Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SERE^ « GOMER. Cyfres Newydd.] MAI, 1905. Rhif 3, Cyf. XXVI. BORD GRON.-Y DIWYGIAD. piwygiad 1859 a J$edyddwyr Cymru. OR bell ag y gall y dynol olrhain cychwyniad " Diwygiad '59," y mae rywbeth fel y canlyn:—Cyflogwyd Jeremia Calvin Lamphill gan yr " Old North Dutch Church," yn Fulton Street, New York, fel cynorthwywr i'r gweinidog. Un o'r pethau cyntaf wnaeth Lamphill oedd galw cyfarfod gweddi am hanner dydd, yn un o ystafeiloedd yr addoldy. Bu yno am hanner awr wrtho ei hun y dydd cyntaf, sef Medi 23ain, 1857. Ymhen hanner awr daeth un arall ato. Cyn diwedd y cwrdd yr oeddynt yn chwech. Yr oedd yno Bresbyteriad, Bedyddiwr, Anibynwr ac un "Reformed Dutch." Daeth ugain i'r cyfarfod gynhaliwyd ymhen yr wythnos. Ar derfyn pedwar mis gorlenwid tair o neuaddau â'r gweddiwyr. Yr un modd llanwyd pob man yn ninasoedd New York, Brook- lyn, Jersey City, Newark, a'r cylchoedd. Lledodd y dylanwad yn fuan trwy yr Unol Dalaethau, a chreodd gyfnewidiad parhaol graslawn ar fywyd yr holl bobl. Cydiodd y tân yng nghalon y Parch. Humphrey Jones, gwein- idog Wesleyaidd a lafuriai ymhlith Cymry America. Gwnaeth ef lawer er deffroi ei gyd-genedl yn y wlad bellenig honno, ond nis gallai orffwys heb ddyfod drosodd i Gymru er mwyn tanio yr egiwysi yma. Dychwelodd o bwrpas i hynny, a llwyddodd yn rhyfeddol. Yr oedd y tân eisoes yn cynneu yn Lloegr, Ffrainc, a'r Iwerddon. Fel Diwygiad '58, y cyfeirir at yr ymweliad yn yr Iwerddon. Cydiodd yn gryf iawn yn yr Ynys Werdd. Un o'i effeithiau hynod oedd, fod llaweroedd yn cael eu dal gan wasgfeuon ofnadwy dost pan yn cael eu hargyhoeddi o'u cyflwr coliedig.