Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER 49 Ddu, sonia am hoffter rhyfeddol Ieuan er yn blentyn ieuanc iawn o'r gelfyddyd o argraffu, ac mai anhawdd oedd ei gadw pan nad oedd ond wyth neu naw mlwydd oed oargraff-dy Mr. David Jenkins. Arweiniodd hyn ei dad i'w brentisio yn argraffydd pan yn ddeng mlwydd oed gyda Mr. Jenlrins, ac feallai mai y cysylltiad hwn âr argraffwasg arweiniodd i'r ymgymeriad o gyhoeddi " Y Seren." Boed hynny, fodd bynnag, fel y bo, cáwn i chwech o foneddigion—y Mri. John Voss, John Walters, Thomas Walters, David Walters, David Jenkins, a Joseph Harris—yr oll o dref Abertawe—ymffurfio yn gwmni bychain i'w chyhoeddi—Harris yn gweithredu fel Gol- ygydd, a David Jenkins yn argraffydd a chyhoeddwr. Dydd i'w hir-gofìo yn hanes llenyddiaeth gyfnodol Cymru ydyw dydd Sadwrn, Ionawr iaf, 1814—dydd ymddanghosiad cyntaf " Seren Gomer." Yn y ffurf o bapyr newydd wythnosol yr ym- ddanghosodd ar y dydd hwn. Dwy ddalen yn unig sydd yn ei gwneyd i fyny, eu mesur yn 20 modfedd wrth 15 modfadd, a'i phris yn chwe' cheiniog a dimai y rhifyn. Dyma beth newydd yn hanes Cymru ! Papur newydd Cymraeg ! Nid oedd prin ddeng mlynedd ar hugain wedi myned heibio oddiar pan gychwynodd y newyddiadur Seisnig The Times, a dyma gynnyg yn cael ei wneyd i gynysgaeddu y Cymro uniaith a phapyr newydd yn ei iaith. Mae y tir dorrir yn hollol newydd, nid oedd cynllun o fath yn y byd i'w ddilyn, a'r syn- dod yw fod y papur mor ddifrychau a rhagarol o ran ei drefn a'i fater hyd yn nod yn y rhifyn cyntaf! Pwy alì ddirnad maint y llafur a'r gofal fu ynglyn a'i baratoi a'r pryder ynglyn a'i ymddang- hosiad ? Ei enw yn llawn ydyw " Seren Gomer, neu hysbysydd wythnosol cyffredin dros holl Dywysogaeth Cymru." Ar wyneb- ddalen ei rhifyn cyntaf mae tua dwy golofn a hanner o " Anerchiad i'r Cymry," oddiwrth y Golygydd, yr hwn sydd yn engraifft dda o'i Gymraeg grymus. Gellir gweled rhannau ohono wedi ei ddifynnu yn Seren Gomer Medi, 1897 tudalen 184. Ar dudalen cyntaf y rhif- ynnau dilynol ceir crynhodeb byr o newyddion tramor—newyddion am y rhyfel yn bennaf—a chyrhaedda ymlaen fynychaf dros y rhan fwyaf o'r tudalen dilynol. Ysgrifennir ef gan y Golygydd wedi ei gyfieithu, mi dybiwn, o'r papyrau Seisnig. Ar y trydydd tudaien ceir " At ein Gohebwyr," ac am rai misoedd sylwadau ar gwrs y byd. Ac ar yr olaf ceir barddoniaeth a gohebiaeihau. Ceir hefyd ychydig o hysbysiadau ar ei thudalennau, a chofnodir ynddi hanes- ion cyfarfodydd, priodasau, marwoiaethau, yn ogystal a phris y farchnad am yr wythnos. A dyna i chwi brif linellau cynhwysiad papyr newydd cyntaf Cymru. Dydd y pethau bychain ydoedd hi yn y dyddiau hynny, a llawer o bethau megys yn cyfuno i ber- yglu llwyddiant yr anturiaeth. Nid yn unig yr oedd yr amseroedd yn gynhyrfus, arian yn brin, a darllenwyr Cymraeg yn anaml, ond yr oedd yr hin yn anarferol o oer yn nechreu y fiwyddyn 1814, a thybiai llawer mai barn oddiwrth yr Arglwydd oedd yr oerni mawr. " Eira'n drwch, oer hin drom, Dyrnod am bechod arnom "