Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMEE, Ehif. 505.] HYDEEF, 1857. [Cjt. XL. 0 BOBTU I'B PAEED. Gwblbdfa.—Aqunla ac Áqualü, cymmydogion y ddau ddrws nesaf, pob un yn pwyso ar ei ddrws ei hun, o bobtu i'r pared, ynymddyddan a'u gilydd yn min nos Alban Blfed. A wyddost ti beth, ebai Aqualis, y mae arnaf chwant gofyn i ti, Amrala, beth yw y rheswm dy fod ti yn gulach yn dy garedigrwydd cymdeithasof tuag ataf fi na myfi tuag atat ti ? Nid wyf yn dy ddeall,- Aqualis, ebai Aquula. Ehaid i ti brofi fy mod yn gulach; ac wedi i ti wneyd hyny, minau a fynegaf fy rheswm dros fy ymddygiad. Wel, ebai Aqualis, ti a wyddost fod y Testament Newydd yn rhoddi hanes am ein Meistr tir, iddo ef, er's llawer can mlynedd yn ol, o'i wir gariad, dalu y ffbrfFet drom oedd ar yr etifeddiaeth yma Üe mae ein tai, a hyny trwy dy- yn eu tai dros yr holl oesoedd er cof am ei gariad iaeth. Ac yr ydym ni ein dau wedi bod yn ofalus i gadw y wledd hon bob un yn ei dy ei hun, yn ol gorehymmyn ein Meistr cariadlawn. Ond pan y byddi di yn cynnal ei swper ef yn dy dŷ di, gwaherddir i mi fod yn gyfranog; eithr myfi, pan yn ei chynnal, a'th wahoddaf di i fod yn gydgyfranog â myfi o honi; gan hyny, y mae dy garedigrwydd di yn gulach na'r eiddof fi, a charwn glywed dy reswm dros hyny. Wel, ebai Aquula, yr wyt wedi profi dy fater yn eglur a theg, a minau a roddaf i ti yn yr un modd reswm dros fy ymddygiad. Ti a addefi mai o gyd- wybod dda, gan holi ein hunain, y cyfranogwn o'i swper Ef; ti a addefihefyd fod ein Meistr wedi gosod sefydliad arall, yr hwn a elwir Bedydd, ac y gofyna i'w holl ddeiliaid ufuddhau i'r sefydliad hyn cyn cyfranogi o'i Swper Ef; ti a addefi hefyd dy fod ti wedi derbyn hwnw yn gydwybodol; ti a addefi hefyd fy mod inau wedi ufuddhau iddo yn gydwybodol; ti a addefi hefyd mai nid yn yr un modd y gweinyddir y sefydliad hwn genyt ti a mi; a thi a addefi fy mod i yn credu mai nid Bedydd ein Meistr yw y seremoni a weinyddir genyt ti; minau a addefaf dy fod ti yn credu yn gydwybodol fod y seremoni yn wir fedydd o'i sefydliad ef. Wel yn awr, gan ein bod ni ein dau yn addef y pethau yna, nis gaÚaf fi o gydwybod dda gyfranogi â thi o'i Swper Ef. Dyna, ebai Aqualis, lle yr wyt ti etto yn gulach yn dy farn na myfi,—yr wyf fi yn credu mai Bedydd ein Meistr yw yr un gweinyddedig genyt ti a minau ; ac mai mewn amgylohiadau yn unig y mae y gwahaniaeth. Pa un bynag ai soddi y bedyddiedig yn y dwfr a wneir, neu ynte gymhwyso dwfr ato, un bedydd ein Meietr ydyw. A phan y bydd y bedyddiedig mewn oedran addas, ac heb ei fed- yddio o'r blaen yn ei fabandod, dylid cael ganddo dystiolaeth o'i edifeirwch tuag at Dduw, a'i ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist, cyn ei fedyddio. Wel, ebai Aquula, yr wyt wedi dangos yn eglur etto fod fy marn i yn gulach mewn amry w o bethau a nodaist nag yw dy farn di; ond nid oes eisiau siarad o berthynas iddynt, gan y gallwn ddeaÜ ein gilydd ar y pwnc mewnllaw heb hyny, 56