Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

lí oowm. Cyfres Newydd.] TACHWEDD, 1905. Rhif 6, Cyf. XXVI. )\wdurdod y ^e^- Gan y Parch. D. Powell, Lerpwl. AHAM y credwn yn awdurdod ddwyfol y Beibl ? Beth yw gwir ffynhonnell a natur ei awdurdod mewn crefydd a moes ? Ai yn ei awdwyr ysbrydoledig, neu yn ei wirionedd ysbrydoledig y gorwedd ei awdurdod ?' A ydyw'r dylanwad dwyfol yn y ffrydiau fel y llifant allan o'i groth ef ? Ai enwau'r awdwyr ysbrydoledig sydd yn rhinweddoli'r ffrydiau ? Ai gwirionedd y Beibl ynddo ei hun yw deddf ein bywyd ? Ai'r awdwyr, fel math o babau, sydd yn rhoddi iddo ei awdurdod ? A ydyw awdurdod y Beibl yn debyg i awdur- dod deddf gwlad dderbynia ei grym oddiwrth lawnodiad y brenin ? neu yn debyg i awdurdod deddf natur—awdurdod ymgyfyd o honi ei hun ac sydd gyfystyr â hi ? Mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng natur y ddwy awdurdod hyn, a dylem ddeall y gwahaniaeth yn glir. Mae'r naill yn allanol, ac yn gelfyddydol neu ddeddfol, ac yn amddifad o wir foesolrwydd. Mae'r lla.ll yn fewnol, moesol ac ysbrydol, ac yn gweithredu'n uniongyrchol ar natur foesol ac ysbrydol dyn. Yng ngwyneb hyn, y mae'n bwysig i ni ddeall ai dylanwad gwirionedd ar ein natur foesol yw awdurdod y Beibl, neu ddylanwad enwau ei awdwyr. Gadewch i ni gymeryd enghraifft neu ddwy er mwyn gwneud y pwnc yn gwbl glir. Paham y cydnabyddwn, er enghraifft, awdurdod ddwyfol y Deg Gorchymyn ? Ai am y credwn yn ddibetrus iddynt gael eu rhoddi trwy Moses, un g broffwydi mwyaf awdurdodol yr oesau ? Os felly, derbyniant eu hawdurdod oddiwrth Moses, fel y derbynia deddf gwlad ei hawdurdod oddiwrth y brenin. Y mae eu hawdur- dod yn allanol iddynt hwy eu hunain, ac yn anibynnol ar eu