Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN • GOMER Cyfres Newydd.] AWST 15, 1906. Rhif4, Cyf. XXVII. <£ly/r Co/(\odioi\ CWRDD CHWARTER EGLWYSI Y GYMANFA OR- LLEWINOL OEDD O GAERFYRDDIN I ABERTAWE AC ODDIAMGYLCH, O 1794 HYD 1846. HANES Y CYFARFOD CWARTERAWL YN FFYNNON HENRY AR Y ioed o AWST, 1796. MLAEN pob peth bu ymbiliau, gweddiau a deisyfiadau gan y Brodyr Wiìlam Thomas o'r Panteg, a William Tlwmas o Flaenau Gwent. Yna pregethodd y brawd Daniel Davies oddiar Datguddiad 22. 16, " Myfiyw gwreidd- yn a Hiliogaeth Dafydd a'r serenforeu eglur : ac yn ol hynny pregethodd y brawd Daniel Jones oddiar Datguddiad 3. 12. " Yrhwn sydâyn gorchfygu mi a% gwnaf yn goìofn yn nheml fy Nuw I, ac allan nid a efe mwyach."- Yn olaf pregethodd y brawd Timothy Thomas oddiar 1 Ioan 1.3. uYv hyn a welsotn ac a glywsom yr ydym yn ei fynegi i chwi,fely caŷoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni, a'n cym- deithas ni yn wir sydd gyda'r Tad a chyda'i fab ef yr Arglwydd Iesu Grist;" a diweddodd yr odfa trwy weddi. Yn ol gorphwys ychydig a chymmeryd lluniaeth—Dechreuwyd eistedd i ymddiddan a chyfeill- achu—a gofynwyd a oedd un cwestiwn wedi ei adael oddiar y cwrdd o'r blaen, i'r hyn yr attebwyd—Mai'r cwestiwn a roddwyd ger ein bron oedd, " Beth ydyw eíFeithiau Ffydd neu grediniaeth," gan nad oedd neb wedi scrifenu arno, a chan ei fod o gymmaint bwys, Cyt- tunwyd ei adael erbyn y cyfarfod nesaf.—Yn ganlynol fe fu ychydig o ymddiddan am yr Ysgol i lefarwyr ieuaingç oeddid yn fwriadu eu