Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhíf. 495.] RHAGFYR, 1856. [Cyf. XXXIX. HANES ROGER WILLIAMS. CAN Y PARCH. EDWARD ROBERTS, BETHEL, MYNWY. (buddugol yn eisteddfod blaenau gwent.) " Roger Williams justly claims the honour of having been the first legislator in the world, in its latter agcs, that fully and cffectually provided for, and established a full, frec, and absolute liberty of ronsciencc."—Governoe Hoprins. RHAGARWEINIAD. Mae goreuon ac enwogion y ddaear, o'r braidd heb un eithriad, yn byw o flaen eu hoes a'u hamserau, o achos paham y dyg- wydd i'w henwau yr anffawd o orwedd yn hir dan lèni tywyllwch, os nad gwarthiant a chabledd, cyn dysgleirio o'u teilyngdod a'u gwir werth i'r golwg. Nid yw hyn yn fwy gwir am neb nag am y gwroniaid Puritan- aidd, ysbrydiaeth pa rai a eilw Carlyle, " The last ofall our heroisms." Wedi aros yn hir o'u cofl'adwriaeth clodwiw dan garn- eddau o ysgarthion ag oedd esgeulusdod, casineb, acenllib, wedi bentyru arnynt, mae ysbryd ymofyngar ac annibynol yr oes bre- senol yn ddiwyd yn eu dadgladdu, ac yn symud y rhwd, er profì o ba fetel y maent yn wneuthuredig. I bob meddwl o chwaeth, dilys fod ffrwyth y cyfryw' ddadgladdiadau moesol yn llawer mwy gwerthfawr níì'r teirw adeiniog a ddygir o adfeilion Nimroud i'r Greirfa Frutanaidd {British Musaim), drwy lafur clodfawr Layard ac ereill. Un o blant y cyffröad nerthol Puritanaidd, yn nechreu yr eilfed ganrif ar bumtheg, oedd Roger Williams, cnw, er iddo fod yn hir heb neb i godi iddogofadail goffadwriaethol, sydd y dydd heddyw, yn America, ac yn y wlad hon, yn uchel ei fri fel Cristion didwyll a goleuedig, ac un o brif lesolwyr ei oes ei hun, a'r oesau dyfodol. Yr ysgrifenydd cyntaf a ddaeth allan o ddifrif i wneyd cyfiawnder diduedd â choff- adwriaeth rhyglyddus y Cymmro enwog dan sylw, mewn bywgraffiad o un maintioli, oedd J. D. Knowles o America. Gwnaeth y llyfr hwn ei ymddangosiad yn y flwyddyn 1833, sef yn mhen oddeutu cant a hanner o flyn- yddau wedi marwolaeth gwrthddrych y cof- iant. Mewn perthynas i Roger Williams, dywed yr awdwr gonest a diragfarn hwn, " O herwydd cael ei gamddeall a'i gamddar- lunio, cafodd ei gau allan yn hir o'i le pri- 67 odol yn raysg sylfaenwyr a noddwyr Lloegr Newydd. Yr haneswyr boreuol, Morton, Mather, Hubbard, ac hyd y nod Winthrope, a soniant am dano mewn geiriau celyd ac anngharedig. Yr ocdd ei egwyddorion gwlad - ol a chrefyddol yn atgasyn ngolwg y cenedl- aethau cyntaf; ac nid îyw yn rhyfedd ei fod yn cael cdrych arno, ac ymddwyn tuag ato, fel crefyddwr penboeth acofergoelus, ather- fysgwr peryglus yn y wladwriaeth. Ond weithian, mae y syniad hwnw o gyfiawnder ag sydd, o'r diwedd, yn buddugoliaethu ar ragfarn a cham, wedi gosod enw Roger Wil- liams yn ei safle priodol yn mysg prif gym- mwynaswyr y byd, a diwygwyr y gymdeithas ddynol. Yr hyn fu yn foddion i ddwyn ei enw i radd helaethach o adnabyddiaeth a sylw nag o'r blaen yn y wlad hon, oedd gwaith yr " Hansard KnolIys Society " yn ail gy. hocddi ei draethawd enwog a champus, o'r enw " Bloody Tenet," gyda rhaglith buch- dracthol iddo gan y golygydd galluog, E. B. Underhill, Ysw. Yn ddiweddat oll, cy- hoeddwyd yn y wlad hon, hanes ei fywyd a'i amserau mewn dullwedd ddyddorawl a phobl- ogaidd, gan Romeo Elton, D.D., F. R. P. S. Oud hyd yma nid yw yr ysgrifenydd yn wy- bodus fod dim yn debyg i grynodeb o'i hanes wedi ymddangos yn yr iaith Gym- mraeg. Nid ydyw hyn yn un prawf o goeth- der ein brwdfrydedd cenedlaethol ag yr ym- ffrostiwn gymmaint ynddo, yn enwedig, yn ein perthynas â'n henafiaid dewrwych ag oeddynt yn cael y fath hwyl i gigyddio eu gilydd. O'r diwedd, dyma gynnyg wedi ei wneyd tuag at symud y gwarth, a dwyn y Cymmro clodwiw, sylfaenydd dewrwych llywodraeth Ynys Rhode, yn y byd gorllewinol, i sylw gwlad ei enedigaeth, gan un o'r eisteddfodau mwyaf parchus a hyddawn yn y Dywysog- aeth. Òs na bydd fy nghydymgeiswyr yn fwy ftbdus nâ myfi,- mae yn dra sicr genyf mai eu trallod penaf fydd diffyg hysbysiaeth helaethach mewn perthynas i achyddiaeth a helyntion borcuol ein gwron, yr hyn, fel yr ymddengys oddiwrth hysbysiad y pwyllgor,