Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 494.] TACHWEDD, 1856. [Cyf. XXXIX; COFIANT Y PARCH. WILLIAM JONES, 0 GAERDYDD. GAN Y PARCH. THOMAS THOMAS. Y mae enw William Jones wedi bod yn dàl cyssylltiad agos â hanes enwad y Bed- yddwyr yn Nelieubarth Cymmru am yn agos i hanner can mlynedd. Cafodd ei eni ar y laf o Awst, 1790, mewn lle o'r enw Pen-y- caemain, yn mhlwyf Llangadog, sir Gaer- fyrddin. Mewn llaw-ysgrif o'i hanes borëol, dywed Mr. Jones am ei rieni fel hyn :— " Yr ocdd ganddynt chwech o blant, o ba rai myfi oedd yr ieuengaf ond un ; a buont fyw gyda'u gilydd yn y sefyllfa briodasol am yspaid tri ugain a dwy o flynyddau, pan y bu fy nbad farw, yn bedwar ugain a saith oed, gan adael fy mam yn weddw, yr hon oedd y pryd hwnw yn bedwar ugain oed. Bu hi fyw dair blynedd ar ddeg ar ei ol ef, ac a orphenodd ei gyrfa yn yr oedran hirfaith o bedwar ugain a thair-ar-ddeg." Yn eu blynyddoedd borcol, aeth y pâr hybarch hwn drwy lawer o brofedigacthau, ac a brofasant lawer o gyfnewidiadau yn eu cynnysgaeth ; ond yn ddyeithriaid i grefydd bersonol, ac yn esgeuluso dwyn eu plant i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Ychydigiawn o grefydd efengylaidd oedd yn y rhan hòno o'r wlad lle yr oeddynt hwy yn byw. Nid oedd Ysgol Sabbothol mewn bodoliaeth, nac un ysgol ddyddiol fuddiol o fewn cyrhaedd plant ieuainc. Yr oedd y bobl ieuainc yn treulio llawer o ddydd yr Arglwydd mewn campau anfoesol, a'r hen ŵr a'r hen wraig yn ymddifyru eu hunain wrth ymddyddan am helyntion eu cymmydogion. O dan yr amgylchiadau anffafriol hyn, dechreuodd teimladau crefyddol wasguyn ddwysar fedd- wl William Jones, yn yr oedran bore o bump neu chwech mlwydd oed. Cân a ddarllen- wyd iddo gan ei frawd, allan o'r hen waith enwog a elwir " Llyfr y Ficer, ncu Ganwyll y Cymmry," yn nghyd âg atebion ei fam i'w ofyniadau mewn perthynas i boenau y " gwr goludog " yn uffern, a ddadguddiodd iddo, am y tro cyntaf, y gwirionedd dychrynllyd, fod y drygionus yn angeu yn myned i drueni tragywyddol. Yr oedd hyn yn ddadguddiad arswydus i'w feddwl ieuanc athyner ; oblegid yr oedd eisoes yn teimlo ei fod yn bechadur, ond heb wybod dim am y llwybr i ddianc rhag y gosp ddyfodol. Yn y fath sefyllfa 01 bwysig a pheryglus a hon o ran ei feddwl, mor werthfawr a groesawgar fuasai addysg- iadau rhieni duwiol, neu athraw Ysgol Sab- bothol ! Ond nid oedd yr un yn y teulu, na'r gymmydogaeth, âpha un y gallasai ym- ddyddan, neu oddiwrth ba un y gallasai gael y cynnorthwy angenrheidiol. Efe a barha- odd i holi ei fam, atebion anfoddhäol yr hon a gynnyddodd ei betrusder, ac a'i gỳrodd yn mron i anobaith. Dysgwyd iddo Ẅeddi yr Arglwydd, a Chredo yr Apostolion, y rhai a adroddai yn aml, dan yr ystyriaeth fod hyn yn wasanaeth clodfawr iawn. Pan yn y sef- yllfa hon o ran ei feddwl, fe'i dygwyd gan ei dad, am y tro cyntaf, i gapel y Presbiter- iaid, yr hyn a'i boddháodd yn fawr, nid am fod ganddo un meddylddrych am natur add- oliad ysbrydol, ond o herwydd ei fod yn meddwl y buasai ei wasanaeth yn fath o iawn am ei bechodau. Yr oedd ei chwaer, yr hon oedd ddwy flyneddyn henach nag ef, yn wrthddrych yr un cyffelyb deimladau ag ef ei hun, ac yr oeddynt eill dau yn arfer ymneillduo gyda'u gilydd i adrodd eu gweddiau. Önd ychydig oedd yn ei am- gylchiadau, ac yn nghymdeithas ei gyfoedion, yn ffafriol i gynnydd egwyddorion crefyddol. Fel yr oedd yn dyfod i fyny i ddàl cym- deithas agosach âg ieueuctyd y gymmydog- aeth, efe a ymgyssylltodd yn awyddus â hwynt yn eu chwareuon a'u difyrwchgwlad- aidd, yn mha rai yr oeddynt yn gyffredin yn treulio prydnawn dydd yr Arglwydd. Er hyny, mewn m}rnydau o adfyfyriad, yn neill- duoî yn y gwely yn y nos, teimlai gnöadau cydwybod, a darogan digofaint dyfodol; ond yr oedd yn cael tawelwch yn yr add- ewid o welliant mewn henaint, ac edifeirwch gwely angeu. Efe a barhäodd yn y sefyllfa hon nes oedd oddeutu deng mlwydd oed ; ac hyd yr amser hwn, ni bu ddiwrnod erioed mewn ysgol. Ond yn y dysgwyliad o gael ei anfon i'r ysgol yn y gymmydogaeth i ba un yr oeddynt ar symud, llwyddodd gan ddau o'i gymdeithion ieuainc i ddysgu iddo yr eg- wyddor {alphabet), yn lle chwareu ar bryd- nawn Sabbothau. Yn fuan ar ol hyn, aeth i ysgol wledig fechan, Ue ydysgodd ddarllen ac ysgiifenu Cymmraeg a Saesneg, ac y cyr-