Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER, RniF. 515.] AWST, 1858. [Cyf. XLI. Y PEEÖETHWE BUDDIOL;* NEÜ \ HEN DDABLUN O'R WEINIDOGAETH SYDD EISIEIT ARNOM Y PYDDIATJ HYN. Gan y Pahch. Dan Davi.es, Pontfaen. 1 A hefyd, am fod y pregethwr yn ddoeth, efe a ddysgodd etto~wybodaeth i'r bobl; îe, efe a ystyriodd, ac a chwiliodd allan, ac a drefnodd ddiarebion lawer. Chwiliodd y pregethwr am eiriau cymmer- adwy; a'r hyn oedd ysgrifenedig oedä nniawn, sef geiriau gwirionedd. Geiriau y doethion sydd megis symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynnulleidfa, y rbai a roddir oddiwrth unbugaiì,"—Prbo. xii. 9, 10, II. Peegetht: nid yw o ddyfais ddynol, na diweddar; eithryn sefydliad o eiddo Duw, ac agos cyn hened â'r byd. Efallai ei bod yn briodol dyweyd fod Duw ei hun wedi pregethu, a phregethu efengyl i Adda ac Efa yn ngardd Eden. Ysbryd Crist yn a thrwy Noa, a bregethodd i'r cyn-ddiluwiaid, ys- brydion y rhai sydd yn awr yn ngharcharuffern, o herwydd eu hanufudd-dod ; a ííoa a gafodd yr enw " pregethwr cyfiawnder." Ezra a safodd ar bulpud o bres i ddarllen y gyfraith, gan roddi y deongliad. Solomon a draetha am dano ei hun dan y cymmeriad o bregethwr, a phregethwr doeth. Y sefydliad new- ydd a ddygwyd i mcwn trwy bregethu loan Eedyddiwr yn anialwch Judea; Crist a ymroddodd i'r gwaith hwn ; yr apostolion a'r efengylwyr a bregeth- asant deyrnas nefoedd- Trwy allu a chyfryngiad yr Arglwydd fe barheir pregethu yn y byd hyd heddyw, er holl ymdrech gelynion i'r gwrthwyneb ; ac í'e'i parheir hyd nes y byddo " gwybodaeth o'r Arglwydd wedi llanw y ddaiar, fel y mae y dyfroedd yn toi y môr." Fel y mae yr Ysgrythyrau Santaidd a chalonau credinwyr yn ystorfaoedd y gwirionedd, felly yn neillduol y mae y weinidogaeth Gristionogol. Ac y mae doethineb yr Arglwydd mor amlwg yn y sefydliad hwn, ag un sefydliad pa bynag o'i eiddo. Mae y ddyfais Ddwyfol hon yn peri fod crefydd yn destun myfyrdod gan rai o'r teulu dynol; oblegyd rhaid i'r pregethwr fyfyrio, ac y mae miloedd o filoedd wedi eu dysgu am y pethau a berthynánt i'w tragywyddol heddwch, na chawsent byth pe na buasai pregethu mewn bod. Ac y mae mor gymhwys i duedd gymdeithasol dynolryw ; ymhyfryda y bobl i gyfarfod yn yr un lle, a chydunol a'u hanian yw cael achlysur neu esgus; ac fel hyn gall un, trwy y ddyfais o bregethu, ddysgu cannoedd. Peth anhawdd fuasai fr Apostol Pedr ar ddydd y Pentecost alw heibio i dair mil, er eu dyígu a'u hargyhoeddi; ond trwy bregethu, un anerchiad a wnaeth y tro i'r cwol. Dylem werthfawrogi y weinidogaeth bregethiadol yn gym- maint aguno sefydliadau grasol Duw yn ein plith. Os yw y ddyfais o bregethu o fonedd mor uchel, ac o ddefnyddioldeb mor fawr, y mae o bwys i gael goruchwylwyr cymhwys i'r alwedigaeth nefol; ac os bendithir ein hymdrech i argraffu hyn ar eich meddyliau, anwyl frodyr, bydd • Yr Anerohiad CyiMnreÌR a draddodwyd eleui i fyfyrwyr Coleg Pontypool. 43