Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SBREN GOMER, Ehif. 513.] MEHEFIN, 1858. [Ctf. XLI. BYWYD A NODWEDDAU Y DIWEDDAR SYE HENEY HAVEL0CK, £C.B. Gan t Pabch. E. THOMAS, Teedegae. Daw gwrthddrych ein cofiant dan sylw mewn dau beth neillduol; sef ya ngorchestion ei hanes, a grym ei grefyddolder. Beth bynag yw ein barn am gyfreithlondeb neu annghyfreithlondeb rhyfeloedd, &c, fe gyduna pawb fod sef- yllfa milwr, yn enwedig swyddwr milwrol, yn anfanteisiol 1 grefydd. Myn rhai fodrhyfel o bob math yn waharddedig gan Gristionogaeth ; a chan fod y sefyllfa filwrol yn elynol i grefydd, na ddylai*un Cristion fod yn filwr, nac ennill ei fara trwy ddwyn arfau. Pell iawn oddiwrthym fyddo dyweyd dim i greu ysbryd rhyfel yn neb, nid hyny yw ein hamcan, ac yr ydym yD tybied mai priodol yw dyweyd hyny yn y cychwyniad, o herwydd ei fod yn anhawdd mawrhau gorchestion milwrol heb ymddangos fel yn bleidiol i ryfel; ond yn gymmaint a bod crefyddolder Have- look i'w weled mor amlwg yn ei holl symudiadau milwrol, yr ydymynmeddwl fod ei siamplau yn werth eu coffhau, gan fel y dangosant allu Cristionogaeth—yn gwneyd ei pherchenog yn gyfryw ddyn dan amgylchiadau mor anfanteisiol. Os oes perygl i son am ryfel rhag creu ysbryd rhyfela, mae perygl hefyd i adael y fath siamplau o dduwioldeb yn guddiedig, trwy beidio son am danynt. Os yw drwg rhyfel yn galw arnom dewi, mae daioni Havelock yn galw arnom i lefaru. Fe gotìa ỳ darllenydd fod Havelock yn 63 mlwydd oed pan y bu farw; ap feallai y byddai yn fanteisiol i ni, i gofio rhag llaw, i ranu ei fywyd yn dair neu bedair cyfnod. Ye ugain mltnedd ctntaf tn ei fywtd.—Yr ydys yn arfer, wrth roddi hanes dynion, i ddechreu gyda'u genedigaeth ; ac mae hyny, mae'n debyg, yn beth athronyddol. Ganwyd Havelock mewn tref a elwir Bishop WearmouŴ, yn agos i Sunderland, yn swydd Durham, ar ddydd Sul y Pasg, sef Ebrill y 5, 1795. Dywedir fod ei henafiaid yn preswylio mewn lle a elwir Great Grimsby, swydd Lincoln, er amser y Brenin Alffred, a'u bod yn ddisgynyddion i ryw Dywysog Daniaidd. Enw ei dad oedd William, ae enw ei fam oedd Jane. Bu iddynt saith o blant, ac Henry oedd y trydydd yn eu mysg ; Helen a William oeddynt henaoh nag ef; Jane, Thomas, lsabella, a Charles Frederick, oeddynt ieuangach nag ef. Y oof cyntaf oedd gan Havelock am dano ei hun oedd, fod y teulu oll, rhieni a phlant, yn byw yn Fford, yn agos i Sunderland, yn 1798, pan oedd ef «íi hun yn dair blwydd oed. Yr oedd tad Havelock yn fasgnachydd ac adeiladydd llongau, mae'n debyg, ar radd helaeth, yn Sunderland, hyd 1799; ac wedi casglu cyfoeth lawer, efe a symudodd i ddeneudir Lloegr yn y flwydd- yn uchod, ao a brynodd Ingress Park, yn agos i Dartford, yn swydd Kent. Mae y teulu yn awr yn gyfoethog ae uchel yn y byd; mae Henry yn mhen ychydig (1801), pan yn cnwech mlwydd oed, yn cael ei osod mewn ysgol fel talwestwr par- lawr (parlour boarder) gyda y Parch. J. Bradley, curad Swanscombe, y plwyf lle yr oedd Ingress Park yn sefyll ynddo. Bu yn yr ysgol hon tua thair mtynedd, nes iddo, yn 1804, pan yn naẁ mlwydd oed, symud i ysgolia i'r Charter Some, a sef- ydlu yn nhal-westy (boarding-house) y Parch. Dr. Matthew Baine, y prif ysgol- feistr yn y Charter House. Pyma ni yn awr (1804) yn cael Havelock ienanc yn 31