Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOMER. Cyfres Newydd.] IONAWR, 1905. Rhif 1, Cyf. XXVI. Y |tedyddwyr Gymreig a piwinyddiaeth y pdeunawjed GanriJ. MAE llenyddiaeth unrhyw gyfnod yn hanes cenedl yn ymddibynnu ar amodau, amgylchiadau, a chymeriad ei bywyd yn ystod yr amser hwnnw. I ba gyfeiriad bynnag yr edrychir, gwelir fod hanes bywyd a hanes llenyddiaeth gwahanol genhedloedd yn perthyn yn agos iawn i'w gilydd. Dengys eu llenyddiaeth yr hyn y maent yn ei fedddwl, yn ei deimlo, ac yn ei ddymuno; tra yfa eu bywyd cyfFredin gwelir pa mor bell y llwyddant i sylweddoli y pethau hyn mewn ymarferiad. O ganlyniad, er deall symudiadau gwahanol gyfnodau, rhaid eu darllen yngoleuni llenyddiaeth y cyf- nodau hynny, ac yn y modd hwnnw ceir golwg arnynt megys o'r tufewn yn hytrach nag o'r tuallan. O'r ochr arall, er mwyn deall llenyddiaeth y cyfnodau hyn, rhaid eu darllen yngoleuni hanes. Rhydd hanes cenedi y Cymry a hanes ei llenyddiaeth yn y ddeu- nawfed ganrif engraifft amlwg o hyn. Hon oedd cyfnod ei deffro. Wedi nos hir a chwsg trwm cododd ei gwawr, a deffrodd hithau. Deffrodd o honi ei hun. Gwnawd cais ar ol cais mewn llawer dull a modd, ond ni thyciai dim nes dyfod o gyflawnder ei hamser iddi ddeffro o honi ei hun. Yr oedd cyflwr Cymru yn grefyddol, moesol, a meddyliol, ar ddechreu y cyfnod dan sylw, yn isel iawn. Mae'n wir fod rhai, er mwyn mawrhau gwaith y Diwygwyr Methodistaidd, neu mewn an- wybodaeth, wedi gwneud y darlun yn dduach nag yr oedd. Nid oes angen creu tywyllwch o amgylch y rhai oedd nesaf i'r Diwyg- wyr er cynnal disgleirdeb y rhai hynny, oblegyd y maent yn ddigon