Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEEEN GOMEE. Enir. 496.] IONAWE, 1857. [Ctf. XL. CYMWYSIAD PEEGETH A DHADDODWYD GAN Y PARCH D. EVAIVS, DEEFNEWYDD, Yn Nghapel Penycae, Tachwedd 19, 1856, yn angladd y Parch. J, Williams, Iíhos-Uanerchrugog, " A'r doethion a ddysgleiritmt fel dysgleirdeb y fíürfafen; a rhai a droant lawer i gyfianwder, a fydd- ant fel y ser byth yn dragywydd." Dan. xii. 3." Gyfeillioîí liynaws a cliaredig,—Nid yw angenrhaid i'ch hysbysu, fod yr achlysur sydd wedi ein galw yn nghyd yn un tra difrifol a phwysig. Er nad oedd yn hollol annysgwyliedig; etto pan ddaeth, torodd fel taran ar ein clustiau, a chyffrodd ynom y teimladau mwyaf prudd a dolurus. Cyn y dechreuaf wneuthur unrhyw nodiadau ar yr adnoa a ddarllenais, crefaf eich amynedd a'ch hynawsedd. Pe'n hysbysasid ond ychydigoriau yn oly dysgwyhd fi i'ch anerch ar yr achlysur galarus hwn, buaswn yn fwy parod at y gor- chwyl. Fel y mae, gorfodir fi i daflu fy hun ar eich tynerwch a'eh cydoddefìad. Gwn y gwna fy mrodyr hoff yn y weinidogaeth, ag sydd yn bresenol, gydym- deijnlo â mi, ac anfon eu herfyniadau i'r nef ar fy rhan. Árweiniwyd fy medd- wl at yr adnod a ddarllenais, fel un bwrpasol i'r amgylchiad ag sydd wedi ein galw yn nghyd. Y pwnc a gynnwysa yw :— Cymmeriad a thyngedgwas yr Arglwydd—'Eì gymmcriad mewn cyssylltiad â'r byd hwn, a'i dynged mewn cyssylltiad á'r byd a dda^". At hwn yn nerth Duw, a than arweiniad ei Ysbryd, j caf am ychydig amser, alw eich myfyrdodau. I. Cymmeeiab gwas yk Aeglwydd mewn cyssylltiad a'e byd hwn. 1. Uti nodwedd yn ci gymmeriad yio rhinwedd. Mae yn " ddoeth." Def- nyddir y tormffolineb gan amlaf yny gyfrol sanctaidd, er trosglwyddo y drych- feddwl o annuwioldeb a phechadurusrwydd. " Ymadwch â'r rhai j^bZ, a byddwch fyv\r." " Mab doeth a wna dad llawen, a mab ffol a dristâ ei fam." " Hyfryd g&nffol wneuthur drwg." " Ffolineb sydd hyfryd gan yr ynfyd." Darllenwn hefyd am y ffol, neu yr ynfyd, yn ammheu bodoliaeth Duw.—Am y " morwyn- ion^br'—am " annuwioldeb ffolineb," Avrth ba rai y deallwn, nid gwendid syn- wyr, ond ei gamddefnyddiad. Yr un modd defnyddir y term doethineb fel un cyfystyr â duwioldeb. " Cerddwch yn ffordd deall." " Gan wr synwyrol y mae doethineb." " Gwr deallus a rodia yn uniawn." " Yn ddoethion tuag at y peth sydd dda." " Yn ddoethion yn ÿTghrist." " Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb." " AYele ofn yr Arglwydd, hyny ydyw doetliineb; a ehilio oddiwrth ddrwg sydd ddeall." Pan y dywedir, o ganlyniad, yn yr adnod dan sylw, fod gwas yr Arglwydd yn " ddoeth, ' deallwn ei fod yn berson a nodweddir gan dduwioldeb ymarferoí. Nid yw duwioldeb ynddi ei hun, yn ddigon o gymliwysder i'r swydd weinidogaethol. Medda llawer ar dduwioldeb ag ydynt yn hollol annghymhwys i'r gwaith; ond nid yw yr holl gymliwysderau ereill.yn nghyd o un dyben yn eihabsenoldeb. JSTid gwaeth beth fyddo cyrhaeddiadau meddyliol y dyn, os nad yw yn " ddoeth i iechydwr- iaeth." Nid gT\-aeth beth fyddo eangder ei wybodaeth, os nad yw " yn ddoeth tuag at y peth sydd dda." Bhaid i'w fywj'd fod yn deilwng o efelychiad, yn gystal â'i addysgiadau fod yn deilwng o dderbyniad ; rhaid iddo fod yn " Ddyn Duw," yn ei debygoliaeth moesol i Dduw. Byddai yn beth mwy rhesymol, cysson, a chydweddol, i alw dyn yn fardd, na feddai ar awen; vn areithiwr, na