Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER, ]ímr. 507.] EHAGFYE, 1857. [Ctf. XL. CYMMERIAD AC AMCAN LLYWODEAETH DUW AE Y BYD. Gan y Paech. J. R. MORGANS, (Lleurwg.) " Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw ; dyrchefir fi yn mysg y cenedloedd, dyrchefir fi ar y ddaiar.—Salm xlvi, 10. Nis gallwn, wrth ddarllen yr ysgrythyrau, lai na sylwi ar yr amrywiol agweddau, yn mha rai y gosodant aílan y eyssylltiad sydd rhwng Duw a'i weithredoedd. 1. Darluniant ef fel y cyssylltiad rhwng y Creawdwr a'r creadur. " Yn y dechreuad y creodd Duw y nefoedd a'r ddaiar." " Duw a wnaeth y byd, aphob peth sydd ynddo." "Eféawnaetho un gwaed bob cenedl o ddynion i bre- swylio ar holl wyneb y ddaiar." " Tydi, Arglwydd, yn y dechreuad, a sylfaen- aist y ddaiar, a gwaith dy ddwylaw di yw y nefoedd." " O Arglwydd, tydi yw yr hwn a wnaethost y nef, a'r ddaiar, a'r mor, ac oll sydd ynddynt." 2. Darluniant ef fel y cyssylltiad sydd rhwng Cynnaliwr, a'r hyn a gynnelir ganddo. " Nid yw efe yn ddiau neppell oddiwrth bob un o honom, oblegyd ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symud, ac yn bod." "Llygaid pob peth a ddysgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bywyd iddynt yn ei bryd ; gan agoryd dy ]aw a diwaüu pob peth byw â'th ewyllys da." " A roddech iddynt a gasglant; agori dy law a diwellir hwynt â daioni. Pan ollyngych dy ysbryd y creir hwynt, ac yr adnewyddi wyneb y ddaiar. Ti a guddi dy wynèb, hwythau a drallodir, dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwel- ant i'w llwch." 3. Darluniant ef fel y cyssylltiad sydd rhwng Llywodraethwr â'r hyn sydÜ dan ei lywyddiaeth. " Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu." " Duw sydd Frenin mawr." " Yn dywedyd, Fy ngynghor a saif, a'm holl ewyllys a wnaf." Y mae y tair agwedd yma, weithiau, yn cael eu cyd-gyflwyno ger ein bron. " Ti yn unig wyt Arglwydd; ti a wnaethost y nefoedd, nefoedd y nefoedd, a'u holl luoedd hwynt, y ddaiar a'r hyn oll sydd arni; y moroedcl, a'r hyn oll sydd ynddynt; a thi syda yn eu cynnal hwynt oll, a llu y nefoedd sydd yn yragrymu i ti." " Canys ohono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef y mae pob petn; ì'r hwn y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Ac yn y cymmeriad o Lywodraethwr y y dangosir ef yn y testyn a'i gyssylltiadau. Pengys yr ysgrythyrau fod llywodraeth Duw yn un gyfíredinol, yn cyrhaedd pob byd, ac yn rheoli pob gwrthddrych. " Bendigedig wyt ti, Argíwydd Dduw, o dragywyddoldeb hyd dragywyddoídeb. I ti, Arglwydd, y mae mawredd, a gallu, a gogoniant, a goruchafiaeth, a harddwch; canys y cwbl yn y nefoedd ac yn y ddaiar sydd eiddot ti; y deymas sydd eiddot ti, Arg^wydd, yr hwn hefyd a'ymddyrchefaist yn ben ar bob peth. Cyfoeth hefyd ac anrhydedd a ddaw oddiwrthyt ti, a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di "y mae nerth a chadernid; yn dy law di hefyd v mae mawrhau a nerthu pob dim. v ' 68