Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER, Rhif. 516.] MEDI, 1858. [Crr. XII. BYWYD A NODWEDDAU Y DIWEDDAR SYE HENET HAVEL0CK, E.C.B. Gan t Parch. E. THOMAS, Trebegar. Mae y frawddeg olaf ond un yn ein llythyr olaf, yr hon a ddywed fod " bìwyddyn a saith mis, a naw diwrnod, etto hyd ddiwedd ei oes," drwy an- ffawd yn neu allan o'r swyddfa, yn annghywir; canys dylasai fod yn ddwy flynedd, &c, ac nid un flwyddyn. Mae yn taro ar fy meddwl yn awr mai chwareu diles iawn i'r ysgrifenydd a'r darllenydd yw ysgrifenu un frawddeg iwneydcamsynied a'r frawddeg nesaf ati i'w hunioni! Beth pebyddai dyn yn treulio ei oes i wneyd peth felly, dywedyd a gwrth-ddywedyd er mwyn bod yn iawn; ond mae hyny yn well nà gwaeth, ac mae gwaeth nâ hyny yn bod. Yn Simla, yn Bengal, yn India, oedd Havelock pan gododd boreu y 5 o Ebrill, 1855, ac y cafodd ei hun jn dri ugain oed. Ei sefyllfa yn awr oedd Is-gad- lywydd, (Adjutant-General,) swydd a gafodd oddiaryr 8 o Ragfyr, 1854, aca ddaliodd hyd Ionawr, 1857, (dros ddwy flynedd,) pan aeth allan i Persia yn Llywydd.yr ailadran o'r fyddin yn y rhyfelgyrchhwnw, a Syr James Outram yu Llywydd yr adran gyntaf, Mae ei sefylíía yn awr yn y fyddin yn uwch nag y bu erioed o'r blaen. Arosai yn awr gyda y Cadlywydd Arlwydd Har- dinge, yn Nghalcutta, ac elai gydag ef trwy ei deithiau cylchynol i edrych helynt ei fyddinoedd yn y gwahanol orsafoedd. Cawn tua dau ar ugain o'i lythyrau wedi eu hysgrifenu yn y tymhor hwn, yn y rhai y dangosir nod- weddau ei gymmeriad mor eglur a boddhaol — ei ffyddiondeb swyddol—ei sereh teuluol, a'i dduwioldeb diffuant, yn nghyd à'i amynedd dyfal dan orthrymder- au. Mae ei bryder yn achos, a'i ymdrech dros ei deulu yn cael ei ddangos yn eglur mewn llythyr o'i eiddo at ei frawd yn nghyfraith, Mr. Marshman, a ÿs- grifenwyd ganddo tua diwedd 1856. Wele ei eiriau ei hun,—" Yr wyf yn ceisio orafu rhyw ychydig at eu gilydd bob mis, i gadw fy ngwraig a'm plant allan o'r Union pan fethwyf lafurio ychwaneg; ond yn araf iawn, ac er niwed i'm cyfansoddiad, er nad wyf, diolch i Dduw, wedi edrych ar feddyg er pau adewais Simla y Uynedd. Yr wyf wedi myned yn benfrith a diddannedd, ac etta mae wyth mlynedd rhyngof a bod yn Major-Gencral" JSìd oedd yn gwybod dim y pryd hwnw nad oedd ond deuddeg mis rhyngddo a bodyn Knight Commander of the Bath ; ond er na wyddai hyn, ac nad oedd yn gweled Luck- now a'r gorchestion ar y ffordd yno, dywedai, "Daw pob peth yn iawn yn y diwedu;" obìegyd yr oedd Duw a thrugaredd yn cael lle yn. ei feddwl yn yr oriau iywylìaf, a braidd yn mhob Uythyr o'i eiddo, gan nad pa mor fyr a fyddai. Ar y 27 o Ionawr, 1857, y cychwynodd mewn steamer o Bombay i Persia, yn flaenor yr ail adran o'r fyddin; dau Brigadier dan ei lywyddiaeth, a Syr James Outram yr uhig Bwyddwr uwchlaw iddo. Yr oedd ei fab henaf, Henry, am y tro cyntaf yn myned allan gydag ef, yn gwneyd rhan o waith y Pen- Uuestai oyflVedinol, Mae BTarelock yn gosod pwys mnwr ar y rhyfelgyrch hon, 49 -. ■•••■ •■. * - J —r- . .