Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 509.] CHWEFEOR, 1858. [Ctf. XLI. TEAETHAWD BUDDÜGOL YN EISTEDDFOD BLAENAU GWENT, AE Y CYNAUAE. (Parhad o tudalen 6.) 5. Ghoerthy Cynauafi'r myrdd creadariaid ydynt yn dibynu ar gyfra»iadau haelionus Hhagluniaeth am barhad eu bodolaelh. Mae gan yr anifeiliaid eu cynauaf, ac mae gan ddynion eu cynauaf; neu yn hytrach, mae cynauaf ar yr hwn y dibyna y ereadur direswm am ei borth- iant ef, ac y mae cynauaf hefyd ar yr hwn y dibyna y creadur dyn am ei gyn- naliaeth yntau. Egyr y Goruehaf ei law fawr adeg y cynauaf, ac y mae yn diwallu nid dyn yn unig, oud " Pob peth byw a'i ewyllys da." Pa dafod all draethu, neupa galon all ddychymmygu gwerth cynauafun tymhor fírwythlawn ? Yr ydym yn hyf i ddyweyd mai ychydig o ysgolheigion sydd yn ein gwlad a allant ddyweyd gwerth cynauaf i ynys Prydain. Pa faint ychwaneg raid fod gwerth yr unrhyw i Europ a'r byd mawr oll ? Byddai y golled am borthiant yr anifeiliaid yn gyfanswm aruthrol o faintioli. Mae yn ddiammheu y byddai pris bywyd yr anifeiliaid a drengent o eisieu, yn mhell uwchlaw cyfrif. Colli y cyn- auaf, fyddai colli y meirch nerthol ydynt yn gwasanaethu ar ddynolryw înor ewyllysgar, ac yn arbed iddynt y fath lafur dirfawr—fyddai colfi y gwartheg sydd yu cynnyrchu liaeth ae ymenyn i gyflenwi ein angenrheidiau—fyddai oolü adnoddau y mil myrdd creaduriaid ydynt oll yn gwasanaethu dyn, ac yn yohwan- egiad mor bwysig at ei gysuron yn mhob ystyr y gallwnììdychymmygu. Ond os deuwnyn mlaenat y "Cynauaf,"y mae dynolrywyn dibynu yn fwyafuniongyrch- ol arno ; mae ei werth yn llawer uwchlaw dirnadaeth. Y mae yr haidd, y ceirch, y rhyg, a'r gwenith a gynnyrohir gan un cynauaf, o werth annrhaethadwy mewn cyssylltiftd â chysuron, moesau, ffyniant a chynnydd y gymdeithas ddynol. Pe collid cynauaf un flwyddyn, achosai hyny golled o filiynau o bunnau mewn arian; drueni annarluniadwy yn mhob cylch teuluaidd a chymdeithasol; gwnai niŵed anwelladwy i foesau y byd, a pherai i fyrdd o ellyllon trueni gynniwair yn eu rhwysg ar hyd lenyrch tecaf y dalaeth isloerawl hon. Dychymmyged fy narllen- ydd am flwyddyn yn myned dros ben y ddaiar heb un cynauaf yn perthyn iddi. Daw y gauaf i mewn, heb y tymhor dan sylw yn ei ragflaenu ; mae yr anifeüiaid yn dysgwyl am eu porthiant; ond ni chafwyd cynauaf i barotoi ar eu cyfer; disgyn yr eira gwyn i hulio y ddaiar; bwrir iâ fel tameidiau, a thaenir rhew fel lludw, nes y byddwn yn methu aros gan ei oerni ef; dechreua y meiroh a'r ychain edrych at ddyn am ei gyfryngiad arferol yn y cyfryw amgylchiadau, ond nid oes gan hwnw ond ymweled â hwynt yn waglaw, a thaflu golwg o dosturi a chydymdeimlad arnynt. Mae eu brefiadau yn ei glustiau ddydd a nos, a'u he- bychion prudd yn ei ganlyn yn nghwsg ac yn effro, ond nis gall eu cynnorth- wyo, ac nid oes ganddo ond edrych arnynt yn trengu heb fodd i estyn iddynt eu cyfran arferol, gan fod y cynauaf wedi ei golli, a Duw wedi cau ffenestri y nefoedd, rhag i gymmwynasau y tymhor hwnw ymweled â'r ddaiar yn yr amser priodol. Y caníyniad ydyw, mae yr anifeiliaid yn trengu wrth y