw. Os nad ydyw, y mae dyn wedi ei adael i ymbalfalu mewn hanner nos, heb dywysydd iddo,—i ymdrybaeddu mewn trueni, heb ioddiou ymwared; ei dynged a gylchynir à braw, a'i ddy- fodiant a amdôir â cbymylau. Os ydy w, y mae ei ddibrisiaw yn eithafion aniolchgarwch, ac yn golygu'r canlyn- iadau echryslonaf. Ymhoniad i ddwyfol ddylanwadau. a dadguddiedigaethau goruwch-naturiawl, nid oedd yn beth anghyffredin yn y cynoesau; i hyn mae dewiniaeth, swyngyfaredd, a darogan- iaeth yn ddyledus am eu bodoliaeth. Zoroa8ter, Lycurgus, a Minos, er ar- graffu parchedigaeth ar eu moes-gyf- reithiau, a ymhonent iddynt fod yn nghyfeillach y duwiau. Cyn-awenydd- ion Rhufain a Gryw a ystyrient eu hunain yn orlawnedig o'r chwa ddwy- foí, {inflatu dirino ;) a'u chwibanoglau, dan lywyddiaeth y cerdd-dduwiesau, ac offeiriadesau gorphwyllog Delphos, a leisient eu hatebiadau j an y dylen- wid hwy gan nerthoedd Apolo. I'r offeiriadesau hyh y talai y werinos ofergoelus y parch dyfnaf, a'r sylw manylaf; ni sefydlid teyrnasoedd, ni orseddid breninoedd, ni frwydrid rhy- feloedd, ac ni wisgid gwroniaid â gar- lantau buddugoliaethus heb eu boddhad a'u cyfarwyddyd, a'u penderfyniadau a ystyrid yn anniddymadwy. O'r tu arall, hanesyddion yr Hen Destament, prophwydi y Nef, a phôr âwenyddion Israël, a gyssylltent y frawddeg, " Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd," â'u holl gyfansoddiadau; ac ysgrifenwyr y Testaraent Newydd a ddywedent, "A ninnau a dderbyniasom, nid ys- bryd y byd, ond yr ysbryd sydd o Dduw, fel y gwypom y pethaua rad roddwyd i ni gan Dduw ; y rhai ydym yn eu Uefaru befyd, nid â geiriau a ddysgir gan ddoethineb ddynol, ond a ddysgir gan yr Ysbryd Glân."—1 Cor. 2,12, 13. Gan yr baerent y ddwyblaid hyn i ddwyfolrwydd, beth yw y nôd gwahaniaethol7 Ar ba seiliau y der- bynir yr olaf, pan y gwrthodir y cyn- taf ? Beth ydynt argraffiadau dwyfol- rwyddí Os yw y Bibl yn Air Duw, rhaid y medda hwynt; oblegid erioed ni chynnygiwyd, a byth ni chynnygir, gan y Goruchaf, y fath sarhad ar fôd rhesymol, â cheisio ganddo fynwesu credo, heb fod ei sel fawr yn amlwg wrthi. Cyn cychwynynmhellach, eglurwn natury gosodiad,—"Ysbrydolrwydd y Bibl." Y geiriau a ddefnyddid yn y cynieithoedd i ddynodi dwyfol gynhyrfiadau, a arwyddýnt chwythu, awelu, anadlu, rTH, (ruachj wnu, inspiro, inflo. Hefyd, mewn ysgrifen- iadau ansantaidd, â geiriau a drosgl- wyddynt y meddylddrych o gynddeir- iogrwydd, ffyrnigrwydd, a gorphwyll- dra, gan y byddent yr oraclau pagan- aidd, pan dan y dylanwadau tybiedig, y tu allan iddynt eu hunain. Y geiriau hyn oll a gariant y meddylddrych o effeithiolaeth ysbryd ar ysbryd. Wrth ddywedyd, ynte, fod y Bibl 'yn ysbryd- oledig, y deallir fod yr Ysbryd Glân, mewn rhyw ddull amodd, wedi goleuo,