Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMEE. Ehií. 499.] EBEILL, 1857. [Cxr. XL. CALFIN, CALFINIAETH, &* Mae eyfeiliornadau, tywyllwch, a thrawsarglwyddiaeth. yn estyn eu gwreidd- iau yn mhell ac yn ddwfn. Nid gwaith ysgafn y w dwyn oddiamgylch ddiwyg- iadau, yn enwedig diwygiadau crefyddol. Mae satan, fel satan, yn elyn gwrthnysig; ond ar ol ymrithio yn angel goleuni y mae ei wrthwynebiadau lawer yn fwy arswydol. Mae pob gormes yn anhyfryd, ond yr ormes sydd yn cadwyno y meddwl yw y waethaf; a'r dyn y raae ei feddwl mewn cadwynau yw y mwyaf anhawdd i'w waredu. Mae y Diwygiad Protestanaidd, Diwygiad yr unfed canrif ar bymtheg, yn dwyn i'n sylw gyfres o enwau ydynt i hanes- yddiaeth yn bwysig, ond i grefydd yn bwysicaeh.' Martin Luther, genedigol o gyff gwìadaidd, o bentref lsleben, yn Saxony, yn y flwyddyn 1483 ; Ubric Zuinglius, genedigol o dref Wildhausen, Westphaìia, yn Bremen, yn y flwydd- yn 1487; Philip Melancthon, a anwyd yn JBretten, yn y flwyddyn 1495 ; Eobert Stephen, argraifydd, a mab i argraffydd, a anwyd yn Mharis, yn y flwyddyn 1503 ; a John Calfin, Ffrancwr, mab i Gerhard Chauvin, cylchwr, (cooper,) o ddinas Noyon, o gylch triugain milltir o Baris ; ganwyd ef ar y degfed o Orphenaf, yn y flwyddyn 1509. Ymddengys fod tad John yn ddyn cyfrifol, eall, ac yn meddu gradd o ddylanwad; canys yr ydym yn cael ei fab yn yrysgol oreu yn y gymmydogaeth yn dechreu; a chyn ei fod uwchlaw oed- ran llanc, wedi ei dderbyn i goleg de la Marche, yn Mharis ; a chyn ei fod yn ddeuddeg oed, wedi derbyn capeüaeth La Gresine, yn eglwys gadeiriol ~Noyon ; acyn mhen tua chwe mlynedd ar ol hyny, wedi ei ddyrchafu i berigloriaeth Marteville, yr hon yn mhen tua dwy flynedd a newidiodd efe am berigloriaeth Pont C'Eveque, plwyf genedigol ei dad. Nid heb ddylanwad, meddaf, y gall- asai cylchwr ysgwtio ei fab rnagddo ar hyd grisiau sefydliad gwladol gyda'r buandra a nodwyd; oblegyd ofer son am deilyngdod mewn cyssylltiad â chy- nghrair nad yw yn ei gydnabod. SiolfoeHad, (tonsure,) urdd a gyrhaeddir yn eglwys Bhufain yn saith mlwTdd oed, oedd yr unig un a dderbyniasai y perig- lor ieuanc hyd etto, ac yn ol pob tebygolrwydd, hyd ddiwedd ei oes. Oddeutu yr amser hwn, diwedd y flwyddyn 1529, mewn cydsyniad â dymun- iad ei dad, ddywedir, efe a adawodd dduwinyddiaeth, ac a aeth i brif ysgol Orleans i astudio y gyfraith ; ac oddi yno, gan ddilyn yr un galwad, i brif ysgol Bourges a Pharis; neu o leiaf yr ydym yn ei gael ar ei dro yn y tair. Daeth efe yn y modd hwnw niegys yn ddamwainiol i gysswllt â dynion llawn o ysbryd y diwygiad; Melchior' Wohnar, Elhnyn duwiol a dysgedig, athraw yr enwog Beza; Stephen Forques, marsiandwr enwog yn Mharis, a diwygiwr diamgudí yr hwn ar ol hyny a oddefodd ferthyrdod; a Nicholas Cop, arberiglor Sor- boune, i'r hwn y cyfansoddes John Calfin araith i'w thraddodi ar ddydd gwyl yr Holl Saint, yn yr hon yr oedd saethau Uymion yn gyfeiried'g at Babydd- ìaeth, pa rai ar ol eu gollwng, a archollasant y doctoriaid hunanol ag oeddynt yn gwrando ; ffodd Cop am ei fywyd i Basle ; drwgdybiwyd Calfin, chwiliwyd ei letty—atafaelwydei holl ohebiaethau a'i ysgrifau, ac fe ddialeddasid arno yntau oni buasai iddo ffoi i 3Savarre, *o dan nawdd Marguerite, unig chwaer brenm Ffrainc. Yr oedd Marguerite yn wrthbabyddes, ac felly wedl tynu ati luaws o ddiwygwyr selog, megys yr hybarch James le Fevre, hen wr o ddysgeidiaeth 20