Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER, Rhif. 502.] GORPHEtfAF, 1857. [Ctp. XL. MOESOLDEBYBIBL* GAN THOMAS REEVES, PONTYPOOL. Fod dyn yn ddeiliad deddf foesol sydd mor amlwg â'i fod yn greadur rhesymol. Ac er cymmaint o wrthddadleuon a godir yn erbyn rhyddweithrediad dyn, mae yn ffaith fod pob dyn yn ymwybodofei fod yn rhyddweithredydd. Mae Duw wedi cynnysgaethu dyn â gallu i wahaniaethu rhwng da a drwg, iawnder ac an- iawnder—gallu hunanbenderfynol, â'r hwn y barna ei weithrediadau ei hun. Y mae rhyw farnydd o fewn dyn yn cymmeradwyo ac yn annghymmeradwyo, yn ol mesur ei wybodaeth, ei fod yn gwneyd, neu yn peidio gwneyd, ei ddyledswydd. Fod rhyw dduw yn cael y flaenoriaeth ar ereill yn mhob gwlad, a brawf fod dyn- olryw yn gyffredinol yn ymwybodol o wahamaeth rhwng drwg a da; ac felly yn feddiannol ar syniaa moesol. Gwir fod dynoliaeth wedi eidarostwng i ddyfn- der trueni ofnadwy gan anwybodaeth, paganiaeth, a ffyrnigrwydd creulonderau mewn rhai gwledydd anwaraidd, ao fod hawddgarwch rhai a fagwyd mewn gwledydd diwygiedig wedi eu hyllu yn fawr gan chwant i droseddiadau gwaed- lyd; ond etto ceir ynddynt arwyddion amlwg o fodoliaeth y syniad moesol. Cynhyrfiadau anian, megys rhuaa y daran—ymwibiad y fellten—a chryniad y ddaiar, wnant i fwytâwyr dynion ofni, a meibion celyd creulondeb grynu. Haint a wna i'r catnpwr mewn drygioni arafu yn ein gwlad ni. Y dyn a wna fwyaf o ddrwg i'w gyminydog, a deimla yn fuan os gwna rhywun ddrwg iddo ef. Mae rhai wedi bod mor ddrwg, fel nas gallodd cospedigaethau llymaf y gyfraith wlad- ol eu dofu; ond gwyneb mam a dynai'r dagrau yn llu o'u llygaid; yr hyn a brawf fod y syniad moesol o'u mewn hwynt. Er fod dyn yn meddu y galluoedd a nodwyd, etto yn amddifad o'r Bibl, nid oes ganddo ond crefydd natur, a'i reswm a'i gydwybod* i'w gyfarwyddo i gyflawni ei ddyledswydd. Úawer a gredant nad oes ar ddyn eisieu dim yn ychwaneg. Gallem feddwl fod y dynion yn edrych ar ddyn fel yr oedd cyn y owymp; ac os t'elly, yr ydym o'r un farn â hwynt, nad oes ar ddyn eisieu y Dadguddiad Dwy- fol i'w arwain ef i gyflawni ei ddyledswydd. Eithr pan yr edrychom ar ddyn yn ei gyflwr syrthiedig, dan effaith y oyfnewidiadau sydd wedi oymmeryd Üe yn olyuol i gwymp Eden—ar alluoedd ei feddwl ef wedi eu gwyrdroi—weâi colli eu canolbwynt a'u cydgordiad ; rhaid i ni ganfod fod ar ddyn eisieu y Bibl. Nid oes yn ngweithiau yr athrawon paganaidd yr un safon gy wir i iawnder ac an- iawnder; yn ofer yr edryohwn iddyut am egwyddorion sefydlog i ddyledswydd foesol, neu gymhwyllion i argymhelì eu hunain i gydwybod oleuedig. Cynnwysa y Bibl gyfundrefn gyfan o foesoldeb. Dosrenir y gyfundrefn bon i dair o ranau; y rhan flaenaf a'r benaf yw ein dyledswydd tuag at Dduw. l'n y Bibl cawn gymmeriad moesol Duw wedi ei ddadguddio, yn nghyd â'n dyled- iwydd ninau tuag ato fel y oyfryw. Dysgir ni i garu yr Arglwydd ein Duw â'n hollgalon, â'n hoîl enaid, à'n hoìl feddwl, ac â'n holl nerth. Rhydd hyn i ni feddylddryoh hyfryd am grefydd fel yn tarddu o'r egwyddor fendigaid hono, sef cariad. Mae yn ofynol i ni feddiannu y paroh mwyáf i gymmeriad moesol y Duw mawr. Dysgir ni hofyd i ofni Duw. Mae ofn Duw yn cael lle uchel yn y • Y DfUrlith Gymreig » ddwdiww^d T" Nghvfarf«Bíl B^ayddol Colcg Pontypool, M*i íOfed, IW. 38