Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOMER. Cyfres Newydd.] CHWEFROR 15, 1906. Rhif 1, Cyf. XXVII. )\wdurdod y Jeibl. Gan y Parch. D. Powell, Lerpwl. E haerir yn wawdlyd gan amheuwyr fod y Cristion yn credu yn awdurdod ddwyfol y Beibl am fod rhywun arall wedi ei sicrhau ef o hynny, a ffol dybir fod y fath haeriad yn chwalu'n anobeithiol yr awdurdod hon ei hun a'r ffydd ynddi. Ac yn anffodus, y mae llawer na welant, yn fwy na'r haerwyr eu hunain, ffug dilen yr haeriad. A chan- iatau fod y Cristion crybwylledig yn credu yn awdurdod ddwyfol y Beibl ar sail tystiolaeth rhywun arall, y cwestiwn yn awr yw, beth yw sail y dystiolaeth honno ? Nis gall cred ail law y Cristion wneud y dystiolaeth am y Beibl yn ddiwerth, yn fwy na all fy nghred ail law i yn nhystioliaeth seryddw'r wneud ei dystiolaeth ef am seryddiaeth yn ddiwerth. Gwawdier os mynner y Cristion ddeil y gred ail law, ond ni ddylai neb fod mor ffol a thybio y gwanha hynny yn y mesur lleiaf y rhesymau dros awdurdod ddwyfol y Beibl. Rhaid i'r amheuwr wynebu yr hwn sydd wedi bod yn llygad y ffynnon, ac yn tystio fod ei dyfroedd yn fywiol a dwyfol, a phrofi, os gall, fod hwn yn twyllo, neu'n hunandwylledig. Rhaid iddo ymhellach gyfrif am y flaith mai'r efrydwyr gonestaf a galluocaf, fel rheol, sydd â'r ffydd ddyfnaf a chadarnaf yn y Beibl. Gwynebir ef eto âg anhawster difrifol arall. Pa fodd y gall gyfrif fod miloedd yng ngwledydd cred a phaganaidd wedi dyfod i adnabyddiaeth o Dduw, ac i feddiant o'r bywyd uchaf, sydd wedi gwneud dynion newydd o honynt, drwy ddarllen a myfyrio'r Ysgrythyrau yn unig heb gynhorthwy yr un athraw ? Yngwyneb ffeithiau fel hyn, ynfyd- rwydd noeth yw ceisio ysgubo ymaith awdurdod ddwyfol y Beibl âg haeriadau disail, nac â gwatwareg ddirmygedig.