Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER, liniF. 517.] HYDREF, 1858. [Cct. XLI. REWYMEDIGAETfl Y CBEDADYN I FUCHEDDÜ YN SANTAIDü. Gan y Pabch. M. EVANS, Llwynhendt. Ekuf. vi. 1—11. Iíhyfedd mor beìl mewn anystyriaetb, rhyfyg, a ohamsyniadau, y gall dynion fyned gyda chrefydd. YmddengÿS fod rhai personau yn yr eglwys Gristion- ogol yn Rhufain wedi myned mor bell mewn cyfeiliornad crefyddol, fel yr oeddynt yn dal allan fod yr athrawiaeth o gyfiawnhad trwy ffydd yn Nghrist yn gwneyd ufudd-dod i'r ddeddf foesol yn afreidiol. Ymddengys oddiwrth ddull Paul yn ymresymu f r gwrthwyneb eu bod yn credu fod Crist wedi cadw y ddeddf yn eu Ue, a bod ei waith yn ei chadw yn cael ei gyfrif iddynt hwy, ac mai annghyfiawnder yn Nuw fyddai gofyn ufudd-dod ganddynt mwyacn, na fyddai ddim yn amgen nâ gofyn dau daliad am un ddyled. Tybient hefyd fod byw mewn pechod yn fanteisiol i ras Duw i ymddangos yn helaethach yn eu cadwedigaeth. Antmomiaeth trwyadl—athrawiaeth gableddus, a arweinia i yegafuder a phenrhyddid. Ow ! gymmaint sydd yn proffesu crefydd a'u buch- edd yn tystio taw dyma yr athrawiaeth y maent hwythau yn gredu ; oblegyd wrth fuchedd dyn y penderfynir oreu beth yw ei gred. " Wrth eu ffrwytìiau yr adnabyddwch hwynt." Yn y geiriau a welir yn yr adnodau dan sylw y ma'e I'aul, yn ol ei fedrusrwydd arferol o amddiffyn egwyddorion y grefydd Grist- ionogol, yn dadymchwelyd y tybiau cyfeiliornus yna ag oedd yn ffynu yn mhlith y Cristionogion yn Ithufain ; ac yn carthu allan o'r eglwys bob peth ag oedd yn tueddu i niweidio buchedd santaidd; a dcngys, gyda^r eglurdeb mwyaf, fod egwyddorion y grefydd Gristionogol yn gofyn llwyr ymwrthodiad o bechod mewn meddwl, gair, a gweithred. " Beth wrth hyny a ddywedwn ni ? a drigwn ni yn wastad mewn pechod fel yr amlhao gras ? Na ato I)uw. A ninau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn byw etto ynddo ef P" &c. Pwnc yr apostol ydyw " rhwymedigaeth y credadyn i fucheddu yn santaidd." Canfyddwn fod y rhwymedigaeth hyn yn cyfodi Oddiar natur einproffbs.—Y mae ein proffes yn arwyddocâu ein symudiad o gyflwr pechadurus i gyflwr o santeiddrwydd a rhinwedd. " A ninau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn byw etto ynddo ef ? Oni wyddoch chwi am gynnifer o honom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, ein bedyddio ni i'w farwolaeth ef P Claddwyd ni, gan hyny, gydag ef trwy fedydd i farwolaeth, fel megis ag y cyfodwyd Crist trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninau hefyd mewn newydd-deb buchedd." Y mae ein symudiad o beehod i santeidd- rwydd yn cael ei osod allan yn yr ymadroddion " Marw i bechod," " Claddu yn y bedydd," " A'n hadcyfodiad i fuchedd newydd." Yn ein bedydd y gwnaethom broffes ein bod yn credu yn Nghrist, yn marw i bechod,.a'n penderfyniad i fyw, bywyd santaidd o hyny allan. 55