Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER, Ehif. 500.] MAI, 1857. [Cn. XL. PUSEYAETR GAN J. G. PHILLIPS, MYFYEIWR, PONTYPOOL. Meddtliwn nad yw y gwahanol grefyddau a fodolant yn j byd yn tarddu o Air Duw, athrawiaetb.au pa un sydd mewn perffaitb gyssondeb, ac yn dysgu heddwch ac ewyllys da i bob dyn; ond tarddant oddiwrth fod dynion yn gwrthod y Bibl fel rbeol fíÿdd ac ymarweddiad. Rbaid i ni gyfaddef fod y gwabaniaeth crefyddol yma gwedi achosi ymrysonau, ymraniadau, rhyfeloedd, ac erledigaetbau. Ac y mae nyn yna yn dwyn tystioíaetb eglur a pliwysig yn erbyn gwabanol farnau mewn petbau crefyddol, ac y dylai yr boll Gristionog- ion fod o un meddwl. Canys os yw gwabanol farnau yn dda, dylem lawenbau pan y byddo pleidiau a barnau newyddion yn dyfod i fodolaeth, pan y gwir gredwn, fod llawer gormod yn bod, oblegyd nis gall pob un fod yn iawn, ac y byddai yn fendith, pe bai Uawer o honynt yn cael eu gyru i eborgofiant. Yn mhlitb y gwahanol annghrefyddau saif Puseyaeth. Efallai y gofyn rhai,—" Paham y gwnawn alw y gyfundraeth bon wrth yr envr yma? Y mae yn henach nâ Dr. Pusey, ac nid yw ef foddlon i'w galw ar ei enw ; paham ynte y gelwir hi ar ei enw ? ac nid yw y rhai sydd yn cofleidio yr athrawiaeth yn ei galw ar yr enw yma ; pahanrynte, y gorfodir hwy i gym-- meryd enw nad ydynt yn ei ddewis r" Y maent hwy gwedi dewis enw, ond nid oes raid i ni dderbyn yr enw hwnw. Yn fynych y mae cyfundraeth ddrwg ag enw da arni; a ydym ni i alw y gyfundraeth ddrwg wrth yr enw da ? Neu ynte, a ydym i alw y gyfundraeth wrth enw a wna ddangos natur y gyfun- draetb P x maent hwy gwedi mabwysiadu cyfundraeth, a galwant eu hunain " Yr Eglwys Gatholig, {The Catholic Church;) ond pe y siaradem am danynt "wrtb. yr enw yma, ni elbr gwybod lai nad at Eglwys Khufain y byddem yn cy- feirio. Ond y mae gwedi dygwydd i'r gyfundraeth hon, yn y modd y credir hi yn awr, gael ei galw yn Buseyaeth; wrth yr enw yma yr adnabyddir hi, ac nid wrth un enw arall, (oddieithr Tractariaeth ;) ac arferwn y cymmeriad. o her- wydd hyny. Pe byddai i ryw un ofyn.—" Paham yr ysgrifenir yn awr ar y pwnc hwn? " Yr ateb fyddai yn rhM ydd,—Y mae yn bwnc pwysig; pwnc ag y dylai gael ei ddwyn i sylw dynion. Y mae yn wir nad yw y gyfundraetb wedi ymddangos i raddau pell iawn yn Ngbymmru, ond nid yw byny yn brawf na wna hyny ; ac ifod yn ddystaw yn ei chyJch, yw rhoddi yr uwchafiaetb i'n gelynion. Y mae yr amser sydd wedi myned heibio yn profi eu bod hwy yn cymmeryd ein dystawrwydd yn roddiad i fyny iddynt. Pan yr ydym ni yn dawel a digyfíro, V maenthwy yn ddiwyd a llwyddiannus. Dywed un o'r Oxford Tracts,—" Dy- lai y gweinidog Cristionogol fod yn dyst yn erbyn cyfeiliornadau yr oes." Dy- \red awdurdod uwch wrthym, Ezec. iii, 18, 19,—" Pan ddywedwyf wrth y drygionus, Gan farw y byddi farw; oni rybuddi ef, ac oni lefari i rybuddio y drygionus oddiwrtb ei ddrygfíbrdd, fel y byddo byw ; y drygionüs hwn a fydd marw yn ei anwiredd: ond ei waed ef a ofynaf ar dy law di," &c. Eelly, efallai,yr awdurdodir ni ar y tbr yma i ddyweyâ ychydig am Buseyaeth. Syl- 26