Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Khit. 510.] MAWETH, 1858. [Cip. XLI. ÇYSSONDEB NATUE A DADGUDDIAD. " Myfyriaia ar dy holl waith; ac yn ngweithredoedd dy ddwylaw y myfyriaf."—Daftdd . " Open mine eye, dread Deity ! to read The tacit doctrine of thy works; to see Things as they are, unalter'd through the glass Of wòrldly wishes."—Youhg. "Onid yw naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi?"—Paul. Mae dynion i'w cael yn y byd a broffesant barchu natur, i fawrb.au ei threfn a'i gogoniant, ac byd y nod ei haddoli; ond a wadant fod y Bibl yn ddadgudd- iad ocldiwrth Duw, ac a ystyriant ei honiadau yn oferwag a disail. Y mae ereill a ant i'r eithafnod arall, y rhai a garant ac a syniant mor uchel ac mor barchus am y Bibl, fel nad ynt braidd byth yn meddwl am fyfyrio gweithredoedd a rhyfeddodau natur, ond a ystyriant taw prawf o wir dduwioldeb yw caeth- iwo'r meddwl o fewn cylch y Gyfrol Ysbrydoledig yn unig. Y mae ereill a edrychant ar natur a dadguddiad fel cynnyrchion yr un meddwl, a ystyriant fod y ddau yn teilyngu eu syíw difrifolaf, gan eu bod yn egluro yr un Duw, ac yn cydgordio yn eu holl ddadguddiadau. Mewn natur a dadguddiad, gwelant ac addolant eu Duw a'u Prynwr. Dyma'r egwyddor sydd yn cael ei hegluro mor gampus, a'i gosod allan mor feistrolgar, yn " Butler's Analogy of Ileligion." Mae ef wedi dadblygu o'n blaeu y cyfatebion a fodolant yn y byd ysbrydol i'r byd naturiol. Mae ei waith yn haeddu y parch mwyaf; nid yw y clod sydd yn cael ei dalu iddo yn ormod ; y mae fel tarian gref wedi ei chodi i " ddiffodd picellau tanllyd" gelynion Cristionogaeth, ac y mae yn brawf diymwad o alluoedd mawrion ei awdwr, Cyfeiriwn ato fel hyn, am y credwn y dylai pob dyn meddylgar ei ddarllen a'i fyfyrio; mae yn haeddu bod ar yr astell oreu yn y Uyfrgell, a chredwn fod pennod o hono yn gystal intellectual tonic a dim y gellir ddarllen. I. Fod gwirioneddau i'w canfod yn natur a gadarnheir yn y Bibl. 1. Mae y gwirionedd o fodolaeth Duw yn cael ei gymmeryd yn ganiataol yn y Bibl; nid yw yn proffesu ei brofi, mae yn edrych arno fel peth penderfynol. Mae y frawddeg gyntaf yn rhagdybied y ffaith, ond nid ei phrofi. Oddiwrth weithredoedd natur, y cyssondeb a'r drefn a fodolant ynddynt, yr ydym yn casglu yn rhesymol fod achos cyntaf, Crewr doeth, Bod hnnanddibynol a thragywyddol —Duw. Mae y bydyssawd yn brawf o fod Duw ; mae yn pregethu y gwirion- edd hwn yn hyawdl a chryf. Mae y wers hon yn cael ei dysgu yn nghyfrol natur, ac nid yw'r Ysgrythyrau yn cyfeirio ati fel yn sefyll mewn angen am brawf, ond dywed fod yr hwn sydd yn gwadu y fí'aith yn "ynfyd." Mae y gwirionedd hwn yn cael ei ddysgu gan yr holl greadigaeth, ei arddangos yn ei holl ryfeddodau, a'i adseinio yn enaid dyn. 2. Yr ydym yn casglu oddiwrth yr unoliaeth amcan a'r drefn odidog sydd yn teyrnasu trwy holl natur, mai un Duw sydd, fod un Crewr. Nid oes un gwrth- darawiad, un annghydundeb rhwng gwahanol ranau y cyfanfyd, cybelled ag y gwyddom ni; nid oes dim i'n harwain i feddwl fod un ran yn waith un Crewr, a'r llall yn waith Creawdwr arall; ond y mae pob peth wedi ei osodtan gyfraith, ac yn ymsymud mewn perffaith gyssondeb ; nid oes seiniau annghydgordiol i 13