Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Ehif. 508.] lOÎTAWE, 1858. [Cyf. XIX T TRAETHAWD BTJDDÜGOL YN EISTEDDFOD BLAENAU GWENT, AE Y CYNAUAF. Testyn cystadleuol yn Eisteddfod Blaenau Gwent; Medi 7fed, 1857. Gan " Gwrgant Farfdrwch." Sef y Parch. T. B. Morris, Bethel, Llanfyllin. Mae amser yn cael ei ddosranu yn gyffredin i eiliadau, mynydau, oriau, diwrn - odau, wythnosau, misoedd a blynyddoedd ; ac mae y flwyddyn, drachefn, yn cael ei rhanu yn bedwar tymhor, sef gwanwyn, haf, cynauaf a gauaf. Mae yn per- thyn i'r tymhorau amrywiol hyn eu nodau gwahaniaethol; hynodir hwynt gan ryw ardderchowgrwydd arbenig yn ol ewyllys oruchaf Llywydd Mawr y cyfan- fyd. Mae y gwanwyn yn cael ei nodweddu gan hoenusrwydd ieuangaidd—gan sirioldeb gwyryfol, a chan ardrem fywiog, llawen ac iachus. Y mae yr haf yn cael ei nodweddu gan adloniant, cynnydd, prydferthwch a lluosogiad. Felly y cynauaf, gan ffrwythlondeb, addfedrwydd, gwtes a pherffeithrwydd. A'r gauaf drachefn gan ddiffrwythder,. oerni, marweidd-dra a gwywder cyffredinol. Mae yr holl dymhorau amrywiol hyn yn angenrheidiol yn eu lle, a'r oll yn ateb eu priodol ddybenion. Tymhor cwsg a gorphwysiad y ddaiar yw'r gauaf; cyfnod ei deffroad a'i hymddadebriad yw y gwanwyn ; pryd ei gweitngarweh, a'i mwyn- had hyfrydol yw yr haf; ac adeg perffeithiad pì chynlìuniau, cwblhaH ei hamcan- ion, ac ystoriad angenrheidiau erbyn y dyfodol yw y Cynauaf. Cyfansoddir y gairo " cyn " a " gauaf"—y tymhcr cyn gaaaf ydyw, ac mae yn angenrheidiol ei ddefnyddio i wneyd darpariadau erbyn y gauaf. Os gadewir i adeg werthfawr y Cynauaf fyned heibio, heb ei defnyddio yn briodol, a gwneyd y parotoadau angen- rheidiol arni, bydd i esgeulusdod o'r fath ddyledswydd eglur gael ei dilyn gan gospedigaeth gyfatebol. Yn y gauaf, bydd yr euog yn gorfod cardota, ae er iddo gardota, ni bydd iddo gael dim ; caua yn erbyn ei hun ymysgaroedd tosturiaethau ei gyd-ddynion, a phoenir ef ynddirfawr gan edliwiadau cydwybod. Yrydym yn defnyddio y gair "Cj'nauaf" mewn niwy nag un ystyr yn ein hymadroddion cyffredin. Ẅeithiau golygir wrtho y tymhor a adnabyddir wrth yr enw, a phryd arall gynnyrch y tymhor hwnw; neu y grawn a ddygir gan y tymhor i addfed- rwydd, Felly " casglu y cynauaf." a olyga, casglu ffrwyth y tymhor i le o ddy- ogelwch erbyn y dyfodol. Bydd i'r gair yn y Traethawd hwn gael ei arfer yn y naill a'r llall o'r ystyron hyn, yn ol fel y bydd amgyhîhiadau a rhediad ein rhes- ymeg yn gofyn. Ac yn gyntaf oll, yr ydym yn sylwi ar-r— Tpartoadau angenrheidiol erbyny cynauaf Mae yn ddigon amlwg nad oes gan ddyn un peth i'w wneyd mewn cyssylltiad â rheolaeth tywydd y tymhor, o herwydd cadwodd Ior yr hawlfraint hono iddo ei hun, ac nid yw ymgais y creadur i'w ddifeddiannu o honi ond ffolineb perffaith, Efe sydd yn rhwymo godreu cymylau y nen, ac yn attal y gwlaw garw ddisgyn ar y ddaiar ; efe sydd yn gorchymmyn i weniadau tyner yr haul aros ar y meus- ydd, ac addfedu y grawn, nes y delo y'n barod i'r medelwr roddi ei gryman i mewn. Ond ni ddeuai y meusydd a'r dyffrynoedd byth 3-n addfed, heb fod dyn yn fiaen-