Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GO]VLER Cyfres Newydd.] MEDI, 1905. Rhif 5, Cyf. XXVI. )Wdurdod y JJeibl. Gan y Parch. D. Powell, Lerpwl. MHA beth y mae'r Beibl yn awdurdod ? Beth yw cylch ei awdurdod ? A ydyw yn awdurdod mewn athroniaeth, gwyddoniaeth, diwinyddiaeth, hanesiaeth, barddoniaeth, gramadeg, ac ymhob gwybodaeth y cyffyrdda â hi ? Mewn geiriau ereill, beth yw amcan y Beibl ? Yngoleuni ei amcan y dylid barnu ei awdurdod a'i nerth. Hyn yw ein safon i farnu pob llyfr. Ni ddisgwyliwn i lyfr athron- yddol fod yn awdurdod mewn gwyddoniaeth, hanesiaeth, a barddon- iaeth, er iddo eu cynnwys oll. Amcan athronyddol sydd iddo, ac awdurdod a gwerth athronyddol ddisgwyliwn ynddo. Disgwyliwn i lyfr gwyddonol fod yn awdurdod mewngwyddoniaeth, acnid mewn hanesiaeth; a llyfr hanesyddol fod yn awdurdod mewn hanesiaeth, ac'nidmewn gwyddoniaeth ; a gramadeg ieithyddol fod yn awdur- dod mewn rheolau iaith, ac nid mewn rheolau cerddoriaeth. Ceidw'r egwyddor syml hon ni rag syrthio i gamsyniadau am natur awdurdod pob llyfr, oddieithr, fe ddichon, y Beibl. Gwneir y Beibl, mae lle i gredu, yn awdurdod mewn pynciau orweddant y tu allan i'wamcan, a gcsodir ei awdurdod i grogi ar ei anffaeledigrwydd ynddynt. Eir mor bell a haeru y dinystrir ei awdurdod ysbrydol a moesol, os y syrthia i gamsyniadau hanesyddol a gwyddonol. Mae'n bwysig yng ngwyneb hyn, os ydys i ddiogelu gwir awdurdod y Beibl, i wybod ei amcan, a oarnu ei awdurdod yngoleuni'r amcan hwn yn unig. Ni ra:d petruso am wir amcan y Beibl, oherwydd mynega ef ei hu'7 yn ddiamwys a digamsyniol, yn rhediad cyffredinol ei ddysgeid- iaelh, ac mewn mynegiadau neilltuol a phendant, beth yw ei wir