Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER, Rhif. 506.] TACHWEDD, 1857. [Cyf. XL. PEOPHWYDOLIAETH A'I CHYPLAWNIAD. Amlwg yw fod y byd, o herwydd Uygredigaeth dynolryw, yn sefyll mewn angen o gael dadguddiad dwyfol; ac felly, yn unol â'r angen hyn, y gwelodd Dnw yn dda, o'i fawr drugaredd, i roddi i ddynion ei Air. Ac y mae y dull yn mha un y cafodd y Gair ei roddi yn arddangos ei wiredd, ac felly yn hawlio derbyniad fel y cyfryw oddiwrth bob dyn; oblegyd y mae yn meddu ar broíion diysgog mai gwir Air Duw ydyw. Y mae y profion hyn yn cael eu rhanu gan dduwinyddion i dri dosparth, sef, allanol, mewnol, a ehyfochrol. Ac y mae y blaenaf o'r tri hyn yn gynnwysedig o'r prophwydoliaethau a'r gwyrthiau. Ac ymddengys mai un o'r profion cadarnaf sydd genym o ddwyfoldeb yr Ysgrytb- yrau ydyw y rhes o'r prophwydoliaethau a gynnwysir yn yr Hen Destament a'r ííewydd. Ond y mae cynnifer o flynyddau wedi myned heibio er pan beidiodd ysbryd prophwydoliaeth yn y byd, fel ag y mae llawer yn ein dyddiau ni yn dueddol i feddwl nad oes y fath beth erioed wedi bod; ac nad yw yr oll o brophwydoliaethau, neu rag'idywediadau y Bibl, ond hanesion a ysgrifenwyd wedi i'r dygwyddiadau gymmeryd lle. Ond nid oes gymmaint ag un enghraifft deilwng a gadarnha y fath dyb. Ac y mae dal allan y fath athrawiaeth an- nheilwng â hon yn berygl o'r mwyaf; oblegyd wrth wadu gwiredd y prophwyd- oliaethau, yr ydys mewn rhan yn gwadu dwyfoldeb yr Ysgrythyrau; ac y mae sefyllfa yr hwn a wada yr Ysgrythyrau yn waeth na'r hwn sydd yn am- ddifad o honynt; ac y mae bod yn amddifad o honynt yn cynnwys bod heb gymundeb â Duw; ac y mae bod heb gymundeb â Duw yn cynnwys bod heb Dduw; a bod heb Dduw ydÿw bod heb y nefoedd a'i dedwyddwch; a bod heb hyn fydd bod yn dragywyddol annedwydd. 0 ganlyniad, dylai pob dyn sydd yn caru ei les ei hunan ochelyd y pethau hyny sydd a thuedd ynddynt i ddiraddio yr Ysgrythyrau, a mynwesu y pethau a dueddant i'w dyrchafu, fel y byddo i'w gwrthwynebwyr drwy hyny ddyfod i'w caru, ac i weled eu gwerth. Y mae yn rhesymol yn gystal ag yn ddyledswydd arnom i barchu Gair Duw, oblegyd ?r dyben oedd gan Dduw mewn golWg wrth ei roddi, oedd, ychwanegu, ac nid leihau, ein dedwyddwch. Ac y mae y ffaith fod y Bibl yn cynnyrchu budd i'r rhai a'i meddant yn ymddangos yn egìur pan yr ystyriom y gwahaniaeth dir- fawr sydd rhwng ei feddiannwyr (os yn gwneyd iawn ddefnydd o hono,) â'r rhai sydd yn amddifaid o hono. Natur a thuedd yr Ysgrythyrau ydyw addysgu i ddynion grefydd wirioneddol ac ysbrydol. Eu gorchymmynion ydynt yn cyrhaedd meddyliau a bwriadau y galon; a hawliant gyssegriad ac ymlyniad hollol wrthynt, yn nghyd âg ufudd-dod i'r oll o honynt. Y Bibl ydyw y prif gyfrwng ordeiniedig gan Dduw er dangos i ddynion pa fath greaduriaid ydynt— eu bod wedi syrthio ou sefyllfa ddechreuol, ac felly yn gondemniol ger bron y Duw cyfiawn ; a pha fodd y mae adfeddiannu yr hyn a gollwyd, sef drwy eu cyfeirio at y Cyfryngwr a'r Gwared\AT, Iesu Grist. Gan hyny, y mae y Bibl yn cynnyrchu, nid yn unig hyffbrddiad, ond gallu; ac nid yn unig foesoldeb, ond ffydd hefyd, yn nghyd â gobaith o fywyd ac anfarwoldeb. Felly, yn gym- maint ag fod y Bibl yn dal cyssylltiad mor agos â dyn, a phrophwydoliaeth yn