Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER, ltuir. 497.] CHWEFEOB, 1857. [Cyi. XL. GWEINIDOGAETH Y TESTAMENT NEWYDD. Yr anerchiad a draddodwyd i Fyfyrwyr Coleg Pontypwl yn y Cyfarfod Bly- iieddol diweddaf ; Mai 21, 1856. GAN Y PAECH, J. EOWE, BISCA. *' Eithr ein digonedd ni sydd o Dduw ; yr hwn hefyd a'n gwnaeth ni yn weinidogion c mhwys y Tea- tament Newydd," &c.—2 Cok. iii. 5, 6. Anwyl Fiìodye,—Nid oes genyf yr esgusawd lleiaf i'w wneuthur am gynnyg eicli anerch; caays od oes amryfusedd wedi ei wneyd, nid myfi ydyw yr awdwr ; cliwi a wyddoch eich hunain yn dda mai mewn cydsyniad à phender- fyniad y pwyllgor y cymmera hyn le. Fel brawd crefyddol a gweinidog i Grrist, pell ydwyf oddiwrth honi uwchafiaeth; eithr ar yr adeg bresenol yr wyf wedi fy newis i fod i chwi yn athraw; ae mor ball â hyny y raae genyf hawl i'ch sylw. Diau fod yr arferiad o draddodi anerchiadau blyneddol fel hyn i'r myfyrwyr yn eu cylchdro, wedi dechreu mewn d^^muniad hiraethus i berfleithio y weinidogaeth; ac nid ydych chwi yn fwy nag ereill uwchlaw bod yn agored i anngliofio eich hunaiu yn eich cyssylltiad â galwedigaeth. Felly, nid anfuddiol, efallai, yw cyíí'rôi eich meddyliau puraidd, a'u cyfeirio yn ddi- frifol at y prif bwnc i ba un yr ydych wedi ymgyssegru, yr hwn, ni a obeith- iwn, fel prif bwnc eich bywyd. Syniad ein testyn, yn ol diareb boblogaidd y dyddiau presenol yw, " The right man in the right place." Grellir sylwi ar bwnc y tceinidogaeth ; y cy- mhwysder gofi/nol i wasanaethu y pwnc ; ar ffynnonell lle gorwedda digonol- rwydd y gweinidogion. I. Pwnc, neu destyn yweinidogaeth—Y Testament Newydd. Ystyr Diatheke, " Teetament'' yn y testyn hwn, y w sefydliad, trefniant, neu oruchwyliaeth. Mae cyfammod fel cyfieithad o "Diatheke" yn golygu cydundeb, a chydundeb yn golygu dwy blaid oddi ar ryw ystyriaethau neillduol yn cyduno; ac y mae cy- fammod am y trefniant Cristionogol, oblegyd hyny yn cynnwys mwy nag sydd yn wirionedd ; canys y mae Cristionogaeth, yr hyn agydyw, yn gwbl annibynol ar farn, cyflwr, a tlieimladau pawb, oddigerth ei Hawdwr dwyfol yn unig. Mae Testament neu ewyllys yn cynnwys rhy fach; canys nid jw ewyllys o honi ei hun yn gyfraith; gweithred ydyw sydd yn agored drwy gyfraith i gael ei chyfreith- loni; ac mae y gyfraith sydd yn cyfreithloni goruwch yr hyn a gyfreithlonir ganddi. Mae Cristionogaeth ynddi ei hun yn gyfraith, ac yn gyfraith anni- bynol ar bob cyfraith arall; " cyfraithCrist" ydyw. Defnyddir "KainesDia- thekes," Testament Newydd, yn wrthgyferbynol i " Palaias Diathekes," yr Hen Destament, sef gweinidogaeth y " ílythyren." Perthynai i'r Hen Desta- ment luaws o weinidogion urddasol; eithr gweinidogion y Testament Newydd ydych chwi. Bydded i chwi ei ystyried a'i gymmeryd yn—- 1. Yn ei unigolrwydd—^Unig bwnc eich galwedigaeth, eich myfyrdod, eich cyfrinach, eich gweddiau, eich pregethau; unig bwnc eich bywyd. Dysgir y wers hon gan natur a dadguddiad. Y mae yr haul, y môr, yr awyr, a'r planed- au yn greaduriaid mawrion nerthol; ond y mae i bob un o honynt ei gylch a'i wasanaeth arbenigol ei hun ; nid yw 'yr un o honynt yn ymyraeth oll â gwas- anaeth y llall. Ac y mae yn debygol fod gan bob glaswelltyn, gronynyn, ao abwydyn drwy yr eang greadigaethei gylcn a'i wasanaeth, yn ol trefn ac or-