Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEEEN GOMEE. Rhif. 504.] MEDI, 1857. ■ [Cyf. XL. EHYDDID CYDWTBOD; Gâ$ thomas james, coleg pontypool. Wrth ryddid cydwybod y golygwn hawl dyn i ymarfer barn ei hunan, a gwcithredu yn ol darbwylliadau ei hunan yn holl faterion crefydd. Hawl dyn ydyw meddwl a barnu drosto ei hunan, a cliyflawni yr holl ddyledswyddau a greda efe sydd yn rhwymedig arno i'r Goruchaf, heb un attaliad pa bynag oddi- wrth allu nac awdurdod y tu faes iddo ei hun, ae heb ymyriad brenin nac ustus, pab nac offeiriad, na neb arall ychwaith. Yn anatebol i neb ond i'w Greawdwr am bob peth crefyddol. Iihyddid ydyw i fynwesu a mwynhau ei syniadau ei hunan, gyda golwg ar bob peth ag sydd yn perthyn i iachawdwriaeth ei enaid. Dylid cofio, modd bynag, y gall dyn feddiannu cydwybod dda mewn pethau crefyddol, pan y byddo ar yr un pryd yn mathru rhyddid ei gyd-ddyn. Dyna Paul, er enghraifft, S' hwn, pan yn sefyll o flaen y cynghor, a ddywedodd:—" Mi a wasanaethaia duw mewn pob cydwybod dda, hyd y dydd heddyw.'' Y mae yn ddigon hysbys fod yr apostol, cyn ei droedigaeth at y gwirionedd, yn cablu, yn gor- thrymu, ac yn erlid Eglwys Crist, er fod ganddo gydwybod. dda. Y mae llawer heblaw Saul o dan ddylanwad cydwybod ddiddysg wedi erlid y rhai a wahan- iaethent oddiwrthynt mewn barn, gan gredu yn ddiysgog eu bod drwy hyny yn gogoneddu Duw. Dywed ein Hiachawdwr:—" Hwy a'ch bwriant chwi allan o'r synagogau : ac y mae'r awr yn dyfod, y tybia pwy bynag a'ch lladdo eifod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw." Ymae ysbryd erlidgarmewnUawer o enghreifftiau yn deilliaw o falchder ysbrydol, yr hwn sydd a'i wreiddyn mewn anwybodaeth, a phan y maethir ef, y mae yn tori allan mewn drygau o'r lliw gwaethaf. Y mae y rhai hyny ag sydd dan arglwyddiaeth balchder ysbrydol yu wastad yn benboethiaid, a tharddle'penboethni yw tueddfryd halogedig y galon ddynol. Fel y sylwa y Parch. Baden Powell: " Nid oes eisiau ond ychydig adnabyddiaeth o'r natur daynol, er gweled fod ffynnon pob neillduedd a pnen- boethni yn gorwedd yn ddwfn yn nhueddfryd halogedig y galon ddynol, ac y maent yn rhy fynych yn maentumio eu goruchafiaeth hyd y nod pan fyddo'r dyn yn credu ei fod ef yn hollol dan ddylanwad yr ysbryd crefyddol uchelaf. Y mae'r ymwybodolrwydd o aiddgarwch didwyll dros yr hyn a greda efe sydd yn wirionedd, yn rhy aml yn dallu yr ymroddwas i wir natur y drwg-deimlad ag y mae efe yn faethu; ac y mae y penboethni a fynwesir fel hyn, yn llwyddo yn rhy rwydd i gyfiawnhau ei hunan, drwy arddangosion gwynebdeg, a thrwy gyflwyno ei hunan yn ddichellgar i'r gydwybod, a chamarwain y farn ragorach drwy ddadleuon twyllodrus dros amcanion rhesymol, cysson, a chanmoladwy. Y mae braidd bob amser yn ymddangos yn duedd gyflredin a naturiol i ddy- muno gweled ereill yn meddwl, yn teimlo, ae yn gweithredu fel y gwnawn ein hunain; ac y mae yr egwyddor yma o eiddo ein natur ni yn cyrhaedd gyda mwy o rym neillduol, bid sicr, at y pethau hyny ag y teimìwn fwyaf o day- * Y Ddarlith Ssi*onig s drftddod\vyd 3™ 1 Cyfarfod Blynyddol, Mai 20fed, 1857. 50