Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GO]\ffiR Cyfres Newydd.] GORFFENNAF, 1905. Rhif 4, Cyf. XXVI. personoliaeth "pregethwr. 2 COL. VÌ. 5. Nodiadau 0 bregeth draddodwyd i fyfyrwyr Athrofà'r Bedyddwyr ym Mangor, Mehefin 16, 1905. MAE Vinet, a lliaws o ysgrifenwyr rhagorol eraill, yn dadleu yn erbyn yr arferiad i godi testyn. Y mae y ffaith fod llawer o wirioneddau pwysig na cheir mewn un adnod nac mewn paragraff yn ddadl o blaid y golygiad. Un o'r cyfryw yw y pwnc yr wyf am alw eich sylw ato. Ceir hedyn o'r mater yn y testyn sydd gennym, ac yr ydym wedi barnu, ér na cheir ond yr hedyn ynddo, mai gwell cael testyn na pheidio. Arall-eiria Thos. Charles Edwards, D.D. yr adnod hon, fel ag y mae dwy frawddeg o honi yn darllen :—" Yr ydym yn pregethu ein hunain, er nad ydym yn pregethu ein hunain." Mae yma anghyson- deb ymddangosiadol, ond un wedi ei fwriadu gan yr apostol wrth ysgrifennu. Mae pob gwir bregethwr yn pregethu ei hunan er nad yw yn pre- gethu ei hunan. Rhaid iddo bregethu ei hun, a rhaid iddo beidio pregethu ei hun. Yr hwn all wneud y naill a'r llall yr un pryd yn fwyaf Uwyr ydyw y pregethwr goreu. Bydd a fynno ni â'r cyntaf— yr elfen o bersonoliaeth yn y pregethwr. Hyn yw ein mater—per- sonoliaeth y pregethwr, yn yr hyn ydyw, ei ddylanwad, a'i wrteithiad. 1. Personoliaeth yn yr hyn ydyw. Wrth bersonoliaeth y golygwn briodoleddau personol (personal gualities). Yr hyn ydyw y dyn ynddo ei hun, cynhwysa yr hyn ydyw yn feddyliol, yn anianyddol, yn foesol, ac ysbrydol. Swm ein holl feddiannau corfforol a meddyliol; cryn-